Neidio i'r prif gynnwy

Ers 1 Mai mae Gweinidogion Cymru wedi mabwysiadu rôl yr Awdurdod Dyroddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar rôl Awdurdodau Dyroddi ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru, bydd holl fframweithiau prentisiaethau newydd a diwygiedig Cymru yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Daeth yr ymgynghoriad i'r casgliad bod dull newydd o weithredu i’w groesawu a bod hynny’n angenrheidiol er mwyn datblygu a darparu prentisiaethau o ansawdd uchel yng Nghymru. Byddai rhoi’r rôl hon i Lywodraeth Cymru yn gyson â dulliau gweithredu ar draws holl wledydd y DU ac yn rhoi mwy o reolaeth i Weinidogion Cymru dros ansawdd fframweithiau prentisiaethau, gan wahanu rolau yn glir rhwng yr awdurdod dyroddi a datblygwyr y fframwaith.

Rhoddwyd pwerau yn Neddf Dadreoleiddio 2015 i ganiatáu'r opsiwn i Weinidogion Cymru ddyroddi fframweithiau prentisiaethau yn ogystal â'u pwerau presennol i ddirprwyo awdurdod arall i wneud hynny. Mae'r pwerau hyn bellach wedi dod i rym, sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i weithredu fel awdurdod dyroddi o ran y sectorau prentisiaeth yng Nghymru.

Ein nod yw cryfhau a gweithredu trefniadau newydd ar gyfer comisiynu a datblygu fframweithiau prentisiaethau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod fframweithiau o safon uchel ar gael mewn amrywiol alwedigaethau er lles economi a phrentisiaid Cymru. Mae hyn yn cynnwys adolygu strwythur fframweithiau prentisiaethau er mwyn ei gwneud yn fwy hwylus i bobl fanteisio arnynt ac i roi mwy o wybodaeth i’r bobl berthnasol. Rydym yn bwriadu cyhoeddi amserlen tair blynedd ar gyfer adolygu a datblygu'r fframweithiau cyn bo hir, gan gynnwys meini prawf ar gyfer fframweithiau newydd sy'n dryloyw, yn gyson ac yn addas i'r diben.

Ar hyn o bryd rydym yn diweddaru'r Fanyleb ar gyfer Safonau Prentisiaethau Cymru (SASW), a fydd hefyd yn dod i rym yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn cynnwys gofynion newydd i gefnogi prentisiaid sydd ag anawsterau neu anableddau dysgu, gan ddileu rhwystrau o ran sgiliau hanfodol a allai fod wedi’u hatal rhag manteisio ar brentisiaethau yn y gorffennol. Byddwn hefyd wedi diweddaru'r cymwysterau amgen a ganiateir ac wedi cynnwys adran newydd ynghylch gradd-brentisiaethau. Bydd rhagor o ohebiaeth ynghylch hyn yn cael ei chyhoeddi maes o law, gyda dolen at y ddogfen newydd.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y mater hwn, anfonwch e-bost