Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn trin data personol rydych chi’n eu darparu i ni at ddibenion monitro trafodion, yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Er mwyn diogelu eich data a'n gwasanaethau, rydym yn gweithredu galluoedd monitro trafodion. Mae hyn yn cofnodi sut rydych chi'n cysylltu â'n systemau, a beth rydych chi'n ei wneud tra'ch bod chi'n gwneud hynny.

Dim ond pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n gwasanaethau y byddwn yn eich monitro.

Dylech ddarllen ein polisi preifatrwydd ochr â'r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Pam rydym yn prosesu eich data

Mae ACC yn prosesu eich data at ddibenion monitro trafodion er mwyn:

  • cadw eich data’n ddiogel ac yn breifat
  • gwarchod eich data rhag pobl sydd am ei ddefnyddio at ddibenion twyllodrus a throseddol
  • atal twyll
  • atal, canfod, ymchwilio ac erlyn gweithgarwch sifil a throseddol

Data a gesglir gennym a phryd

Mae monitro trafodion yn cofnodi gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n gwasanaethau.

Rydym yn casglu data personol am:

  • y cyfrifiaduron, y ffonau neu'r dyfeisiau rydych chi'n eu defnyddio
  • y cysylltiadau rhyngrwyd rydych chi’n eu defnyddio
  • yr hyn rydych chi’n ei wneud pan fyddwch ar ein gwasanaethau
  • yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym

Gall monitro trafodion gasglu eich data hyd yn oed os nad ydych yn defnyddio ein systemau’n uniongyrchol. Er enghraifft, pan fydd asiant neu gynrychiolydd treth awdurdodedig yn cysylltu â ni ar eich rhan.

Sut rydym yn prosesu eich data

Pan fyddwch chi'n mewngofnodi i un o'n gwasanaethau, rydym yn creu dynodwyr unigryw yn y porwr, y rhaglen neu'r ddyfais rydych chi'n ei defnyddio. Rydym hefyd yn rhoi cwci monitro trafodion i chi ac yn ei ddefnyddio er mwyn helpu i’ch adnabod a'ch cysylltu chi â'ch cyfrif.

Mae'r wybodaeth a gesglir gennym yn cynnwys:

  • dynodwyr unigryw
  • math o borwr a gosodiadau
  • math o ddyfais
  • system weithredu
  • rhif fersiwn y rhaglen

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am ryngweithiad eich rhaglenni, eich meddalwedd, eich porwyr a’ch dyfeisiau gyda'n gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys:

  • eich cyfeiriad IP
  • dyddiad ac amser
  • URL cyfeiriwr eich cais

Rydym yn casglu gwybodaeth am yr hyn rydych chi’n ei wneud yn ein gwasanaethau, megis:

  • y tudalennau rydych chi’n eu cyrchu
  • yr wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni

Byddwn hefyd yn casglu data amdanoch chi gan bartneriaid diogelwch dibynadwy sy'n rhoi gwybodaeth i ni er mwyn diogelu rhag camddefnydd.

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn helpu i wella diogelwch ein gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys canfod, atal ac ymateb i:

  • dwyll
  • camddefnydd
  • risgiau diogelwch
  • materion technegol a allai niweidio ACC neu ein cwsmeriaid

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data

Rydym yn casglu ac yn prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni ein swyddogaeth swyddogol fel adran o'r llywodraeth. Hefyd, i wneud hynny er budd y cyhoedd, er mwyn atal a chanfod trosedd a thwyll.

Gan y caniateir i ACC gyflawni gwaith monitro trafodion heb eich caniatâd o dan Erthygl 6(1)(e) Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), ni allwch dynnu eich caniatâd yn ôl.

Pryd y byddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd partïon

Mewn rhai amgylchiadau a lle mae'r gyfraith yn caniatáu hynny, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda thrydydd partïon.

Pan fyddwn yn canfod troseddau, byddwn yn rhannu gwybodaeth ag:

  • asiantaethau eraill sy'n gorfodi'r gyfraith
  • adrannau’r llywodraeth
  • asiantaethau gwirio credyd
  • grwpiau gwrth-dwyll

Am ba hyd yr ydym yn cadw eich data

Rydym yn cadw cofnodion monitro trafodion am 7 mlynedd, yn unol â'n Hamserlen Cadw a Gwaredu.

Pan fyddwch chi wedi bod â chyfrif yn hirach na'r cyfnod cadw safonol, byddwn yn cadw rhywfaint o wybodaeth am eich cyfrif sy'n hŷn ond sy’n dal i fod yn gyfredol.

Eich hawliau

Mae'r GDPR y DU yn rhestru hawliau penodol sy'n berthnasol i chi pan gaiff eich data personol ei storio a'i ddefnyddio fel y disgrifiwyd. Mae'r hawliau hyn yn ymwneud â'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data a'r dibenion y defnyddir y data ar eu cyfer.

I’r diben hwn, cyfyngir eich hawliau i'r hawl i gael eich hysbysu, a gwmpesir yn yr hysbysiad hwn. Gall hawliau eraill fod yn berthnasol mewn rhai amgylchiadau.

Manylion cyswllt

Ar gyfer unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn neu eich hawliau, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu data.

Swyddog Diogelu Data

Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Ar 3 Ebrill 2023, newidiodd ein cyfeiriad post i: Awdurdod Cyllid Cymru, Blwch Postio 108, Merthyr Tudful, CF47 7DL.

Rydym yn argymell defnyddio ein ffurflen gyswllt ar-lein i anfon gohebiaeth atom ni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu gwynion am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, gallwch gysylltu â ni. Gallwch hefyd gysylltu'n uniongyrchol â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Cymru

Tŷ Churchill
17 Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn: 029 2067 8400 / 0303 123 1113

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydym yn adolygu ein hysbysiadau preifatrwydd yn rheolaidd.

Os byddwn yn gwneud newidiadau i'r hysbysiad hwn, byddwn yn diwygio'r dyddiad ar ben y dudalen hon.