Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Cafodd Adolygiad Llywodraeth Cymru o’r Farchnad Agored (OMR) ei gynnal rhwng 24 Awst a 8 Hydref 2021.

Amcan yr Adolygiad oedd deall lle mae buddsoddiad y sector preifat mewn mynediad cenhedlaeth nesaf (30Mbps+) a/neu rwydweithiau gigabit (1,000Mbps+) eisoes wedi digwydd, wrthi'n cael ei adeiladu, neu’n bwriadu cael ei ddefnyddio ledled Cymru yn ystod y tair blynedd nesaf.  Y prif reswm dros gynnal Adolygiad o’r Farchnad Agored 2021 yw galluogi Llywodraeth Cymru i ddiweddaru ei hardal ymyrryd bresennol a gafodd ei chaffael o dan Gynllun Band Eang Cenedlaethol (NBS) BDUK 2016.  At hynny, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu casglu gwybodaeth am gysylltedd gigabit er mwyn cyfrannu at raglen Gigabit Prosiect Llywodraeth y DU a’r ymyriadau posibl yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru a Building Digital UK (BDUK) o dan y rhaglen hon.

Felly, cafodd Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad o’r Farchnad Agored ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn galluogi cwmnïau telathrebu a darparwyr band eang i ymateb gyda gwybodaeth fanwl am eu seilwaith band eang megis eu dyluniadau rhwydwaith technegol, hawliadau darpariaeth ar lefel adeiladau (naill ai ar hyn o bryd neu ar y gweill) a’u cynlluniau i gyflwyno band eang ledled Cymru dros y 3 blynedd nesaf.

Yna, cafodd y data a gafwyd gan gyflenwyr telathrebu ei ddadansoddi gan Lywodraeth Cymru er mwyn dosbarthu eiddo yng Nghymru naill ai fel Mynediad y Genhedlaeth Nesaf neu Gigabit Du / Llwyd / Gwyn neu Dan Adolygiad yn ôl eu statws darpariaeth band eang. Bydd canlyniadau’r dadansoddiad hwn o ddata band eang yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2022 gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad Cyhoeddus. Yn ystod y cam Adolygiad Cyhoeddus, bydd yr holl randdeiliaid, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, busnesau, Awdurdodau Lleol yn ogystal â chyflenwyr, yn cael eu gwahodd i roi sylwadau ar ddosbarthu a mapio safleoedd a gynhyrchwyd gan Adolygiad o’r Farchnad Agored 2021 a dilysu’r canfyddiadau.  Yn dilyn yr Adolygiad Cyhoeddus, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynnig terfynol ar gyfer ardaloedd ‘Gwyn’ gigabit a Mynediad y Genhedlaeth Nesaf cymwys.

Fodd bynnag, cyn lansio’r Adolygiad Cyhoeddus, mae’r ddogfen ‘Crynodeb o’r Ymatebion’ yn ceisio darparu darlun lefel uchel o’r ymatebion gan gyflenwyr a gafwyd yn ystod Adolygiad o’r Farchnad Agored 2021, ac amlinellu’r camau nesaf dilynol yn y broses.

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’r gwaith o gyflwyno Cysylltiad Ffeibr i’r Adeilad (FTTP) sy’n gallu delio â gigabits i ardal ymyrryd ledled Cymru sy’n cynnwys tua 39,000 o adeiladau yn Lot 1 (Gogledd Cymru), Lot 2 (Dwyrain Cymru) a Lot 3 (De-orllewin a’r Cymoedd) gan ddefnyddio £56m o gymhorthdal cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, cyllid yr Undeb Ewropeaidd a rhywfaint o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU.

Cafodd yr ardal ymyrryd bresennol ei goleuo’n wreiddiol gan Adolygiad o’r Farchnad Agored (OMR) a gynhaliwyd yn 2017, ynghyd ag ymarfer adnewyddu dilynol a gynhaliwyd yn 2019, a chafodd ei chaffael o dan Gynllun Band Eang Cenedlaethol BDUK 2016. Mae’r cyfnod dilysrwydd tair blynedd ar gyfer data blaenorol yr Adolygiad wedi dod i ben erbyn hyn, felly cynhaliodd Llywodraeth Cymru Adolygiad o’r Farchnad Agored 2021 i sefydlu a yw’r data a ddarparwyd yn flaenorol gan gyflenwyr telathrebu yn 2017 a 2019 wedi newid yn sylweddol. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddeall a oes angen gwneud unrhyw addasiadau i’r ardal ymyrryd bresennol a’r adeiladau sy’n cael eu targedu ynddi. 

Yn ogystal â chefnogi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ardal ymyrryd uchod, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi uchelgais Llywodraeth y DU i ddarparu band eang sy’n gallu delio â gigabits ledled y wlad cyn gynted â phosibl. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £5bn i’r rhannau mwyaf anodd eu cyrraedd o’r wlad, gan sicrhau bod pob rhan o’r DU yn gallu elwa.  Bydd hyn yn cael ei wario drwy becyn o ymyriadau cyd-gefnogol cydgysylltiedig, sy’n cael eu galw gyda’i gilydd yn Brosiect Gigabit.  Felly, er mwyn cyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru a Building Digital UK (BDUK) yn bwriadu sicrhau darpariaeth bellach yn y dyfodol i dargedu ardaloedd ‘gwyn’ Gigabit ledled Cymru.

Manylion yr ymgynghoriad

Hyd

Roedd yr Adolygiad o’r Farchnad Agored ar agor rhwng 24 Awst 2021 a 24 Medi 2021. Er mwyn sicrhau yr ymgysylltir â’r farchnad mor eang â phosibl, cafodd yr Adolygiad o’r Farchnad Agored ei roi i fwy na 400 o gyflenwyr telathrebu gan gynnwys y rheini y mae’n hysbys bod ganddynt seilwaith band eang ledled Cymru ac eraill y gwyddys eu bod (neu y credir eu bod) yn bwriadu defnyddio rhwydweithiau ledled Cymru.

Gwnaed cais i Lywodraeth Cymru ymestyn cyfnod ymateb yr Adolygiad.  Ar sail y cais hwn, cytunodd Llywodraeth Cymru i roi pythefnos o estyniad ar y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i'r Adolygiad.  Cafodd pob cyflenwr telathrebu ei hysbysu drwy e-bost, a chafodd yr estyniad at 8 Hydref 2021 ei gyhoeddi ar-lein.

Ar ôl derbyn ymatebion i’r Adolygiad o’r Farchnad Agored gan gyflenwyr, cafodd y wybodaeth ei hadolygu i ddechrau er mwyn sicrhau ei bod yn gyflawn cyn cynnal asesiad manylach i sicrhau bod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani yn Atodiad B: Templed Tystiolaeth Ategol yn gyson â honiadau cyflenwyr yn Atodiad A: Cyflwyno Data am ddarpariaeth (naill ai presennol a/neu wedi’u cynllunio).  Roedd yr asesiadau o hawliadau darpariaeth a thystiolaeth ategol cyflenwyr yn aml yn datgelu bod bylchau sylweddol gan ymatebion cyflenwyr i’r Adolygiad, a oedd yn golygu nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu asesu hawliadau darpariaeth band eang y cyflenwr ledled Cymru.  Felly, yn yr achosion hyn, cafodd cwestiynau eglurhad ar e-bost eu hanfon at gyflenwyr yn gofyn am esboniad ynghylch unrhyw anghysonderau, gwybodaeth bellach i gefnogi eu hawliadau am ddarpariaeth neu gyflwyniadau data diwygiedig i gywiro unrhyw anghysondebau. 

Lansiwyd yr Adolygiad o'r Farchnad Agored drwy wefan Llywodraeth Cymru:

Band Eang: arolwg o’r farchnad agored 2021

Ymatebion

Gyda’i gilydd, cafodd Llywodraeth Cymru ddeg (10) o ymatebion i'r Adolygiad gan gyflenwyr telathrebu sy’n honni naill ai darpariaeth Mynediad y Genhedlaeth Nesaf a/neu gigabit yng Nghymru a gafodd eu gwerthuso fel rhan o broses yr Adolygiad, ac sy’n cael eu dangos isod.

Dylid nodi bod yr ymatebion i'r Adolygiad a ddaeth i Lywodraeth Cymru gan gyflenwyr yn ddarostyngedig i gymalau cyfrinachedd a’u bod yn cynnwys gwybodaeth fanwl, sy’n fasnachol sensitif ynghylch cynlluniau busnes cyflenwyr, ôl troed darpariaeth, technoleg, adeiladu rhwydweithiau yn y dyfodol, rhagdybiaethau defnyddio a gwybodaeth gyllido ac felly ni ellir cyhoeddi gwybodaeth am eu cyflwyniadau llawn i’r Adolygiad nac unrhyw ymatebion eglurhad dilynol yn llawn. 

Sefydliad: Airband
Ymateb i'r Adolygiad: Roedd ymateb Airband i’r Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad yn cynnwys hawliadau darpariaeth Mynediad y Genhedlaeth Nesaf a gigabit presennol ar draws Gogledd a De Cymru gan ddefnyddio technolegau di-wifr a gwifr. Roedd eu hymateb hefyd yn cynnwys darpariaeth gigabit arfaethedig yn y dyfodol ym Mhowys drwy gontract BDUK sy'n bodoli eisoes.

Sefydliad: Broadway Partners
Ymateb i'r Adolygiad: Roedd ymateb Broadway Partners i’r Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad yn cynnwys hawliadau darpariaeth Mynediad y Genhedlaeth Nesaf a gigabit yn Sir Benfro a Sir Fynwy. Roedd eu hymateb hefyd yn cynnwys darpariaeth gigabit wedi’i chynllunio yn y dyfodol fel rhan o’u nod i gynnwys 250,000 o adeiladau ledled y DU – yn bennaf ar draws rhannau gwledig o Gymru a’r Alban erbyn 2025 ac yn cael ei ariannu gan eu buddsoddiad gwerth £145m a sicrhawyd yn ddiweddar.

Sefydliad: Cwmni Buddiannau Cymunedol Rhyngrwyd Llanfihangel-y-fedw
Ymateb i'r Adolygiad: Rhoddodd Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) Rhyngrwyd Llanfihangel-y-Ffedw ymateb i’r Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad. Rhoddodd y cynllun cymunedol ym mhentref Llanfihangel-y-Fedw fanylion eu cysylltiadau ffeibr cyfredol i adeiladau, sy’n cael eu hariannu drwy gynlluniau talebau Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Band Eang Lleol (LBF). Hefyd, roedd eu hymateb hefyd yn nodi darpariaeth gigabit arfaethedig yn y dyfodol a fydd yn cael ei darparu yn ystod y 3 blynedd nesaf.

Sefydliad: Neutomnia
Ymateb i'r Adolygiad: Roedd ymateb Netomnia i’r Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad yn cynnwys ei ddarpariaeth gigabit arfaethedig ar gyfer y dyfodol ledled Cymru, gan gynnwys cefnogi Pen-y-bont ar Ogwr a’r Barri gan eu buddsoddiad gwerth £123m a sicrhawyd yn ddiweddar.

Sefydliad: Openreach
Ymateb i'r Adolygiad: Roedd ymateb Openreach i’r Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad o’r Farchnad Agored yn cynnwys hawliadau darpariaeth Mynediad y Genhedlaeth Nesaf a gigabit presennol ac arfaethedig ledled Cymru gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau gan gynnwys ADSL, FTTC a FTTP.

Sefydliad: Secure Web Services (SWS)
Ymateb i'r Adolygiad: Mynegodd SWS ddiddordeb mewn cyflwyno rhwydweithiau yng Nghymru yn y dyfodol, ond ni ddarparwyd data am ddarpariaeth band eang.

Sefydliad: Spectrum Fibre
Ymateb i'r Adolygiad: Roedd ymateb Spectrum Fibre i’r Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad yn cynnwys darpariaeth gigabit ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ar draws De Cymru, gan gynnwys Sir Fynwy, Sir Benfro a Bro Morgannwg, ac fel rhan o’u targed i basio 150,000 o adeiladau erbyn 2025.

Sefydliad: Telcom Group
Ymateb i'r Adolygiad: Ymatebodd WeFibre, is-gwmni i Telcom Group, i’r Cais am Wybodaeth i'r Adolygiad gyda’u hawliadau darpariaeth gigabit arfaethedig yn y dyfodol a ariennir fel rhan o’u cynllun i gyflwyno band eang talebau gigabit.

Sefydliad: Virgin Media
Ymateb i'r Adolygiad: Roedd ymateb Virgin Media i’r Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad yn cynnwys hawliadau darpariaeth presennol ac arfaethedig ledled Cymru gan ddefnyddio naill ai eu rhwydwaith Fibre Coax (HFC) presennol neu FTTP.

Sefydliad: Voneus
Ymateb i'r Adolygiad: Roedd ymateb Voneus i’r Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad yn cynnwys hawliadau am ddarpariaeth Mynediad y Genhedlaeth Nesaf ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Roedd eu hymateb hefyd yn cynnwys darpariaeth gigabit wedi’i chynllunio ar gyfer y dyfodol ar draws De Cymru yn ystod y 3 blynedd nesaf.

Gohebiaeth ychwanegol

Roedd Adolygiad Llywodraeth Cymru o’r Farchnad Agored 2021 wedi cael yr ohebiaeth ychwanegol ganlynol gan y cyflenwyr telathrebu canlynol:

Sefydliad: bOnline
Daeth i law: 13 Medi 2021
Ymateb i'r Adolygiad: Cadarnhau bod bOnline yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau VoIP ac ailwerthu cynnyrch band eang gan BT cyfanwerthol a TalkTalk Business. Nid yw’r cwmni’n berchen ar unrhyw seilwaith band eang yng Nghymru.

Sefydliad: CityFibre
Daeth i law: 4 Hydref 2021
Ymateb i'r Adolygiad: Cadarnhaodd CityFibre nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i fuddsoddi yng Nghymru dros y 3 blynedd nesaf

Sefydliad: Gigaclear
Daeth i law: 22 Medi 2021
Ymateb i'r Adolygiad: Cadarnhaodd Gigaclear nad oes ganddynt ddarpariaeth bresennol nac arfaethedig sy’n gallu delio â gigabits yng Nghymru.

Sefydliad: Redraw Internet
Daeth i law: 13 Medi 2021
Ymateb i'r Adolygiad: Mae Redraw Internet yn ISP di-wifr. Er eu bod yn dweud bod ganddynt ddarpariaeth fach sy’n gallu delio â gigabits yn Sir y Fflint, Gogledd Sir Ddinbych, Gogledd Wrecsam, Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg, nid oeddent yn gallu darparu data darpariaeth ar lefel eiddo (UPRN) ar gyfer yr Adolygiad o’r Farchnad Agored.

Sefydliad: TalkTalk
Daeth i law: 14 Medi 2021
Ymateb i'r Adolygiad: Cadarnhaodd TalkTalk nad ydynt, fel darparwr adwerthol, yn berchen ar unrhyw seilwaith band eang yng Nghymru

Gwerthusiad yr adolygiad

Drwy ddefnyddio Premiwm Sylfaen Cyfeiriad (Epoch 85) ar gyfer Cymru fel llinell sylfaen lefel adeiladau, mae’r data darpariaeth band eang a ddarperir gan gyflenwyr telathrebu yn Atodiad A: Templed Cyflwyno Data ynghyd â’u sylfaen dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir yn Atodiad B: Templed Tystiolaeth Ategol wedi cael ei ddefnyddio i greu mapiau Mynediad y Genhedlaeth Nesaf a Gigabit ar lefel adeiladau ac ar lefel cod post gan ddefnyddio’r dosbarthiad rheoli cymhorthdal ‘Gwyn’, ‘Llwyd’, ‘Du’ a ‘Dan Adolygiad. 

Y camau nesaf

Bydd y mapiau rhyngweithiol ar gyfer Mynediad y Genhedlaeth Nesaf a gigabits, ynghyd â'r rhestr cod post ‘Gwyn’ a ‘Dan Adolygiad’, yn cael eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill drwy'r Cais am Wybodaeth i'r Adolygiad.  Bydd yr ymgynghoriad hwn ar gael ar Borth Ymgynghori Llywodraeth Cymru (Caiff dolen ei darparu mewn fersiwn wedi'i diweddaru o'r ddogfen hon maes o law)

Pwrpas yr Adolygiad Cyhoeddus hwn fydd cadarnhau bod yr ardaloedd ymyrraeth ‘Gwyn’ Gigabit a Mynediad y Genhedlaeth Nesaf a gynhyrchir yn dilyn proses yr Adolygiad yn gywir. 

Bydd yr Adolygiad Cyhoeddus yn agored i’r holl randdeiliaid roi sylwadau arno, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, busnesau ac Awdurdodau Lleol. Mae cyflenwyr hefyd yn cael eu gwahodd i roi sylwadau ar yr ardaloedd ‘Gwyn’ arfaethedig ac i ddilysu canfyddiadau’r Adolygiad o’r Farchnad Agored, gan gynnwys y cyflenwyr hynny sydd wedi ymateb i Adolygiad 2021 drwy brofi unrhyw ddiweddariadau ynghylch eu defnydd o rwydweithiau arfaethedig yn ogystal â’r cyflenwyr hynny na chyflwynodd ddata darpariaeth yn ystod proses yr Adolygiad ond sydd ag ôl troed band eang yng Nghymru (neu sydd â chynlluniau i sefydlu rhwydwaith) ac sydd felly am i’w hawliadau am ddarpariaeth gael eu hystyried.

Ar ôl cwblhau’r Adolygiad Cyhoeddus, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynnig terfynol ar gyfer ardaloedd ‘Gwyn’ ar gyfer gigabit a Mynediad y Genhedlaeth Nesaf cymwys, gan ystyried canlyniad yr Adolygiad Cyhoeddus.

Atodiad A: geirfa termau

Term

Diffiniad

Adolygiad o'r Farchnad Agored

Cynhaliwyd ymarferiad gyda’r farchnad i bennu faint o ddisgwyl sydd i'r sector preifat ddefnyddio band eang Mynediad y Genhedlaeth Nesaf, a hynny er mwyn gwybod pa ardaloedd sydd heb unrhyw seilwaith band eang cymwys neu lle nad oes cynlluniau i ddarparu seilwaith o’r fath dros y tair blynedd nesaf.

ADSL - Llinell Danysgrifio Ddigidol Anghymesur

Technoleg ddigidol sy’n caniatáu defnyddio llinell ffôn safonol er mwyn darparu data band eang.  Mae ADSL nodweddiadol y genhedlaeth gyntaf yn gallu darparu cyflymder hyd at 8Mbps ac mae ADSL2+ yn gallu darparu hyd at 24Mbps.

Band Eang Mynediad y Genhedlaeth Nesaf

Rhwydweithiau sydd â’r nodweddion canlynol: (i) darparu gwasanaethau’n ddibynadwy ar gyflymder uchel iawn fesul tanysgrifiwr drwy ôl-gludo optegol (neu dechnoleg gyfatebol) sy’n ddigon agos at adeiladau defnyddwyr i warantu cyflenwi’r cyflymder uchel iawn; (ii) cefnogi amrywiaeth o wasanaethau digidol uwch, gan gynnwys gwasanaethau IP cyflawn cyfunol; a (iii) cael cyflymder uwchlwytho sylweddol uwch (o’i gymharu â rhwydweithiau band eang sylfaenol).  Yn y cyd-destun hwn, rhaid i rwydweithiau band eang Mynediad y Genhedlaeth Nesaf fod yn gallu darparu cyflymderau llinell mynediad o 30Mbps o leiaf.

Building Digital UK (BDUK)

Rhan o'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gyfrifol am gyllid cyhoeddus Llywodraeth y DU i helpu i ddarparu gwell cysylltedd symudol a band eang i’r DU.

Cyfeirnod Unigryw’r Eiddo

Cod adnabod unigryw ar gyfer pob cyfeiriad ym Mhrydain. Mae’n darparu cod adnabod cynhwysfawr, cyflawn a chyson drwy gydol oes eiddo – o’r caniatâd cynllunio hyd at ei ddymchwel.

Dan Adolygiad

Ardaloedd lle mae cyflenwyr wedi nodi darpariaeth band eang wedi’i chynllunio, ond mae’r cynlluniau hynny wedi cael eu barnu drwy broses yr Adolygiad fel rhai a allai fod mewn perygl o beidio â chael eu cwblhau. Felly, bydd yn rhaid monitro a dilysu cynlluniau adeiladu cyflenwyr yn barhaus yn ystod cyfnod o dair blynedd er mwyn sicrhau bod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud o ran defnyddio’r rhwydwaith. Os bydd cynlluniau adeiladu cyflenwr yn diflannu, byddai unrhyw safle sy’n cael ei ystyried ‘dan adolygiad’ yn cael ei fapio fel un gwyn ac felly gallai fod yn rhan o unrhyw Ardal Ymyrryd arfaethedig yn y dyfodol.

Du

Ardaloedd (neu adeiladau) du yw’r rheini lle mae o leiaf ddau rwydwaith gan wahanol weithredwyr yn bodoli neu am gael eu defnyddio yn ystod y tair blynedd nesaf.

Ffeibr cyfechelog hybrid

Rhwydwaith cebl band eang sy’n cyfuno ffeibr optig a chebl cyfechelog i ddarparu gwasanaethau band eang. DOCSIS (Manyleb Rhyngwyneb Gwasanaeth Data Dros Gebl) yw’r safon dechnoleg a ddefnyddir i ddarparu band eang cyflym iawn dros rwydweithiau HFC

FTTC - Cysylltiad Ffeibr i’r Cabinet

Mae ceblau ffeibr optig yn rhedeg o’r gyfnewidfa ffôn i gabinet stryd cyfagos cyn defnyddio’r gwifrau ffôn copr presennol i gysylltu’r pellter sy’n weddill â phob adeilad.

FTTP - Cysylltiad Ffeibr i’r Adeilad

Dyma lle mae’r ffeibr optig yn rhedeg yn uniongyrchol i bob safle er mwyn cael cysylltiad â’r rhyngrwyd mewn ffordd sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Fel arfer, mae’r cyflymderau sy'n cael eu cynnig dros yr FTTP hyd at 1 gigabit yr eiliad (1,000Mb yr eiliad).

Gallu delio â gigabits

Cyflymder lawrlwytho Gigabit o leiaf gigabit yr eiliad (1,000Mbps) yn cael ei ddarparu ar draws y rhwydwaith fel sy’n cael ei ddiffinio yn Atodiad C o’r Cais am Wybodaeth i’r Adolygiad o’r Farchnad Agored.

Gbps

Gigabit yr eiliad.

Gwyn

Ardaloedd (neu adeiladau) gwyn yw’r rheini lle nad oes seilwaith band eang cymwys, ac nad oes yr un yn debygol o gael ei ddatblygu o fewn tair blynedd.

Llwyd

Ardaloedd (neu adeiladau) llwyd yw’r rheini lle mai dim ond un rhwydwaith sy’n bresennol neu a fydd yn cael ei ddefnyddio yn ystod y tair blynedd nesaf.

Mbp yr eiliad

Megabit yr eiliad.