Beth yw band eang?
Mae band eang yn ffordd o gysylltu â’r rhyngrwyd. Mae’n galluogi cludo gwybodaeth yn gyflym iawn at eich cyfrifiadur personol, gliniadur, llechen, ffôn clyfar, teledu clyfar neu ddyfais arall y gellir ei chysylltu â'r we. Mae canllawiau sylfaenol Ofcom ar Fand Eang yn rhoi rhagor o wybodaeth am y ffyrdd mae'r rhan fwyaf o gartrefi a busnesau'n cysylltu â'r rhyngrwyd.
Rydyn ni am i bawb allu cael band eang dibynadwy a chyflym, ac mae'r rhan fwyaf o adeiladau yng Nghymru eisoes yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym diolch i'n cynllun Cyflymu Cymru. Waeth pa gyflymderau sydd eu hangen arnoch chi, mae opsiynau a chymorth ar gael ichi.
Cyflymderau band eang
Fel arfer mae cyflymderau band eang yn cael eu mesur mewn megabitiau fesul eiliad (Mbit/s).
Band eang sylfaenol
- Fel arfer cyflymderau o hyd at 24Mbit/s.
- Gellir ei ddarparu drwy amrediad o dechnolegau.
- Mae cyllid ar gael i helpu gyda chostau gosod.
Band eang cyflym iawn
- Yn gyflymach na band eang sylfaenol gyda chyflymderau o hyd at 80 Mbit/s
- Ar gael i'r rhan fwyaf o gartref a busnesau yng Nghymru.
- Gellir ei ddarparu drwy amrediad o dechnolegau.
- Mae cyllid ar gael i helpu gyda chostau gosod.
Band eang gwibgyswllt
- Fel arfer mae band eang “gwibgyswllt” yn darparu cyflymderau o dros 100Mbit/s.
- Mae eisoes ar gael i rai cartrefi a busnesau yng Nghymru yn ardaloedd gwledig a threfol.
- Fel arfer mae’n cael ei ddarparu drwy "Ffeibr i'r eiddo" neu dechnoleg “ffeibr llawn" ond mae technoleg di-wifr yn esblygu yn barhaus i ddarparu’r cyflymderau hyn.
- Mae rhagor o'r dechnoleg hon yn cael ei chyflwyno ar hyn o bryd.
- Mae cyllid ar gael ar gyfer busnesau a chymunedau i helpu gyda chostau gosod.
Band eang gigabit
- Dyfodol cysylltiadau band eang.
- Mae band eang "gigabit" yn gallu darparu cyflymderau o tua 1Gbit/s (h.y. 1,000Mbps).
- Mae eisoes ar gael i rai cartrefi a busnesau yng Nghymru yn ardaloedd gwledig a threfol.
- Fel arfer mae’n cael ei ddarparu drwy "Ffeibr i'r eiddo" neu dechnoleg “ffeibr llawn" ond mae technoleg di-wifr yn esblygu yn barhaus i ddarparu’r cyflymderau hyn.
- Mae rhagor o'r dechnoleg hon yn cael ei chyflwyno ar hyn o bryd.
- Mae cyllid ar gael ar gyfer busnesau a chymunedau i helpu gyda chostau gosod.
Pa opsiynau sydd gennyf?
Mae band eang yn ffordd o gysylltu â’r rhyngrwyd. Waeth pa gyflymderau sydd eu hangen arnoch chi, mae opsiynau a chymorth ar gael ichi.