Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn rheoli gwybodaeth bersonol pobl ifanc yn Awdurdod Cyllid Cymru.

Ynglŷn â'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Mae'r hysbysiad hwn ar gyfer person ifanc ynglŷn â Threth Trafodiadau Tir. Mae hon yn dreth y mae'n rhaid i bobl ei thalu yng Nghymru pan fyddan nhw’n prynu eiddo neu dir pan fydd dros bris penodol. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gyfrifol am gasglu'r Dreth Trafodiadau Tir.

Efallai yr hoffech chi ei ddarllen gydag oedolyn dibynadwy, neu gael rhywun i esbonio rhai pethau i chi.

Mae’n bwysig darllen hwn, gan ei fod yn dweud wrthych am:

  • ba wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu
  • sut rydym yn ei defnyddio
  • beth yw eich hawliau

Mae mwy o fanylion yn ein hysbysiad preifatrwydd data treth.

Beth yw gwybodaeth bersonol?

Ystyr 'gwybodaeth bersonol' yw unrhyw wybodaeth a ddefnyddir er mwyn eich adnabod chi, fel:

  • eich enw
  • ble rydych chi'n byw

Rydym yn cael y wybodaeth bersonol hon amdanoch chi ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

Pam mae ei hangen arnom

Rydym angen eich gwybodaeth bersonol fel ein bod yn gwybod pwy sydd wedi prynu eiddo neu dir yng Nghymru.

Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth

Efallai y byddwn yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch chi neu rywun sy’n eich helpu chi (er enghraifft, rhiant, gwarcheidwad neu gyfreithiwr) yn:

  • talu'r dreth, er enghraifft, wrth brynu tŷ
  • cysylltu â ni

Gwybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu amdanoch chi

Gall y data personol hwn gynnwys eich:

  • teitl (er enghraifft, Miss, Mr, arall) a’ch enw llawn
  • cyfeiriadau presennol ac yn y gorffennol
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad e-bost
  • rhifau ffôn
  • prawf adnabod, fel tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru

Gwybodaeth bersonol am drafodiadau treth, gan gynnwys unrhyw:

  • gyfeiriadau
  • symiau dan sylw

Hefyd, unrhyw fusnesau sy'n gysylltiedig, gan gynnwys:

  • enw'r cwmni
  • gyfeiriadau
  • rhif cwmni, os oes ganddo un

Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth bersonol amdanoch o leoedd eraill, fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).

Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi

Byddwn ond yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol pan fydd ei hangen arnom i'n helpu i gasglu'r dreth neu i ddilyn y gyfraith, er enghraifft, os bydd angen i ni gysylltu â chi.

Weithiau efallai y bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth bersonol â phobl rydym yn gweithio gyda nhw, fel CThEM neu eich cyngor lleol. Mae hyn er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn talu'r swm cywir o dreth.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio gwybodaeth bersonol i'n helpu i feddwl am sut mae trethi Cymru'n gweithio a sut y gallwn ni eu gwella. Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth bersonol mewn unrhyw ymchwil a wneir gennym.

Byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu ag unrhyw un arall oni bai bod:

  • y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny
  • angen i ni wneud hynny fel bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu
  • yn deg gwneud hynny

Cadw eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol gyhyd ag y bydd angen i ni wneud hynny er mwyn gwneud ein gwaith, a gwneud yn siŵr bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu. Byddwn yn dileu eich gwybodaeth bersonol ar ôl 20 mlynedd.

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gawn amdanoch chi’n cael ei chadw'n ddiogel.

Eich hawliau

Mae'r gyfraith yn dweud bod gennych hawliau penodol pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Yn bennaf, mae gennych chi’r hawl i gael gwybod sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol (yr hysbysiad hwn).

Fel arfer, gallwch chi:

  • ofyn am weld eich gwybodaeth
  • gofyn i ni gywiro gwybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi

Ond mewn rhai achosion, efallai na fyddwn yn gallu gwneud hyn.

Gallwch weld mwy am hawliau eraill sydd gennych yn ein hysbysiad preifatrwydd data treth llawn. 

Gallwch hefyd ofyn i ni am wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi:

  • gan sefydliadau eraill
  • sydd wedi’i rannu ar gyfer astudio neu ymchwil
  • sydd ddim yn ymwneud â threth, fel eich adborth

Manylion cyswllt

Os oes gennych gwestiynau am yr hysbysiad hwn neu am eich hawliau, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data. Dylid anfon cwynion atyn nhw’n gyntaf hefyd.

Gallwch hefyd gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Yr ICO yw awdurdod y DU ar gyfer materion diogelu data.

Swyddog Diogelu Data

Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)

Tŷ Churchill
17 Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn: 029 2067 8400 / 0303 123 1113

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gydag unrhyw newidiadau, er enghraifft, unrhyw ddefnydd newydd o ddata personol.