Bydd Banc Datblygu newydd Cymru, a grëwyd gan Lywodraeth Cymru, yn golygu y bydd yn haws i fusnesau gael gafael ar y cyfalaf y mae ei angen arnynt i gychwyn busnes, i gryfhau ac i dyfu.
Wrth i’r banc gael ei lansio, bydd cyllid ar gael drwy Gronfa Fuddsoddi Cymru, sef cronfa newydd sy'n werth £100 miliwn. Bydd mwy o ficrogyllid ar gael a bydd yn cynnig telerau benthyca estynedig. Mae gan Fanc Datblygu Cymru gyfanswm o ryw £440 miliwn ar gael i fuddsoddi mewn busnesau yng Nghymru.
Bydd Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yn buddsoddi mwy o arian, a hynny am gyfnodau hirach na chronfeydd sy'n bodoli eisoes, gan gynnig hyd at £5 miliwn mewn un cylch cyllido a thelerau ad-dalu o hyd at 10 mlynedd.
Drwy'r Banc Datblygu, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn treblu maint y microgyllid sydd ar gael o £6 miliwn i fwy na £18miliwn, ac mae wrthi hefyd yn datblygu cronfeydd eraill.
Gyda chynllun Cymorth i Brynu – Cymru, sy'n un o gynlluniau Llywodraeth Cymru, a buddsoddiad gan y sector preifat, bydd y £440 miliwn yn mwy na dyblu dros y pum mlynedd nesaf. Nod y Banc Datblygu yw cael effaith a fydd yn werth dros £1 biliwn ar economi Cymru. Yn sgil hynny, digwylir iddo roi cymorth i 1,400 o fusnesau, a bydd y busnesau hynny'n creu ac yn diogelu dros 20,000 o swyddi.
Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros yr Economi a'r Seilwaith:
"Dwi'n hynod falch ein bod wedi gallu llwyddo i fwrw ymlaen â chynlluniau Llywodraeth Cymru i sefydlu Banc Datblygu Cymru.
"Bydd y banc yn defnyddio cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru i gefnogi buddsoddiad a fydd yn helpu economi Cymru i dyfu yn awr ac yn y dyfodol. Bydd hefyd yn rhoi’r cymorth y mae ei angen ar ein busnesau.
"Wrth i'n busnesau ffynnu ac ad-dalu'r benthyciadau, bydd yr arian hwnnw'n cael ei ailfuddsoddi, sy'n golygu nad dim ond ar hyn o bryd y mae'r cyfalaf yn helpu busnesau i lwyddo. Bydd hefyd yn cyllido'r genhedlaeth nesaf o lwyddiannau yng Nghymru."
Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru:
“Busnesau micro, bach neu ganolig eu maint yw 99% o'r holl fusnesau yng Nghymru. Nhw sydd i gyfrif am 60% o'r holl swyddi yn y sector preifat. Wrth i fusnesau wynebu'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â Brexit, mae mwy o angen nag erioed o'r blaen inni gynnig sefydlogrwydd a symbylu twf, a hynny ar unwaith.
"Mae'r newidiadau'n golygu bod mwy o gyllid ar gael i helpu busnesau yng Nghymru, lle bynnag maen nhw arni. Mae busnesau micro, bach a chanolig yn hanfodol i economi Cymru ac rydyn ni'n falch o fod wedi gweithio gyda chynifer o entrepreneuriaid uchelgeisiol ac ymroddedig. Mae'r neges i fusnesau yng Nghymru yn un syml: cysylltwch â ni. Rydyn ni yma i helpu'ch busnes i lwyddo."