Mae bargen gref wedi'i tharo ar gyfer diwydiant pysgota Cymru fydd yn diogelu stociau pysgod Cymru ac yn amddiffyn cymunedau arfordirol, yn ôl Lesley Griffiths
Fel rhan o dîm trafod Gweinidogion y DU, bu Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau'r fargen yng Nghyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr UE ym Mrwsel, ddaeth i ben yn ystod oriau mân bore heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bargen i:
- Osgoi achosion di-angen o gael gwared ar ddraenogiaid y môr a diogelu buddiannau pysgodfeydd masnachol a hamdden tra'n parhau i adfer y stoc.
- Cynyddu neu gynnal cwotâu ar gyfer morgathod, lledod coch, hadogiaid a lledod mair yn y Môr Celtaidd ac ar gyfer penfreision, hadogiaid, lledod coch a lledod chwithig ym Môr Iwerddon tra'n parhau i fodloni targedau cynaliadwyedd
- Hwyluso atebion dros dro i’r heriau sydd ynghlwm wrth gyngor i gael dalfa niwtral i nifer o rywogaethau yn sgil gweithredu’r Gwaharddiad ar Waredu, a hynny’n unol â’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.
Meddai'r Gweinidog:
"Hoffwn ddiolch i aelodau'r Grŵp Cynghori ar Bysgodfeydd sydd wedi helpu i nodi'r prif broblemau sy'n gysylltiedig â draenogod y môr a stociau pwysig eraill yng Nghymru. O ganlyniad, roedd modd inni gyflwyno achos cryf ar gyfer Cymru i'r Llywyddiaeth a'r Comisiwn, yn ogystal â chydweithwyr o Lywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig eraill.
"Yn unol a'n rhwymedigaethau i sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, fy mlaenoriaeth oedd diogelu stociau pysgod tra'n sicrhau canlyniad positif i'r cymunedau arfordirol hynny y mae eu heconomïau'n dibynnu cymaint ar y môr. Roedd trafodaethau eleni yn bwysicach nag erioed gydag ansicrwydd Brexit.
"Mae angen pysgota ar lefel gynaliadwy yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael. Roedd yn her i gael y cydbwysedd iawn yn y trafodaethau, ond llwyddwyd i sicrhau bargen sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.
"Dwi'n credu bod cydbwysedd cadarn a theg wedi'i sicrhau rhwng diogelu buddiannau economaidd pysgodfeydd bychain a physgotwyr hamdden â'r angen i symud stociau tuag at sefyllfa ble y gellir eu pysgota yn gynaliadwy yn y dyfodol."