Storiau pobl go iawn band eang yng Nghymru: Cymuned Crai
Un o'r pethau gorau i ddigwydd yn Crai am amser maith
Roedd cartrefi a busnesau ym mhentref Crai ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ei chael yn anodd gyda cyflymder band eang llai na 1.5 Mbps. Daeth y gymuned at ei gilydd i ddod o hyd i ateb ac maent bellach yn mwynhau cyflymder o hyd at 32 Mbps drwy fand eang di-wifr sefydlog.
Daeth cymuned Crai at ei gilydd drwy bwyllgor rheoli neuadd y pentref gyda'r nod o ddod o hyd i ateb i'w cyflymder band eang gwael. Edrychodd y grŵp ar nifer o wahanol opsiynau gan gynnwys defnyddio gofod gwyn ar deledu a phrosiect band eang ffibr cymunedol. Yn y pen draw penderfynwyd ar y fand eang Di-wifr Microdon gan gyflenwr lleol.
Drwy gydol y prosiect cafodd y gymuned wybod drwy gyfarfodydd yn neuadd y pentref a thrwy eu cyhoeddiad misol lleol Crai News. Mae dros 80 adeilad yn Crai bellach wedi'u cysylltu gan fwynhau cyflymder o hyd at 32 Mbps.
Penderfynodd y gymuned mai y dull gorau o fynd i'r afael â phrosiect di-wifr Crai oedd model oedd cyflenwr yn berchen arno ac yn ei weithredu. Golyga hyn mai cyflenwr y gwasanaeth sy'n berchen ac yn cynnal y seilwaith sy'n dod â band eang cyflym iawn i'r pentref, yn hytrach na'r gymuned. Gallai'r dull hwn o weithio fod yn heriol gan nad oes gan y gymuned reolaeth gweithredol dros y gwasanaeth. Fodd bynnag, maent wedi gweld bod y risg hwn wedi ei leihau drwy gyfathrebu da â'r darparwr pan fo problemau wedi codi.
Llwyddodd y gymuned i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect o gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru. Er nad oedd angen i'r gymuned gyfrannu yn ariannol i'r cynllun, gwnaeth nifer ohonynt mewn gwahanol ffyrdd fel rhoi eu hamser eu hunain i helpu a chynnig eu harbenigedd.
Meddai David Ross o Crai
"Pe byddem yn rhoi cyngor i gymuned arall sydd am wneud rhywbeth tebyg, byddem yn hapus iawn i ddweud wrthynt bod y dull yma o weithio wedi bod yn llwyddiannus iawn i ni. Roedd y broses gychwynnol o drefnu pethau a chael digon o gartrefi a busnesau i gofrestru ar gyfer y cynllun yn hollbwysig i'n llwyddiant. Cafwyd hyn drwy gynnal cyfres o gyfarfodydd agored yn y neuadd gymunedol gyda darparwr y gwasanaeth i egluro sut y gallai'r gwasanaeth posibl weithio a'r cyllid oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru."
"Roedd hefyd o fudd i gael is-grŵp y gweithgor, oedd ar wahân i Bwyllgor Rheoli Neuadd Crai ond yn adrodd yn ôl iddynt bob mis. Roedd cyfarfodydd rheolaidd gyda'r darparwyr gwasanaeth penodedig hefyd yn werthfawr iawn, yn ogystal ag arweinydd cymunedol o'r gweithgor i weithredu fel un pwynt cyswllt wrth wneud cais am gyllid a chysylltu â darparwyr gwasanaeth."
"Fel a ragwelwyd, roedd manteision sylweddol ar unwaith i'n busnesau lleol megis ffermydd a darparwyr llety gwyliau. Daeth manteision eraill yn amlwg yn fuan iawn gydag aelodau y gymuned yn gallu gweithio o gartref, pan fu'n rhaid iddynt deithio i'w swyddfeydd yn y gorffennol. Mae pobl sydd hyd yn oed â busnesau a prif gartrefi sydd bellter o Crai yn gweld manteision, gan eu bod yn gallu cynnal eu busnesau o'u cartefi gwyliau."
Mae'r manteision wedi dod yn amlwg ledled y gymuned o deuluoedd sydd â phlant sydd bellach yn gallu defnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer eu gwaith ysgol a chartrefi sydd bellach yn gallu siopa ar-lein i archebu eitemau sydd ddim ar gael yn lleol.
Dywedodd Charles Weston, ffermwr sy'n gweithio ar draws dau safle yn Crai yn ogystal â rhedeg busnes llety gwyliau prysur,
"Mae fy mywyd gwaith wedi ei drawsnewid gan Fand Eang Cyflym Iawn yn Crai. Mae sicrhau cysylltiad rhyngrwyd cyflym yn gwneud tasgau gweinyddol yn llawer cyflymach, a'u mwynhau."
"Yn benodol, mae gallu anfon a derbyn lluniau yn gyflym wedi helpu'n sylweddol, ac mae defnyddio'r banc yn gyflym ac yn hawdd, a delio â'r ohebiaeth a ddaw bob dydd bellach yn syml iawn."
"Roedd fy nghyflymder ar y rhyngrwyd yn arfer bod yn 0.4 Mbps ond mae hyn bellach wedi cynyddu i 30 Mbps. Heb os dyma'r peth gorau sydd wedi digwydd i Crai ers amser maith".
Cael band eang cyflymach
Mae band eang yn ffordd o gysylltu â’r rhyngrwyd. Waeth pa gyflymderau sydd eu hangen arnoch chi, mae opsiynau a chymorth ar gael ichi.