Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

3. Rhoi caniatâd i rywun weithredu ar eich rhan

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon i awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan yn eich materion treth gyda ni yn Awdurdod Cyllid Cymru.

Gallwch awdurdodi:

  • asiant, megis cyfreithiwr neu gyfrifydd
  • 'cynorthwyydd dibynadwy' fel ffrind neu berthynas

Unwaith y bydd wedi'i gymeradwyo, byddwn yn anfon llythyr atoch chi a'r person rydych wedi'i awdurdodi i gadarnhau y gallant weithredu ar eich rhan.

Bydd yr awdurdod hwn yn parhau hyd nes y byddwch chi’n ddweud wrthym am unrhyw newidiadau. Os nad ydych am i berson awdurdodedig weithredu ar eich rhan bellach, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.