Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiodd yr arolwg ail-gysylltu ddeall sut y gellir mesur hyder yn y system addysg, ac archwilio materion yn ymwneud â chefnogaeth rhieni i addysg plant ar gyfer Ebrill 2013 i Mawrth 2014.

Prif bwyntiau

  • Pan ofynnwyd iddynt roi gradd i’w hyder yn y system addysg yng Nghymru ar raddfa o 0 i 10 lle’r oedd 0 yn golygu ‘ddim yn hyderus o gwbl’ a 10 yn ‘eithriadol hyderus’, rhoddodd y mwyafrif o ymatebwyr (63%) sgôr o 7 neu fwy (wedi’i ddiffinio fel ‘hyderus’).
  • Pan ofynnwyd iddynt beth roedden nhw’n ei feddwl am gyflwr addysg yng Nghymru y dyddiau hyn ar raddfa o 0 i 10, lle’r oedd 0 yn ‘eithriadol ddrwg’ a 10 yn ‘eithriadol dda’ rhoddodd y mwyafrif o ymatebwyr (71%) sgôr o 7 neu fwy.
  • Mae gwaith dadansoddi’n dangos bod hyder pobl yn y system addysg yng Nghymru a’r sgôr y byddent yn ei rhoi i gyflwr addysg yng Nghymru’n gyffredinol yn weddol debyg, ond nad ydynt yn ystyried bod y ddau yr un peth.
  • Roedd y mwyafrif llethol (95%) o rieni’n teimlo eu bod yn cyfranogi yn nysgu a datblygiad eu plentyn, er bod ychydig dros hanner (52%) eisiau cyfranogi fwy nag y maent ar hyn o bryd.
  • Roedd pedair rhan o bump o rieni’n teimlo bod rhwystrau’n eu hatal rhag rhoi mwy o gefnogaeth i’w plentyn/plant gartref: y rhwystr mwyaf cyffredin oedd diffyg amser (42%) a’r plentyn ddim eisiau (rhagor o) gefnogaeth (12%).

Adroddiadau

Barn am Addysg yng Nghymru arolwg ail-gysylltu (Arolwg Cenedlaethol Cymru), Ebrill 2013 i Mawrth 2014 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.