Neidio i'r prif gynnwy

Mae enw da Cymru fel cyrchfan wych ar gyfer cynyrchiadau teledu o safon uchel wedi cael hwb ychwanegol yr wythnos hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd pob un o’r bedair cyfres, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a chyfnogaeth Sgrîn Cymru, eu ffilmio a’u cynhyrchu yng Nghymru, ac mae’r gyfres wedi ei lleoli yng Nghaerdydd a’r ardal.  Roedd y gyfres yn apelio’n fawr at gynulleidfaoedd ym Mhrydain a thramor a’r drydedd gyfres oedd y gyfres ddrama fwyaf poblogaidd ym Mhrydain ers 2001.

Bu 11.82 miliwn o bobl ar gyfartaledd yn gwylio’r gyfres, gydag oddeutu 12.72 miliwn yn gwylio’r rhaglen gyntaf.  Mae’r bedwaredd gyfres o Sherlock – y bu disgwyl mawr amdani, ac sydd eto wedi’I ffilmio yng Nghymru – yn dychwelyd i’r teledu ar 1 Ionawr 2017.

Mae digwyddiad BAFTA Cymru yn Llundain ddydd Gwener 9 Rhagfyr yn cael cefnogaeth Hartswood Films a Sgrîn Cymru, pan fydd y newyddiadurwr, yr awdur, y beirniad a’r darlledwr Boyd Hilton yn cynnal sgwrs gyda rhai o’r unigolion amlwg fu’n helpu I sicrhau bod Sherlock yn cymaint o lwyddiant.

Maent yn cynnwys: Steven Moffat, Cynhyrchydd Gweithredol a chyd-grëwr Sherlock a Rheolwr Creadigol, Ysgrifennydd a Chynhyrchydd Gweithredol Doctor Who; Mark Gatiss, cyd-grëwr Sherlock, sydd hefyd wedi ysgrifennu ac ctors yn Sherlock a Doctor Who; Cynhyrchydd y Gyfres, Sue Vertue, a’r ctors Amanda Abbington sy’n chwarae rhan Mary Watson.

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

“Mae’r sector teledu a ffilm yng Nghymru yn mynd o nerth I nerth, ac rydym wedi sicrhau enw da haeddiannol fel lleoliad gwych ar gyfer ffilmio gyda criw a chyfleusterau profiadol a dawnus, a gwasanaeth hynod broffesiynol gan Sgrîn Cymru.   

“Mae digwyddiad dathlu Sherlock yn blatfform gwych I dynnu sylw pobl ac ystyried yr hyn y gall Gymru ei gynnig I gynyrchiadau teledu o ran sgiliau, arbenigedd a chymorth.  Bydd yn rhoi cyfle I rwydweithio gydag unigolion sydd wedi sefydlu eu hunain yn y sector ffilm/teledu yn ogystal â chysylltu gyda darpar gynhyrchwyr sy’n ystyried dod â’u prosiectau I Gymru ar hyn o bryd.  

“Ers 2012 rydym wedi cynnal 185 o gynyrchiadau ffilm a theledu yng Nghymru.  Bu i’r cynyrchiadau – a gafodd eu ffilmio ar leoliad yng Nghymru gyda chymorth Sgrîn Cymru – wario dros £138.6miliwn yn hybu economïau lleol ledled Cymru.

“Llynnedd oedd un o’r blynyddoedd mwyaf llwyddiannus hyd yma gyda 55 o gynyrchiadau yn ffilmio yng Nghymru, ddaeth â chyfanswm o £38.8miliwn i’r economi.  Bydd 2016 yr un mor llwyddiannus, a cyhoeddais yr wythnos diwethaf bod Will – gyda chymorth Llywodraeth Cymru – yn cael ei ffilmio ar hyn o bryd yng Nghymru.  Dyma’r cynhyrchiad teledu o’r UDA sydd â’r gyllideb fwyaf erioed I ffilmio yng Nghymru, ac mae disgwyl iddo gynhyrchu £18 miliwn i’r economi leol.”   

Yn gynharach yr wythnos hon, aeth Sgrîn Cymru I FOCUS – y digwyddiad cynhyrchu rhyngwladol yn Llundain sy’n denu gweithwyr cynhyrchu a ffotograffiaeth proffesiynol o’r diwydiannau ffilm, teledu a hysbysebu o 55 o wahanol wledydd.