Neidio i'r prif gynnwy
Rebecca Godfrey

Rebecca yw Prif Weithredwr Dros Dro Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).  

Ymunodd Rebecca ag ACC yn 2017 fel Prif Swyddog Strategaeth. Helpodd i ddatblygu ein dull unigryw o reoli treth fel rhan o'r uwch dîm arwain. Helpodd hefyd i lunio ei gynllun corfforaethol cyntaf. 

Daeth Rebecca yn Brif Weithredwr Dros Dro ym mis Mai 2025 ac ar hyn o bryd mae'n gyfrifol am arwain y sefydliad a hi hefyd yw Swyddog Cyfrifyddu ACC.  

Cyn ymgymryd â’r rôl dros dro hon, Rebecca oedd y Prif Swyddog Gweithredu. Yn y rôl yma roedd hi'n arwain ar gyflwyno 'Ein Dull', gan gefnogi pobl i dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn. Arweiniodd waith ACC ar ddylunio a darparu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol hefyd, gan hyrwyddo dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. 

Yn weithiwr proffesiynol treth cymwysedig, mae gan Rebecca wybodaeth helaeth o weinyddu treth y DU. Treuliodd dros 10 mlynedd yn gweithio i Gyllid a Thollau EM. Cyn hynny, bu’n dal swyddi yn y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol a Thŷ'r Cwmnïau. 

Wedi'i magu a'i haddysgu yng Nghaerdydd, mae Rebecca wedi treulio'r rhan fwyaf o'i bywyd a'i gyrfa yng Nghymru. Mae'n angerddol am ddatblygu pobl. Mae menywod mewn arweinyddiaeth yn un o nifer o fentrau talent y llywodraeth y mae wedi'u cefnogi.