Neidio i'r prif gynnwy

Bara Lawr Cymru yw’r cynnyrch Cymreig diweddaraf  i ymuno â’r rhestr o fwydydd nodedig sydd wedi ennill statws gwarchodedig gan yr Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n ymuno â chynnyrch gwych eraill o Gymru megis Cregyn Gleision Conwy, Cig Oen Cymru a Halen Môn, yn ogystal â chynnyrch adnabyddus eraill o Ewrop megis Champagne a Ham Parma. Mae eu rhinweddau unigryw wedi’u cydnabod ac maen nhw wedi ennill statws gwarchodedig rhag cael eu copïo a’u ffugio.

Mae gan Bara Lawr Cymru statws Enw Tarddiad Gwarchodedig Ewropeaidd a fydd yn sicrhau i gwsmeriaid eu bod yn bwyta cynnyrch o Gymru.

Mae 12 cynnyrch o Gymru wedi ennill statws gwarchodedig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth i Selwyn’s Seafood, ym Mhenclawdd yng Ngŵyr, yn ystod y pedair blynedd diwethaf  drwy gydol broses ymgeisio gymhleth a hir.

Mae bara lawr yn ddanteithfwyd sy’n adnabyddus o fewn a thu allan i Gymru. Mae glendid a thymheredd dŵr y môr, yn ogystal â’r broses gynhyrchu, yn effeithio ar ei flas a’i wedd, ac mae’r rhain yn nodweddion ei darddiad.

Roedd casglu’r lafwr, math o wymon, i wneud bara lawr yn ddiwydiant cartref yn Sir Benfro a ddechreuodd tua 1800. Cai’r gwymon ei daflu dros toeon gwellt cytiau i’w sychu cyn ei werthu i fusnesau yn Abertawe lle cafodd ei goginio yn Fara Lawr Cymru a’i werthu wedyn mewn marchnadoedd lleol.

Wrth groesawu statws gwarchodedig ar gyfer Bara Lawr Cymru, dywedodd Leslie Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:

"Mae enw da Cymru am fwyd a diod o ansawdd uchel yn parhau i fynd o nerth i nerth. Rwy wrth fy modd bod Bara Lawr Cymru wedi ymuno â’n rhestr gynyddol o fwyd a diod sydd wedi ennill statws gwarchodedig. Mae’n eicon hynod o fwyd Cymru ac mae’n dwyn i gof ei wreiddiau hanesyddol yn nhraethau Gorllewin Cymru.

“Mae’r sector bwyd a diod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a dyna pam rydyn ni wedi gosod targed uchelgeisiol i gynyddu’r sector 30% erbyn 2020. Mae cydnabyddiaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd yn bwysig gan ei bod yn arwydd o ansawdd cynnyrch unigryw Cymru wrth inni ymdrechu i gyrraedd marchnadoedd newydd er mwyn tyfu’r diwydiant a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.