Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi ei chynlluniau i newid rheoliadau ynghylch sut y mae awdurdodau lleol yn cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O dan y rheoliadau, sy'n destun ymgynghoriad sy'n dechrau heddiw, bydd awdurdodau lleol yn gosod eu targedau eu hunain i gynyddu nifer y dysgwyr mewn ysgolion sy'n cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn yr ysgol ac i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd. Caiff y targedau hyn eu cytuno â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r nod hirdymor o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yw'r fframwaith statudol ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg leol. Daw'r newidiadau yn sgil argymhellion yr Adolygiad Cyflym o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. O dan y cynigion, bydd hyd y Cynlluniau hefyd yn cynyddu o gylch tair blynedd i gylch deng mlynedd.

Bydd Cwricwlwm ysgol drafft newydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys dysgu Cymraeg drwy un continwwm a dirwyn Cymraeg ail iaith i ben.

Mae'r strategaeth Cymraeg 2050 yn pwysleisio rôl addysg cyfrwng Cymraeg o ran creu rhagor o siaradwyr Cymraeg. Nod y strategaeth yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn, a sicrhau cynnydd o 20 y cant o ran canran y bobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd erbyn 2050.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Roedd yr Adolygiad Cyflym yn cydnabod yr angen i newid cynlluniau awdurdodau lleol unigol ac atgyfnerthu'r fframwaith deddfwriaethol. Bydd y diwygiadau hyn yn rhoi'r argymhellion ar waith drwy broses gynllunio fwy cadarn a mwy atebol gyda chanlyniadau sydd â chysylltiad clir â nodau Cymraeg 2050. 

“Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn unigryw, ond mae gan bob un ohonynt rôl yr un mor bwysig o ran ehangu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ac rydym yn ymrwymedig i gydweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu eu darpariaeth.

“Mae'r newidiadau hyn yn bwysig os ydym am wireddu gweledigaeth ein cwricwlwm newydd, sef sicrhau bod pob dysgwr yn ddwyieithog o leiaf wrth adael yr ysgol.”

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol:

“Mae Cymraeg 2050 yn nodi ein cynlluniau a'n disgwyliadau o ran atgyfnerthu a sicrhau dyfodol y Gymraeg, gan gynnwys system addysg statudol sy'n cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus.

“Er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae'n rhaid inni sicrhau cynnydd sylweddol o ran nifer y disgyblion sy'n cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn yr ysgol ac yn eu bywydau bob dydd.

“Bydd y rheoliadau diwygiedig yn gwella trefniadau Cynllunio Addysg Cyfrwng Cymraeg, ac rwy'n annog cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.”

Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd a chadeirydd y Bwrdd Cynghori annibynnol ar y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg:

“Mae'n bleser gweld bod nifer fawr o argymhellion y Bwrdd wedi'u hymgorffori yn y rheoliadau drafft a'r canllawiau drafft. Fel Bwrdd, ein blaenoriaeth yw atgyfnerthu'r fframwaith cynllunio addysg Gymraeg drwy'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg o fewn y ddeddfwriaeth bresennol. Rwy'n hyderus y gall y newidiadau arfaethedig arwain at ragor o gynllunio mwy pwrpasol, strategol ac uchelgeisiol gan awdurdodau lleol a chefnogi gweledigaeth hirdymor y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."

Bydd yr ymgynghoriad yn para hyd 2 Medi 2019.