Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a oedd yn edrych yn fanylach ar y rhesymau am foddhad neu anfodlonrwydd â meddygon teulu a gwasanaethau ysbyty'r GIG ar gyfer Ebrill 2014 i Mawrth 2015.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif bwyntiau
Y ffactorau mwyaf dylanwadol o ran boddhad cyffredinol â gofal meddygol gwasanaethau meddyg teulu yw:
- boddhad o gael yr holl wybodaeth angenrheidiol yn yr apwyntiad
- teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch gan staff meddygol
- teimlo bod y meddyg yn ymwybodol o wybodaeth gefndir berthnasol a hanes meddygol.
Y ffactorau mwyaf dylanwadol o ran boddhad cyffredinol ag agweddau meddygol o wasanaethau ysbyty yw:
- teimlo bod staff meddygol yn ymwybodol o wybodaeth gefndir berthnasol a hanes meddygol
- teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch gan staff meddygol
- teimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am driniaeth.
Adroddiadau
Barn am wasanaethau iechyd arolwg ail-gysylltu (Arolwg Cenedlaethol Cymru), Ebrill 2014 i Mawrth 2015 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.