Neidio i'r prif gynnwy

A fedrwch CHI helpu i ofalu am ddinosoriaid, tŷ crwn o Oes yr Haearn, Trên Stêm ac amryw o drysorau cenedlaethol eraill?

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Amgueddfa Cymru yn gofalu am bob math o drysorau, gan gynnwys dinosor 200 miliwn oed o Gymru a arferai fwyta cig, gwerth 500 mlynedd o baentiadau o bob cwr o’r byd, trên stêm o’r ddeunawfed ganrif, darn gwerthfawr o garreg o’r lleuad o daith Apollo 12, a phwll glo go iawn.

Mae dros 1.7 miliwn o bobl yn ymweld â’r saith safle bob blwyddyn ac ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n chwilio am bobl sy’n ymroddedig iawn, yn frwd ac yn ysbrydoledig i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru. Mae’r ymddiriedolwyr yn helpu i sicrhau bod modd i hyd yn oed fwy o bobl werthfawrogi a mwynhau'r amrywiaeth eang o arteffactau a chasgliadau rhyfeddol y mae’r Amgueddfeydd yn gofalu amdanynt.

Mae tair swydd wag ar gyfer ymddiriedolwyr ar y Bwrdd ac mae’r Bwrdd hwnnw’n gyfrifol am bennu’r strategaeth ac edrych am ffyrdd o wella a datblygu’r saith amgueddfa genedlaethol amrywiol sydd yng Nghymru, ynghyd a’r Ganolfan Casgliadau Cenedlaethol.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith, sydd hefyd yn gyfrifol am Ddiwylliant, Treftadaeth a’r Celfyddydau yng Nghymru: 
“O ffosiliau cyn-hanesyddol i femorabilia mudiad y swffragetiaid, mae ein hamgueddfeydd  yn ymfalchïo mewn amrywiaeth eang o arteffactau rhyfeddol sydd o bwys diwylliannol ac rydym yn awyddus i sicrhau bod Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru yn parhau i adlewyrchu’r un amrywiaeth a’r diddordebau a geir yn y Gymru fodern.  
“Mae’r swyddi hyn yn gyfle arbennig i bobl sy’n frwdfrydig ac sydd â’r cymhelliant sydd ei angen i gymryd rhan a helpu i lywio a chefnogi dyfodol amgueddfeydd cenedlaethol Cymru, a’u gwneud mor hygyrch, mor apelgar a chynaliadwy ag sy’n bosibl.
“P’un a ydych yn hen law ar fod yn arweinydd neu heb fod yn ymddiriedolwr erioed o’r blaen, mae hwn yn gyfle arbennig i gyfrannu at wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan feithrin profiadau gwerthchweil a diddorol. Mae hefyd yn gyfle i wneud cysylltiadau newydd.”

Ychwanegodd Elisabeth Elias, Llywydd Amgueddfa Cymru: 
“Rydym yn edrych am unigolion ymrwymedig sy’n frwdfrydig dros ddyfodol Amgueddfa Cymru, ac a fydd felly’n gallu cyfrannu at y gwaith parhaus o wella a datblygu’r sefydliad.
“Byddant yn gwasanaethu ochr yn ochr â’r ymddiriedolwyr presennol sydd yn gweithio i gadw’r enw da sydd gan y sefydliad yn rhyngwladol ac i sicrhau bod ein hamgueddfeydd cenedlaethol yn parhau i wasanaethu cymunedau ledled Cymru”.

Cynhelir cyfarfodydd o’r Bwrdd bedair gwaith y flwyddyn. Gan amlaf, cynhelir tri o’r rheini yng Nghaerdydd, naill ai yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd neu yn  Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, a chynhelir y llall mewn un lleoliad arall y tu allan i Gaerdydd.  

Mae’r swyddi hyn yn rhai gwirfoddol ac yn ddi-dâl, ond bydd yr Amgueddfa’n ad-dalu’r holl gostau rhesymol a ysgwyddir wrth wneud gwaith yr Amgueddfa. I ddechrau, pedair blynedd fydd hyd y penodiadau ar gyfer pob Ymddiriedolwr ac mae angen iddynt fod ar gael am o leiaf 12 diwrnod y flwyddyn.

Dros yr wythnosau nesaf, cynhelir cyfres o ddiwrnodau agored yn y Gogledd a’r De fel y bo pobl yn gallu dod i wybod mwy am Amgueddfa Cymru a’r dyletswyddau hyn:
  • Ddydd Iau 15 Medi (2pm-6pm) a dydd Sadwrn 24 Medi (10am-1pm) cynhelir sesiynau galw heibio yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd – does dim angen archebu lle, dim ond galw heibio.
  • Fel arall, os byddai’n well gennych ddod i’n diwrnod agored yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis ddydd Iau 22 Medi (10am-5pm), dylech gysylltu ag Elaine Cabuts drwy ffonio (029) 2057 3204 erbyn canol dydd ar 19 Medi er mwyn archebu lle. 
Cewch fwy o wybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer Ymddiriedolwyr yn yr adran ddolenni perthnasol ar y tudalen hon.
Y dyddiad cau yw 30 Medi 2016. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau ar y gwaith ar 1 Ionawr 2017.