Neidio i'r prif gynnwy
Andrew ac Ann o Gwmbrân

Cysylltiad Rhyngrwyd sy'n ddigonol i deulu.

Mae gan Andrew, 55 oed sy’n byw gyda’i wraig Ann, dri o blant a dau o wyrion sy’n galw heibio’r tŷ yn rheolaidd.  Gyda hyd at wyth o oedolion a dau blentyn bach yn defnyddio’r rhyngrwyd ar yr un pryd, mae’n gwybod yn iawn sut mae cysylltiad rhyngrwyd cyflym iawn yn gallu helpu i ddiwallu anghenion ei deulu cyfan.

Ar ôl blynyddoedd o fand eang confensiynol annigonol, roedd Andrew yn credu mai ei leoliad oedd ar fai am y cysylltiad anghyson. Ond, ar ôl cwynion gan ei blant ac ymchwil bellach, clywodd y gallai dderbyn cysylltiad band eang cyflym iawn a dyw e heb edrych yn ôl.

Meddai Andrew:

“Wrth i’r aelwyd dyfu a thechnoleg ddatblygu, roedden ni’n mynd yn fwy a mwy rhwystredig gyda’r gwasanaeth gwael roedden ni’n ei gael wrth geisio ffrydio cerddoriaeth neu lawrlwytho ffilmiau.

“Roedd y plant wastad yn cwyno fod y rhyngrwyd yn anghyson a ffilmiau’n rhewi, ond doedd hi ddim tan i mi gael teledu clyfar a gweld ei bod yn cymryd mwy na hanner awr i lawrlwytho rhaglenni 30 munud y dechreuais feddwl uwchraddio.

“Rydym ni wrth ein boddau cael y plant a’u partneriaid yma am pizza nos Sadwrn, ond wrth i bawb ddechrau ffidlan gyda’u ffonau clyfar a’u tabledi, doedd ein hen gysylltiad ddim yn gallu ymdopi.

“Rydw i a fy ngwraig hefyd yn gwarchod ein hwyrion dwy oed ac weithiau ar ôl i orflinder fynd yn drech, mae angen Dona Direidi ar y teledu ar unwaith, does dim amser i aros iddo lawrlwytho!”

Cael band eang cyflymach

Mae band eang yn ffordd o gysylltu â’r rhyngrwyd. Waeth pa gyflymderau sydd eu hangen arnoch chi, mae opsiynau a chymorth ar gael ichi.