Neidio i'r prif gynnwy

Manylion y swydd a sut i wneud cais am ein rôl Uwch Gynghorydd Polisi yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Manylion y rôl

Teitl y swydd

Uwch Gynghorydd Polisi

Ystod cyflog

£51,380 i £61,440

Gradd

Gradd 7

Patrwm gwaith

Mae hon yn rôl llawn amser. Fodd bynnag, croesewir trefniadau gweithio hyblyg a rhannu swydd a byddant yn cael eu hystyried.

Math o gontract

Parhaol Neu ar gael fel benthyciad / secondiad am hyd at 2 flynedd.

Lleoliad

Rydym yn annog gweithio hyblyg a hybrid ond ar hyn o bryd rydym yn gofyn i'n pobl weithio gartref os y gallant, neu o'n swyddfa ym Merthyr Tudful/Caerdydd. 

Disgwylir i chi weithio gartref i ddechrau ac fe fyddwn yn hyblyg ynglŷn â sut yr hoffech chi weithio unwaith y bydd cyfyngiadau Covid wedi dod i ben, er y bydd disgwyl i chi fynychu swyddfa Merthyr/Caerdydd rywfaint pan fydd yn ddiogel i ni ddychwelyd. Byddwn yn symud i swyddfeydd newydd yn 2022, yn ardal Pontypridd mae’n debyg.

Dyddiad ac amser cau

Dydd Mawrth 21 Mehefin 2022 am 11:55pm

Yn atebol i

Dave Matthews, Pennaeth Strategaeth Treth a Pholisi

Cysylltwch â ni am y rôl hon

recriwtio@acc.llyw.cymru

Amdanom ni

Yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), rydym yn gyfrifol am gasglu a rheoli dwy dreth Gymreig ddatganoledig; Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi, ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r refeniw a godir gennym yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i helpu i gyflwyno system dreth deg i Gymru drwy 'Ein Dull', sy’n ffordd Gymreig o drethu. Drwy gydweithio â chynrychiolwyr, sefydliadau partner, trethdalwyr a'r cyhoedd, rydym yn sicrhau bod trethi'n cael eu casglu'n effeithlon ac yn effeithiol. 

Rydym yn seilio popeth a wnawn ar ein Cynllun Corfforaethol 2019 hyd 2022. Mae'n nodi ein diben, ein hamcanion strategol, a’n huchelgeisiau tymor hwy. Rydym yn adrodd ar ein gwaith yn flynyddol - gweler ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Rydym yn sefydliad bach ac aml-sgiliau o dros 70 o staff, gyda thalentau, sgiliau a phrofiad yn cwmpasu 14 o broffesiynau gwahanol. Rydym yn hyrwyddo arloesi, cydweithredu a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Ac rydym yn galluogi ac yn ymddiried yn ein pobl i weithio gyda lefelau uchel o gyfrifoldeb ac ymreolaeth.

Gallwch ddysgu mwy am weithio gyda ni yn ein Harolwg Pobl diweddaraf. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/acc

Ynglŷn â’r rôl

Oherwydd yr angen cynyddol am ein harbenigedd er mwyn cefnogi Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, rydym wedi creu rôl newydd yn canolbwyntio ar ein gwasanaethau yn y dyfodol – yn llunio dyluniad gwasanaethau treth a refeniw newydd posibl, fel ardoll ymwelwyr, cyfraddau lleol y Dreth Trafodiadau Tir a'r  platfform data tir ac eiddo i Gymru.

Fel rhan o Strategaeth a Pholisi Treth Awdurdod Cyllid Cymru, byddwch yn ymuno â thîm agos o gydweithwyr polisi sy'n perfformio'n dda, er mwyn cefnogi ein gwasanaethau presennol, ac yn treulio llawer o'ch amser gyda chydweithwyr eraill ar draws ein gwahanol broffesiynau, gan gynnwys data, digidol, mewnwelediad cwsmeriaid, gweithrediadau, cyfathrebu a chyllid.

Gan ddefnyddio – a chynyddu eich profiad o weithredu a rhedeg systemau darparu o'r dechrau i'r diwedd, byddwch yn dylanwadu ar eraill er mwyn sicrhau bod bwriad a darpariaeth gwasanaethau’n cyd-fynd yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys meddwl am fodelau gweithredol – ac effaith dewisiadau polisi arnynt, atebion digidol arloesol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, nodi heriau gweinyddol a chydymffurfio posibl, a dod â phobl ynghyd i archwilio atebion a chyfleoedd trawsbynciol y gellid eu hymestyn ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Does dim angen profiad blaenorol o'r tirlun trethi datganoledig arnoch, ond bydd angen i chi fod â phrofiad o sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â meysydd polisi cymhleth yng nghyd-destun y llywodraeth.

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y rôl, bydd angen i chi fod ag ysfa i ddatrys problemau a dileu ansicrwydd, gan greu cysylltiadau rhwng syniadau ac awydd i greu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol mewn meysydd heriol. Bydd hon yn rôl sy'n cynnwys darllen a drafftio gwybodaeth sy'n aml yn gymhleth, yn ogystal â llawer o ryngweithio â gwahanol bobl a thimau, o fewn a'r tu allan i ACC. Byddwch yn mwynhau ac yn gwneud y ddau beth yn hyderus ac yn gallu teilwra eich arddull gyfathrebu yn ôl yr angen. Byddwch hefyd yn rheoli eich amser er mwyn gallu newid rhwng y ddwy ffordd hyn o weithio.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn dod â sgiliau proffesiynol amrywiol a phrofiad ymarferol ynghyd er mwyn datblygu atebion dylunio treth. Gan weithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac ar draws ein disgyblaethau proffesiynol (gan gynnwys data, digidol, mewnwelediad cwsmeriaid, gweithrediadau, cyfathrebu, cyllid, AD), byddwch wrth wraidd dylunio trethi yng Nghymru. Does dim angen i chi fod yn arbenigwr yn y meysydd hyn, ond byddwch yn mwynhau gweithio ar draws ffiniau proffesiynol, gan ddod o hyd i ffyrdd newydd o gyfleu ein dealltwriaeth gyfunol i gydweithwyr a rhanddeiliaid ar draws Llywodraeth Cymru a thu hwnt.

Dave Matthews, Pennaeth Strategaeth a Pholisi Treth

Sesiwn wybodaeth i Ymgeiswyr

Byddwn yn cynnal sesiwn wybodaeth rhithwir i ymgeiswyr ar Dydd Mercher 15 Mehefin 2022 am hanner dydd ar Microsoft Teams. Os hoffech fynychu, cofrestrwch ar gyfer y sesiwn wybodaeth ar Tocyn Cymru: Candidate Information Session - Senior Policy Adviser | tocyn.cymru (beta)

Prif dasgau

Datblygu polisi strategol

  • Chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu ein dull o ymdrin â threthi a gwasanaethau refeniw datganoledig newydd yng Nghymru, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
  • Cydlynu a llywio ein cyngor i gydweithwyr yn Nhrysorlys Cymru a chydweithio â hwy ar feysydd polisi a dylunio treth newydd arwyddocaol, megis y posibilrwydd o gyflwyno cyfraddau Treth Trafodiadau Tir lleol ac ardoll ymwelwyr i Gymru, a chydlynu meddwl Awdurdod Cyllid Cymru o ran darparu gwasanaethau.
  • Arwain mewnbwn polisi sydd ynghlwm â datblygu platfform data eiddo i Gymru, gan gefnogi cyfleoedd i gefnogi trethi a gwasanaethau cyhoeddus ehangach.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu polisi a chyngor ar ddiweddaru deddfwriaeth sylfaenol Awdurdod Cyllid Cymru – Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 – er mwyn sicrhau bod ein swyddogaethau a'n pwerau’n parhau i adlewyrchu ein diben a'n hamcanion ehangach.
  • Arwain ein cyngor a'n cydweithrediad ar ddatblygu prosiectau polisi treth penodol fel y nodir yng nghynllun gwaith polisi treth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys newidiadau pellach posibl i drethi datganoledig a chyflwyno trethi newydd.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio data, mewnwelediad cwsmeriaid a dadansoddi i nodi a mynd i'r afael â materion yn gynnar, gan ddatrys cymhlethdod er mwyn sicrhau bod trethi datganoledig yn gweithredu fel y’u bwriadwyd. Lle bo angen, bydd deiliad y swydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru yn ehangach a Gweinidogion ar newidiadau i ddeddfwriaeth treth ddatganoledig.
  • Ymchwilio i arfer gorau rhyngwladol er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu strategaeth drethi a chefnogi'r gwaith o gyflawni trethi datganoledig yn effeithiol, gan weithio ar draws y sefydliad i alluogi cyflawni amcanion ein cynllun corfforaethol.

Datblygu polisi gweithredol

  • Darparu cyngor amserol o ansawdd uchel ar gymhwyso polisi treth yn ymarferol er mwyn datrys ansicrwydd a sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud a'u cyfleu mewn ffordd sy'n gadarn, yn glir ac yn gyfreithlon.
  • Nodi a mynd i'r afael â materion sy'n codi o weithredu polisi treth, gan arwain ar newidiadau i'n dull presennol lle bo angen.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu a gwerthuso polisi gweithredol ACC wrth i'n swyddogaethau a'n rôl addasu dros amser.
  • Arwain ar gwblhau asesiadau o effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y meysydd cyfrifoldeb perthnasol, gan sicrhau ein bod yn deall effeithiau'r strategaethau a'r polisïau rydym yn eu datblygu ar ein cwsmeriaid.
  • Datblygu gwybodaeth ymarferol am drethi datganoledig, gan gynnwys y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, ar gyfer cefnogi datblygiad polisi ehangach.

Adeiladu perthnasoedd

  • Datblygu a chynnal perthnasoedd â chyrff perthnasol eraill sy'n ymwneud â dylunio a gweinyddu trethi (er enghraifft, Cyllid a Thollau EI Mawrhydi, Cyllid yr Alban) a rhanddeiliaid allweddol (Trysorlys Cymru, adrannau eraill y llywodraeth, awdurdodau lleol, cyrff cynrychioliadol), yn ogystal â rhanddeiliaid allanol ehangach.
  • Mae’r swydd hon yn debygol o fod â rhai cyfrifoldebau rheoli llinell a byddwch hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus y sefydliad, gan gefnogi prosiectau corfforaethol lle bo hynny'n briodol.

Meini prawf llwyddiant

Rydym yn recriwtio gan ddefnyddio proffiliau llwyddiant. Bydd ein canllawiau proffiliau llwyddiant yn eich helpu i gwblhau eich cais.

Yn gryno, mae'r dull hwn yn golygu:

  • ein bod yn chwilio am dystiolaeth o'r hyn yr ydych wedi'i wneud a'r hyn y gallwch ei wneud. Mae hyn yn golygu ein bod yn chwilio am yr ymddygiadau, y cryfderau a'r gallu sydd ei angen i wneud y gwaith
  • lle y bo angen neu'n berthnasol, rydym hefyd yn ystyried profiad a gwybodaeth dechnegol
  • bod y dull hwn yn dechrau yn ystod y cam ymgeisio ac yn parhau drwy gydol y broses recriwtio
  • y byddwn yn chwilio am rai pethau ar rai adegau. Byddwn bob amser yn glir o ran yr hyn yr ydym yn chwilio amdano a phryd

Dylech dynnu sylw at dystiolaeth o'r tabl isod yn ystod y broses recriwtio. Efallai y byddwch hefyd am gyfeirio at y prif dasgau a nodir uchod.

Ymddygiadau

Meini prawf

Yn cael ei asesu yn y datganiad personol a’r CV Yn cael ei asesu yn ystod cyfweliad neu asesiad

Gweld y Darlun Cyflawn

Sicrhau bod cynlluniau a gweithgareddau yn eich maes gwaith yn adlewyrchu blaenoriaethau strategol ehangach a chyfathrebu'n effeithiol gydag uwch arweinwyr i ddylanwadu ar strategaethau yn y dyfodol. Dwyn ynghyd syniadau, safbwyntiau ac anghenion amrywiol rhanddeiliaid i gael dealltwriaeth ehangach o'r materion sy'n ymwneud â pholisïau a gweithgareddau.

Ydy

Ydy

Gweithio ar y Cyd

Adeiladu a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau yn weithgar er mwyn cyflawni cynnydd ar amcanion a rennir. Parhau i fod ar gael ac yn hawdd ei gysylltu i bob cydweithiwr a bod yn agored i syniadau newydd.

Ydy

Ydy

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Cyflwyno casgliadau rhesymol gan ystod eang o dystiolaeth gymhleth ac weithiau anghyflawn. Gwneud penderfyniadau yn hyderus hyd yn oed pan fo manylion yn aneglur neu os ydynt yn profi'n amhoblogaidd.

Ydy

Ydy

Cryfderau

Meini prawf

Yn cael ei asesu yn y datganiad personol a’r CV Yn cael ei asesu yn ystod cyfweliad neu asesiad

Datryswr Problemau

Rydych yn cymryd agewdd gadarnhaol i ddatrys problemau ac i ddod o hyd i ffyrdd i nodi datrysiadau addas.

Nac ydy

Ydy

Dylanwadwr

Rydych yn dylanwadu ar eraill, rydych yn ynganu'r rhesymwaith er mwyn ennill eu cytundeb.

Nac ydy

Ydy

Dysgwr

Rydych yn holgar, rydych yn chwilio am wybodaeth newydd ac yn chwilio am ffyrdd newydd i ddatblygu chi eich hun.

Nac ydy

Ydy

Profiad a gwybodaeth dechnegol

Meini prawf

Yn cael ei asesu yn y datganiad personol a’r CV Yn cael ei asesu yn ystod cyfweliad neu asesiad

Y gallu i feithrin arbenigedd yn gyflym ym meysydd datblygu polisi a deddfwriaeth treth.

Nac ydy

Ydy

Gofynion o ran y Gymraeg

Mae'r rhestr ganlynol o ofynion iaith yn asesiad gwrthrychol o'r sgiliau iaith sydd eu hangen er mwyn cyflawni dyletswyddau'r swydd hon:

Sgiliau Cymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol

Darllen

0 = Dim sgiliau

Siarad

0 = Dim sgiliau

Deall

0 = Dim sgiliau

Ysgrifennu

0 = Dim sgiliau

Mae bod Cymraeg yn ddymunol yn golygu y byddai meddu ar sgiliau iaith Gymraeg yn ddefnyddiol yn y rôl hon, ond nid yw'n faen prawf asesu felly ni fyddwch o dan anfantais yn ystod y broses recriwtio os nad ydych yn siarad Cymraeg. Rydym yn cefnogi bob aelod o’r staff i ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg ar ôl iddynt ymuno â ni. 

Lefel fetio at ddibenion diogelwch

Fel adran o’r gwasanaeth sifil, mae gan ein pobl i gyd fynediad at asedau'r llywodraeth. Mae gwahanol rolau’n gofyn am wahanol lefelau fetio diogelwch cenedlaethol.

Lefel cliriad

Yn ofynnol ar gyfer y rôl

Safon Diogelwch Personél Sylfaenol

Ydy

Gwiriad Gwrthderfysgaeth

Nac ydy

Gwiriad Diogelwch

Nac ydy

Fetio Datblygedig

Nac ydy

Asesu

Mae ein proses asesu yn cynnwys cyfweliad cyfunol, lle y byddwn yn eich profi yn erbyn y meini prawf uchod.

Yn dibynnu ar y rôl, mae'n bosibl y byddwn yn:

  • profi am gryfderau sy'n berthnasol i'r ymddygiadau
  • gofyn i chi wneud ymarfer, prawf, neu gyflwyniad yn ystod cyfweliad
  • gofyn a oes gennych unrhyw ofynion yr hoffech i ni fod yn ymwybodol ohonynt

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, anfonwch:

  1. Eich CV (dim mwy na 2 dudalen A4).
  2. Datganiad personol (800 i 1,200 o eiriau) yn dangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf.
  3. Eich Ffurflen Fanylion. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod ein proses recriwtio yn parhau i fod yn un deg. Ni chaiff ei rhannu ymhellach na'n tîm Adnoddau Dynol.

Anfonwch y 3 dogfen at: recriwtio@acc.llyw.cymru

Er mwyn bod yn deg â phawb, nid ydym yn derbyn:

  • ceisiadau hwyr
  • dogfennau anghyflawn neu ddogfennau ar goll
  • datganiadau personol dros 1,200 o eiriau

Ni allwn drafod cyfleoedd gydag asiantaethau recriwtio, gwnewch gais yn uniongyrchol.

Rydym yn gweithio gartref ar hyn o bryd ac yn anffodus ni allwn dderbyn ceisiadau trwy'r post. Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon ac yn methu â gwneud cais trwy e-bost, cysylltwch â ni ar 03000 254 000 i drafod ffyrdd eraill o wneud cais.

Ni allwn drafod cyfleoedd gydag asiantaethau recriwtio, gwnewch gais yn uniongyrchol.

Buddion

Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion pan fyddwch yn ymuno ag ACC, megis:

  • pensiwn hael
  • cyflog sy'n gysylltiedig â dilyniant
  • 31 diwrnod o wyliau

Darganfyddwch fwy am y manteision o weithio i ni.

Mwy o wybodaeth amdanom ni

Dysgwch fwy am ein gwaith drwy fynd i’n gwefan. Neu dilynwch ac ymgysylltwch â ni ar ein cyfrifon Twitter, LinkedIn a Youtube.