Neidio i'r prif gynnwy
Jocelyn Davies

Ym mis Ebrill 2023, penodwyd Jocelyn Davies yn Ddirprwy Gadeirydd, ar ôl bod yn Aelod Anweithredol o Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ers mis Hydref 2017.

Mae gan Jocelyn ran amlwg yng ngwaith nifer o gyrff, gan gynnwys Panel Cynghori Comisiynydd Plant Cymru, gan weithredu fel Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y Comisiynydd. Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae hefyd yn Ymddiriedolwr ac yn Gadeirydd ar Fwrdd Gofal a Thrwsio Cymru. Mae Jocelyn hefyd yn aelod o'r Tasglu Gweinidogol ar gyfer y Cymoedd, yn Llysgennad ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru ac yn un o ymddiriedolwyr Undeb Credyd Plaid Cymru.

Yn ystod ei chyfnod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (1999 i 2016), bu Jocelyn yn aelod o sawl pwyllgor, gan gynnwys y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'i ragflaenydd, y Pwyllgor Archwilio. Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog yn Llywodraeth glymblaid Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a Llafur rhwng 2007 a 2011, gyda chyfrifoldeb dros dai ac adfywio. Yn ddiweddarach bu'n cadeirio Pwyllgor Cyllid y Cynulliad tan 2016.