Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Mawrth 2024.
Crynodeb o’r canlyniad
Diweddariad: 26 Medi 2024 – Nodyn ar ymestyn cyfnod dyrannu am ddim cyntaf Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU hyd at 2026
Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU yn ymgynghori â gweithredwyr yn y cynllun ar gynnig i symud dechrau'r ail gyfnod dyrannu o 2026 i 2027, gan ymestyn y cyfnod dyrannu presennol i gynnwys 2026. Bydd gweithredwyr yn derbyn yr ymgynghoriad gan reoleiddiwr eu cynllun ac mae ganddynt tan 11 Hydref i gyflwyno ymatebion. Gweler GOV.UK am fwy o wybodaeth.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisiau eich barn ar gynigion i newid methodoleg dyrannu am ddim ar gyfer y sectorau llonydd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Nod cynigion yw targedu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o ollwng carbon yn well a sicrhau bod dyraniadau am ddim yn cael eu dosbarthu'n deg.
Bydd hyn yn canolbwyntio'n fras ar bedwar maes allweddol:
- sut rydym yn cyfrif am allyriadau a gweithgareddau,
- meincnodau
- y rhestr gollyngiadau carbon,
- ffactorau ychwanegol y gallem fod eisiau eu cyflwyno i fethodoleg dyrannu am ddim.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK