Neidio i'r prif gynnwy

Ym mis Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Llywodraethau Cymru a’r DU y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae’r adolygiad wedi’i gwblhau erbyn hyn a, heddiw, rydym yn cyhoeddi adroddiad yr adolygiad.

Mae’r naill lywodraeth a’r llall yn croesawu’r adroddiad, sy’n rhoi’r hyder i ni, partneriaid lleol a’r sector preifat i fuddsoddi yn y rhanbarth a chreu twf economaidd a newid gweddnewidiol. Rydym yn falch fod yr adroddiad yn cydnabod bod ymrwymiad yr holl bartneriaid i’r fargen yn parhau, a hefyd yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y byddai Bargen Ddinesig lwyddiannus yn ei chael ar draws y rhanbarth. Mae’r naill lywodraeth a’r llall yn derbyn argymhellion yr adolygiad.

Mae’r adroddiad yn cydnabod cryfderau’r Fargen Ddinesig, yn arbennig fel corff allweddol i alluogi gwaith rhanbarthol drwy bartneriaeth. Mae’n darparu sylfaen gadarn i’n dwy lywodraeth a’r partneriaid rhanbarthol er mwyn symud ymlaen yn gyflym i roi'r Fargen Ddinesig ar waith. Rydym eisoes wedi trafod yr argymhellion gydag arweinwyr pob awdurdod lleol yn y rhanbarth a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda nhw dros yr wythnosau i ddod i ystyried sut y gellir gweithredu’r argymhellion.

Ein blaenoriaeth gyntaf fydd cwblhau’r achosion busnes ar gyfer Ardal Ddigidol Glannau Abertawe a’r prosiect yn Yr Egin, yng Nghaerfyrddin, ar eu gwedd derfynol ar fyrder. Cyn gynted ag y daw’r achosion busnes terfynol ger bron, mae’r ddwy lywodraeth wedi ymrwymo i hwyluso’r broses arfarnu fel bod modd i’r prosiectau hyn symud i’r cam cyflawni mor gyflym â phosibl.

Yn y pen draw, mater i arweinwyr y pedwar awdurdod lleol yw penderfynu sut maen nhw am gryfhau Swyddfa Rheoli Rhaglen y rhanbarth ac ystyried rôl eu pwyllgorau. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn dadlau’n gryf o blaid y newidiadau hyn - mae’r ddwy lywodraeth yn cydnabod y potensial i yrru’r Fargen Ddinesig ymlaen drwy sefydlu strwythur rheoli portffolio cryf. Byddwn yn cefnogi’r rhanbarth i gyflwyno’r newidiadau sy’n ofynnol i sicrhau bod y fargen hon yn llwyddiant a’i bod yn gwireddu’r addewidion a wnaed wrth lofnodi’r Telerau Pennawd. Yn bwysig, rydym am weld y rhanbarth yn dod â chynllun cryf ger bron ac amserlen ar gyfer darparu’r bwndel nesaf o brosiectau.

Mae’r sector preifat yn bartner allweddol yn y Fargen Ddinesig hon ac mae gan y Bwrdd Strategaeth Economaidd rôl bwysig i’w chwarae yn ei helpu i lwyddo. Mae adroddiad yr adolygiad, fel y dylai,  yn cydnabod cyfraniad y bwrdd a’i allu i helpu i nodi cyfleoedd y gall y fargen fanteisio arnynt. Rydym am weld y bwrdd hwn yn chwarae rôl fwy gweithredol yn goruchwylio’r ffordd y mae’r fargen yn cael ei dylunio a’i gweithredu, gan sicrhau bod y prosiectau gorau posibl yn cael cefnogaeth.

Mae ein hymrwymiad i Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn gryf ac mae’r naill lywodraeth a’r llall yn benderfynol o’i gweld yn cyflawni er lles cymunedau de-orllewin Cymru. Wrth inni weithio gyda’n partneriaid rhanbarthol, bydd adroddiad yr adolygiad yn help inni wireddu’r uchelgais hwn.