Neidio i'r prif gynnwy

Mae Jim Scopes wedi gwasanaethu fel Aelod Anweithredol o Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru ers mis Ionawr 2021.

Mae gan Jim dros 30 mlynedd o brofiad o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat fel ymgynghorydd rheoli a gwas sifil.

Mae wedi gweithio ar lefelau uchel yn llywodraeth y DU ar ddatblygu strategaeth, gweithredu polisi, rheoli newid, a rheoli rhaglenni / prosiectau. Roedd Jim yn bartner yn PA Consulting yn gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid yn y sector cyhoeddus gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'i asiantaethau, cyn ail-ymuno â'r gwasanaeth sifil, lle y bu iddo, fel Cyfarwyddwr Strategaeth Cyllid a Thollau EM, sefydlu’r uned strategaeth newydd a datblygu’r strategaeth gorfforaethol gyntaf ar gyfer yr adran newydd.

Yn fwyaf diweddar, mae Jim wedi bod yn gweithio ar Raglen Ynni Morol Llywodraeth Cymru, gan archwilio sut y gellid defnyddio adnoddau llif llanw, amrediad llanw, tonnau a gwynt arnofiol ar y môr i ddarparu sero-net ac adfywiad drwy'r swyddi a’r twf economaidd cysylltiedig. Mae wedi arwain rhaglenni newid sefydliadol, wedi datblygu a darparu dulliau sicrwydd ar gyfer prosiectau a rhaglenni, yn ogystal â dylunio a gweithredu dulliau llywodraethu a mecanweithiau adrodd cysylltiedig.

Mae diddordebau Jim yn cynnwys cerdded, darllen, cerddoriaeth ac ysgrifennu caneuon.