Sam Cairns Prif Swyddog Gweithredu

Ymunodd Sam ag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ym mis Hydref 2017 i sefydlu ac arwain ein swyddogaeth cyflawni gweithredol.
Cyn ymuno ag ACC bu’n gweithio mewn nifer o rolau treth proffesiynol yng Nghyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) dros gyfnod o 11 mlynedd, gan weithio ym meysydd trethi uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Roedd ei rolau diweddaraf yn cynnwys Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid yng nghyfarwyddiaeth Busnesau Mawr CThEM, ac Arweinydd Sector ar gyfer TG a Thelathrebu.
Astudiodd Sam Fusnes ym Mhrifysgol Caint, gan ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.