Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi lansio deunyddiau dysgu newydd, gan gynnwys fideos ar-lein, i alluogi mwy o rieni i helpu eu plant gyda'u gwaith cartref mathemateg
Diben yr adnoddau newydd, a ddatblygwyd gyda chymorth tri arbenigwr ym maes rhifedd yng Nghymru, yw ei gwneud yn haws ac yn llai o straen i rieni neu ofalwyr helpu eu plant gyda'u gwaith cartref mathemateg. Cyhoeddwyd llyfrynnau ar-lein heddiw sy'n cynnwys pedwar cyfrifiad mathemateg, a hynny ar lefel sy'n briodol i bob grŵp oedran. Mae fideos (dolen allanol) wedi'u cynhyrchu hefyd yn ôl senario gwneud gwaith cartref i ddangos i rieni/gofalwyr sut y gallant helpu eu plant gyda'u gwaith cartref mathemateg.
Dywedodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg:
"Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw anogaeth rhieni fel y cysylltiad hanfodol rhwng yr ysgol a'r cartref, ac wedi bod yn siarad â rhieni a gofalwyr am sut y gallant helpu.
"Un mater a godwyd ganddynt sawl gwaith oedd eu pryder ynghylch mathemateg a sut i helpu eu plentyn gartref. Mae ein hadnoddau dysgu newydd yn eu hannog i gefnogi eu plant gyda'u gwaith cartref mathemateg, ac maent wedi'u cyhoeddi mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn ysgol newydd.
“Bydd gallu helpu plant i ddatblygu'r sgiliau bywyd hollbwysig hynny yn y cartref – bod yn chwilfrydig, yn hyderus ac yn barod i ddysgu – yn sicrhau bod dechrau'r ysgol yn brofiad positif a chyffrous o'u diwrnod cyntaf yno.”
Y cartref yw'r ffactor pwysicaf o ran cyrhaeddiad addysgol a thrwy greu amgylchedd sy'n cefnogi plant i ddysgu mae rhieni'n rhoi'r dechrau gorau posibl iddynt mewn bywyd.
Mae'r adnoddau newydd yn rhan o'r ymgyrch "Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref" sy'n ceisio pontio'r bwlch dysgu rhwng y disgyblion mwyaf cefnog a'r rhai mwyaf difreintiedig drwy ddangos i rieni a gofalwyr sut mae'r pethau bach maent yn eu gwneud yn y cartref yn gallu helpu eu plentyn i wneud yn well yn yr ysgol.
Bydd y fersiynau copi caled o'r llyfrynnau sy'n ategu'r fideos yn cael eu dosbarthu i bob ysgol yng Nghymru ar 26 Medi.