Mary Champion Aelod Anweithredol
Mae Mary Champion wedi gwasanaethu fel Aelod Anweithredol o Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru ers mis Hydref 2020.
Dechreuodd Mary ei gyrfa fel ymgynghorydd rheoli ym maes technoleg. Mae ganddi brofiad eang o ddarparu, sicrwydd, llywodraethiant ac arweinyddiaeth fasnachol a hynny gyda sefydliadau'r llywodraeth a'r sector preifat.
Mae wedi darparu rhaglenni TG strategol ar gyfer ystod o gleientiaid, yn ogystal â rheoli adran TG mewn cwmni teithio byd-eang. Bu'n Is-lywydd yn Capgemini, yn gyfrifol am ddarparu'r holl raglenni technoleg o fewn y sector cyhoeddus, gan weithio gyda chleientiaid ar draws ystod o adrannau yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn ddiweddarach, gweithiodd fel ymgynghorydd llawrydd ar lefel bwrdd, gan roi mewnbwn a chyngor ar ddarparu a llywodraethu. Ac yn fwyaf diweddar sefydlodd ac arweiniodd y swyddogaeth rheoli masnachol ar gyfer gwasanaethau llwyfan Royal London.
Mae Mary wedi ymgymryd â nifer o swyddi cyfarwyddwr anweithredol ar gyfer cyrff y llywodraeth, gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru a Swyddfa Eiddo Deallusol y DU, ac ar hyn o bryd mae'n gyfarwyddwr anweithredol yr High Value Manufacturing Catapult (a sefydlwyd gan Innovate UK i gefnogi arloesi ym maes technoleg). Mae hi hefyd yn ymgynghorydd cysylltiol gyda Campbell Tickell.