Neidio i'r prif gynnwy

Mae pecyn ar gyfer busnesau sy’n cynnwys cronfa fusnes newydd gwerth £136 miliwn a sefydlu Banc Datblygu ar gyfer Cymru yn trawsnewid y cymorth ariannol sy’n cael ei gynnig i fusnesau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma’r neges gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wrth iddo lansio Cronfa newydd Busnes Cymru mewn digwyddiad yng Nghaerdydd.  

Dywedodd Gweinidog yr Economi mai’r gronfa newydd, sy’n derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, oedd y gronfa fwyaf i’w lansio yng Nghymru ers y refferendwm, a byddai’n cynnig gwerth £136 miliwn o atebion hyblyg i fusnesau o Gymru, gan helpu iddynt gyflymu eu cynlluniau ar gyfer buddsoddi a thwf.  

Bydd y gronfa yn cael ei hategu gan sefydlu Banc Datblygu ar gyfer Cymru, fydd yn sicrhau ei bod yn haws i dderbyn cyllid ar gyfer BBaChau ac yn cynyddu’r buddsoddi mewn busnesau yng Nghymru yn sylweddol.  

Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi bod y gwaith i sefydlu’r Banc Datblygu yn mynd rhagddo, a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ac yn gwerthuso achos busnes manwl, gyda’r bwriad y bydd y Banc Datblygu yn weithredol erbyn ail chwarter 2017/18.  

Meddai Ken Skates:

“Rwyf wedi ymrwymo i greu economi deg a llewyrchus sydd o fudd i bawb yng Nghymru – ac mae hynny yn golygu mwy o gymorth i’n busnesau. 

“Bydd Cronfa Fusnes Cymru yn golygu y gall BBaChau gael gafael ar hyd at £136 miliwn o gymorth ariannol dros y saith mlynedd nesaf, gan sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda nid yn unig i ddatblygu eu marchnadoedd gartref ond hefyd i gystadlu yn rhyngwladol.  

“Bydd y cymorth hwn yn cael ei ategu gan Fanc Datblygu Cymru, fydd yn rhoi rhagor o gymorth i fusnesau o Gymru gael gafael ar gyllid, ac yn y pen draw yn ein helpu i ddiogelu a chreu swyddi ledled Cymru.  

“Mae ein gwaith i sefydlu Banc Datblygu yn mynd rhagddo yn dda, ac rydym bellach wedi derbyn cynllun busnes sydd wedi’i brisio’n llawn gan Cyllid Cymru fydd yn eu gweld yn datblygu yn Fanc Datblygu Cymru.  

“Mae’r gwaith yn mynd rhagddo i werthuso costau a manteision y cynllun, gyda’r bwriad o weld y banc yn weithredol yn ail hanner y flwyddyn nesaf.  

“Rwyf wedi ymrwymo i Fanc  Datblygu ar gyfer Cymru sy’n trawsnewid ac yn ei gwneud yn haws i gael cyllid ar gyfer BBaChau ac sydd wedi’i integreiddio’n glos â’r gwasanaethau cynghori a chymorth sy’n cael eu darparu gan Busnes Cymru.  

“Prif nod y Banc Datblygu yw cynyddu lefelau buddsoddi i fusnesau yng Nghymru a galluogi ein heconomi i ffynnu.  Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth inni geisio sicrhau bod busnesau yn fwy hyderus wedi refferendwm yr UE, ac rwy’n gobeithio y bydd y Banc Datblygu yn cynyddu lefelau buddsoddi i £80 miliwn y flwyddyn o fewn 5 mlynedd.”  

Ychwanegodd Giles Thorley, Prif Swyddog Gweithredol Cyllid Cymru:  

“Mae lansio Cronfa Busnes Cymru, sy’n werth £136 miliwn, a’r datblygiadau cyffrous gyda’r cynlluniau ar gyfer Banc Datblygu Cymru yn hwb sylweddol i economi Cymru.  Bydd ein cronfa newydd, rhan o dros £700 miliwn o gyllid sy’n cael ei reoli gan Grŵp Cyllid Cymru, yn cynnig buddsoddiadau hyblyg i fentrau bach a chanolig yng Nghymru (BBaChau).  Y busnesau hyn sy’n cynnal yr economi yng Nghymru ac rydym yn falch o’u cefnogi.  

Mae cyllid yn parhau i fod ar gael i fusnesau Cymru, er gwaethaf y bleidlais Brexit yn ddiweddar.  Mae prosiectau y cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd – megis Cronfa Fusnes Cymru – sydd wedi eu cymeradwyo cyn datganiad yr hydref eleni wedi derbyn cyllid gwarantiedig.  

“Gyda’r gronfa newydd hon a’n ffaith ein bod yn datblygu yn Fanc Datblygu ar gyfer Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn gallu adeiladau ar ein profiad presennol, cynnig atebion hyblyg o ran cyllid i amrywiol fusnesau. Mae’r pecyn newydd sydd wedi ei amlinellu gan Lywodraeth Cymru yn denu cwmnïau rhyngwladol yn ogystal ag entrepreneuriaid o Gymru.  Mae Cymru yn lle gwych i gynnal busnes ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi amgylchedd busnes cryf.”