Neidio i'r prif gynnwy
Melissa Quignon-Finch

Melissa yw Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Dechreuodd Melissa ei gyrfa yn y sector preifat, gan weithio yn y DU a thramor, cyn ymuno â'r Gwasanaeth Sifil yn 2014.

Ymunodd Melissa ag ACC yn 2017 fel Pennaeth AD yn wreiddiol, gan ddod yn Brif Swyddog Pobl, ac yn ddiweddarach, yn Brif Swyddog Pobl a Chyfathrebu - yn 2018.

Mae Melissa yn Gymrawd Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) ac mae ganddi Radd Meistr (MSc) mewn Rheoli Adnoddau Dynol o Brifysgol Aston.