Safonau a pholisïau ystadegol
Darparu’r polisïau rydym yn eu defnyddio i lunio ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a chyfrinachedd data.
Cynnwys
Cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol
Rydym yn cyhoeddi ystadegau yn unol ag atodlen o ddyddiadau cyhoeddi arfaethedig.
Byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am:
- sut rydym yn cadw at 3 elfen y cod; dibynadwyedd, ansawdd a gwerth
- y ffynonellau data rydym yn eu defnyddio
- sut rydym yn rheoli’r data rydym yn eu dal, sut rydym yn rhyddhau data, gan gynnwys datganiad data agored, polisi adolygiadau a mynediad cyn rhyddhau
Cyfrinachedd data
Mae gan Awdurdod Cyllid Cymru wybodaeth fanwl am unigolion a sefydliadau. Rydym wedi ymrwymo i reoli’r wybodaeth hon i’r safonau uchaf.
Dim ond i gefnogi casglu a rheoli trethi a rhwymedigaethau cyfreithiol eraill fyddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad ystadegol er mwyn deall y dreth sy’n cael ei hasesu a’i chasglu yng Nghymru.
Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd am fwy o fanylion.
Polisïau ystadegol
Rydyn ni wedi cyhoeddi polisi ar allbynnau ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru.
Adborth
Cofiwch gysylltu â ni gyda chwestiynau ac adborth am ein hystadegau.