Hysbysiad preifatrwydd y Fenter Twyll Genedlaethol
Sut y byddwn ni yn Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer y Fenter Twyll Genedlaethol.
Cynnwys
Rydym yn cymryd rhan yn y Fenter, ymarfer paru data gyda’r nod o dynnu sylw at achosion posibl o wall a thwyll yn y sector cyhoeddus.
Yng Nghymru, cydlynir y Fenter gan Archwilio Cymru ac yn genedlaethol gan Swyddfa'r Cabinet (y Rheolydd Data).
Sut mae'n gweithio
Mae'r Fenter yn gweithio wrth i sefydliadau roi gwahanol setiau o ddata o wahanol systemau gwybodaeth, mewn meysydd fel:
- cyflogres
- pensiynau
- tai cymdeithasol
- budd-dal tai
- budd-daliadau eraill y wladwriaeth
- dyfarniadau myfyrwyr
- taliadau i gyflenwyr
- eithriadau'r GIG
- cofnod o farwolaeth
Mae'r data a gyflenwir yn cael ei gofnodi ar gronfa ddata ddiogel, wedi'i chynllunio er mwyn paru eitemau data ac adnabod:
- twyll posibl
- gweithgaredd amhriodol
- taliadau anghywir
Data rydym yn eu cyflwyno
Rydym yn cyflwyno setiau data am ein cyflogeion drwy borth TG diogel.
Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Mae'n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith ddiogelu'r arian cyhoeddus yr ydym yn ei weinyddu. Gallwn rannu gwybodaeth a ddarperir gydag eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal a chanfod twyll.
Sail gyfreithlon y GDPR y DU ar gyfer prosesu yw Erthygl 6(1)(e) - mae prosesu’n angenrheidiol er mwyn ymgymryd â thasg a gyflawnir er budd y cyhoedd.
Nodir ein tasg gyhoeddus yn adrannau a12(4) ac a33 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, sy'n disgrifio ein swyddogaethau a chyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu. am arian cyhoeddus.
Rhannu data
Bydd y data a gyflwynwn yn cael ei rannu â Swyddfa'r Cabinet er mwyn i'r data gael ei baru. Mae Swyddfa'r Cabinet yn rhannu'r data yn ôl yr angen er mwyn atal a chanfod twyll, gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Os bydd data a gyflwynir gan un cyfranogwr yn cyfateb i un arall, byddwn yn rhannu gwybodaeth gryno gyda nhw.
Dychwelir y gwaith paru data at gyfranogwyr mewn cyfres o adroddiadau. Adolygir y gwaith paru er mwyn penderfynu a ydynt yn arwyddocaol ac, os felly, yn caniatáu cynnal ymchwiliadau pellach. Mae'r adroddiadau a ddychwelwyd yn cynnwys:
- unigolion sy'n hawlio budd-daliadau mewn mwy nag un awdurdod
- unigolion sydd ar gyflogres a hefyd yn hawlio budd-dal
- unigolion a gofnodir ar fwy nag un gyflogres
- ceiswyr lloches aflwyddiannus neu rai nad oes ganddynt hawl i weithio yn y DU
- taliadau dyblyg i gyflenwyr
Bydd yr adroddiad sy'n tynnu sylw at staff sy’n cael eu cyflogi gan fwy nag un cyfranogwr hefyd yn cael ei ddefnyddio i arddangos ein dyletswydd gofal i gyflogeion, i gadarnhau bod terfynau oriau gwaith yn cael eu cyfyngu i’r hyn a nodir yn y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith.
Cadw data
Pan geir cadarnhad bod y cyflwyniad data i Swyddfa'r Cabinet wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn dinistrio'r data a gasglwyd o'n systemau.
Bydd Swyddfa'r Cabinet yn cadw data yn unol â'u Hamserlen Dileu Data. Mae hon yn cael ei diwygio ar hyn o bryd yn dilyn ymgynghoriad a bydd ar gael, drwy'r ddogfen hon, pan gaiff ei chyhoeddi.
Eich hawliau
Pan fyddwn yn prosesu eich data personol, mae gennych yr hawl i:
- ofyn am wybodaeth am sut mae’n cael ei phrosesu
- gofyn am gopi
- gofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau’n ddi-oed
- gofyn am i unrhyw ddata anghyflawn gael ei gwblhau
- gofyn i'ch data gael ei ddileu os nad oes ei angen arnom mwyach
Weithiau, mae gennych hawl hefyd i ofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol. Er enghraifft, lle cwestiynir y cywirdeb.
Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am sut rydym yn prosesu data personol, cysylltwch â ni:
Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Gallwch hefyd gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynwyr Gwybodaeth (ICO). Yr ICO yw awdurdod goruchwylio'r DU ar gyfer materion diogelu data.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Cymru
Tŷ Churchill
17 Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif ffôn: 029 2067 8400 / 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Atodiad A: Manylebau Data'r Fenter Twyll Genedlaethol
Gofynion y gyflogres
- Dylai'r data a gyflwynir fodloni'r fanyleb ddata hon a chynnwys yr holl enwau meysydd a restrir.
- Dylid cyflwyno data drwy'r cyfleuster Uwchlwytho Ffeiliau Data (DFU) yn unig. Dyma'r unig ddull derbyniol o gyflenwi data erbyn hyn. Os defnyddir dull cyflwyno arall ein polisi yw hysbysu'r Uwch Swyddog Cyfrifol/Cyfarwyddwr Cyllid bod data wedi'i beryglu’n ddiangen.
- Dylid darparu pob cyflogres (er enghraifft, misol, wythnosol a chwarterol, aelodau/cynghorwyr, ysgolion ac athrawon). Fodd bynnag, ni ddylid darparu data mewn perthynas â chyflogresi a brosesir ar gyfer sefydliadau eraill ar sail asiantaeth oni bai:
- bod hyn wedi’i awdurdodi gan y sefydliad; a
- bod y sefydliad wedi cadarnhau bod Hysbysiad Preifatrwydd wedi'i gyhoeddi.
- Sicrhewch fod un ffeil yn cael ei huwchlwytho ar gyfer pob sefydliad, er enghraifft, peidiwch â chyflwyno un ffeil sy'n cynnwys gweithwyr yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân a'r Cyngor Sir.
- Sicrhewch mai dim ond un cofnod sydd ar gyfer pob cyflogai; dylid cyfuno manylion cyflogeion unigol sydd â mwy nag un swydd, er mwyn creu un cofnod. Er enghraifft, ar gyfer cyflogeion sydd â mwy nag un swydd dylid cyfuno 'Tâl gros hyd yma' ac 'Oriau safonol yr wythnos' ar gyfer pob swydd er mwyn rhoi cyfansymiau ar gyfer y 2 faes hynny. Ar gyfer meysydd eraill fel 'Dyddiad dechrau', 'Cod didoli' a 'Chyfrif banc' dylid darparu manylion y brif swydd (yr un sydd â’r cyflog uchaf).
- Dylid cynnwys gweithwyr presennol yn unig.
Enw'r maes | Fformat y data | Nodiadau ategol |
---|---|---|
Cyfeirnod y cyflogai | Nod | |
Rhif swydd y cyflogai | Nod | Gadewch yn wag os nad yw'n berthnasol. |
Adran | Nod | Nodwch yr Adran lle mae'r cyflogai’n gweithio, er enghraifft, Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg. Os yw'r maes hwn yn cynnwys cod, darparwch dabl am-edrych. |
Teitl | Nod | |
Rhyw | Nod | |
Cyfenw | Nod | |
Rhagenw(au) | Nod | Sicrhewch eich bod yn cofnodi unrhyw enw(au) canol neu lythyren gyntaf/llythrennau cyntaf enw(au) canol. Gallwch nodi’r rhain mewn maes Enw(au) canol neu lythyren gyntaf/llythrennau enw(au) cyntaf ar wahân neu yn y gell 'Enw(au) cyntaf' os yw'n well gennych. |
Enw(au) canol neu lythyren gyntaf/llythrennau cyntaf enw(au) canol |
Nod | |
Llinell cyfeiriad 1 | Nod | |
Llinell cyfeiriad 2 | Nod | |
Llinell cyfeiriad 3 | Nod | |
Llinell cyfeiriad 4 | Nod | |
Cod post | Nod | |
Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) | Nod | Dylai'r maes newydd hwn wella'r broses paru cyfeiriadau’n sylweddol. |
Dyddiad geni | Dyddiad | |
Rhif ffôn cartref | Nod | |
Rhif ffôn symudol | Nod | |
Cyfeiriad e-bost | Nod | |
Rhif pasbort | Nod | |
Dyddiad dechrau | Dyddiad | |
Dyddiad gadael | Dyddiad | Wedi'i gynnwys fel gwiriad annibynnol sy’n cynnwys gweithwyr presennol yn unig. |
Dangosydd ymadawr | Nod | Wedi'i gynnwys fel gwiriad annibynnol sy’n cynnwys gweithwyr presennol yn unig. |
Rhif Yswiriant Gwladol | Nod | |
Baner amser llawn/rhan-amser | Nod | Rhowch 'F' am amser llawn (a gyflogir am 30 awr neu fwy yr wythnos), 'P' am ran-amser (llai na 30 awr yr wythnos) neu 'C' ar gyfer Gweithwyr Achlysurol/yn ôl y galw. |
Cyflog gros hyd yma | Rhifol | Dylai hyn nodi’r tâl gros hyd yma NID y cyflog trethadwy hyd yma ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/2019 hyd at ddyddiad casglu’r data. Peidiwch â chyflwyno cofnod os mai sero yw'r maes hwn. |
Oriau safonol yr wythnos | Rhifol | Er enghraifft, 16 awr fel 1600. |
Dyddiad talu diwethaf | Dyddiad | |
Baner athro | Nod | Rhowch 'T' ar gyfer athro. |
Cod didoli | Nod | 6 nod rhifol mewn grwpiau o 2 y gellir eu gwahanu â chysylltnodau, er enghraifft, 20-45-23. |
Cyfrif banc | Nod | 8 nod rhifol fel arfer. |
Rhif cofrestru’r gymdeithas adeiladu | Nod | Mae gan gymdeithasau adeiladu rifau cofrestru lle dosberthir taliadau iddynt ar ôl iddynt gael eu talu i mewn i un cyfrif. |