Neidio i'r prif gynnwy

Sut yr ydym yn rheoli eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn delio â ni yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ynglŷn â threthi Cymreig.

Mae'r hysbysiad hwn yn eich hysbysu fel unigolyn neu sefydliad am ddata personol yr ydym yn ei gasglu, ei ddefnyddio, ei rannu neu ei brosesu pan fyddwch yn delio â ni.

Efallai y byddwch yn rhoi eich data a’ch gwybodaeth bersonol i ni pan fyddwch yn:

  • talu trethi datganoledig Cymreig
  • yn ymwneud â thrafodiad lle mae rhywun yn talu treth Gymreig (er enghraifft, prynu eiddo sy’n destun Treth Trafodiadau Tir)
  • cysylltu â ni ynglŷn â’n canllawiau a'n gwasanaethau

Trethi Datganoledig yw’r rhai lle mae'r rheolau treth yn cael eu gosod yng Nghymru, ac mae'r dreth a gesglir yn ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae ACC yn casglu 2 dreth ddatganoledig yng Nghymru, sef: 

  • Treth Trafodiadau Tir 
  • Treth Gwarediadau Tirlenwi 

Rydym yn cael gwybodaeth gennych pan fyddwn yn casglu trethi. Mae hyn yn aml yn cynnwys eich gwybodaeth bersonol. Gall y wybodaeth honno ddod yn uniongyrchol oddi

Mae fersiwn gryno o'r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gael hefyd.
Dylai asiantau ddarparu copi o'r hysbysiad hwn i gleientiaid sy'n talu treth ddatganoledig er mwyn iddynt wybod pa wybodaeth bersonol sy'n cael ei chasglu a'i defnyddio.

Rheolydd data

Ni fydd y rheolydd data ar gyfer eich data personol a gesglir fel rhan o'r 2 dreth rydym yn eu rheoli.

Mae rheolydd data yn rhywun sydd, yn unigol neu ar y cyd ag eraill, yn penderfynu beth a sut y defnyddir eich data personol.

Os yw sefydliadau eraill yn rhoi gwybodaeth i ni amdanoch chi, ac rydym yn ei ychwanegu at wybodaeth sydd gennym amdanoch chi eisoes, ni yw'r rheolydd data ar gyfer hyn hefyd.

Gwybodaeth bersonol a gesglir gennym

Mae'r data personol rydym yn ei gasglu, ei storio, a'i ddefnyddio pan fyddwch yn delio â ni, yn cynnwys eich:

  • teitl a’ch enw llawn
  • cyfeiriadau cyfredol a blaenorol
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn
  • dulliau o adnabod, er enghraifft, rhif Yswiriant Gwladol, rhif pasbort, rhif trwydded yrru
  • gwybodaeth sy'n ymwneud â thrafodiadau treth, gan gynnwys unrhyw:
    • gyfeiriadau
    • symiau dan sylw

Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am unrhyw fusnes dan sylw, gan gynnwys:

  • enw’r cwmni neu enw masnachu
  • manylion cyswllt
  • cyfeiriadau
  • rhif y cwmni, os yn berthnasol
  • rhif cofrestru TAW, os yn berthnasol

Efallai y byddwn hefyd yn casglu rhagor o ddata personol i’n cynorthwyo gydag ad-daliadau, ymholiadau ac ymchwiliadau.

Sut yr ydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd canlynol i gefnogi'r trethi Cymreig rydym yn eu casglu a'u rheoli.

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth treth

Byddwn yn defnyddio eich data er mwyn:

  • asesu'r risg o osgoi talu treth, camgymeriadau a thwyll mewn ffurflenni a thaliadau treth
  • gwneud penderfyniadau seiliedig ar risg drwy brosesu awtomataidd a allai arwain at ymchwiliad pellach
  • lleihau osgoi talu trethi, camgymeriadau a thwyll drwy gasglu dyledion a chyhoeddi cosbau
  • cymryd unrhyw gamau cyfreithlon er mwyn cydymffurfio â threth
  • anfon diweddariadau gweithredol at asiantau

Er mwyn gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus

Mewn rhai achosion, lle mae'r gyfraith yn caniatáu hynny, byddwn yn rhannu ac yn cysylltu data amdanoch chi neu eich asiant gyda:

  • asiantaethau gorfodi'r gyfraith
  • adrannau eraill y llywodraeth, gan gynnwys:
    • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM)
    • Revenue Scotland
    • Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi
    • Llywodraeth Cymru
  • awdurdodau lleol
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Byddwn yn sicrhau nad yw gwybodaeth amdanoch chi na'ch asiant yn cael ei rhannu y tu allan i ACC, oni bai bod:

  • rheswm cyfreithlon dros wneud hynny
  • y prosesu'n deg ac yn angenrheidiol

Yn gyffredinol, nid yw data a rennir gyda ni, megis o adrannau eraill y llywodraeth, ar gael i bawb. Weithiau gall data nad yw'n ddata personol fod ar gael, er enghraifft, gwybodaeth am eiddo a ddarperir gan Gofrestrfa Tir EM.

Ar gyfer ein dadansoddi a'n hymchwil

Byddwn yn defnyddio data i'n helpu i ddeall trethi Cymru’n well a gwella ein gwasanaethau, fel darparu arweiniad a chyfathrebu yn y ffordd a ofynnwyd gennych chi.

Rydym hefyd yn dadansoddi data ac yn cyhoeddi ystadegau ar ein gwefan. Byddwn yn sicrhau na ellir eich adnabod chi na'ch asiant mewn dadansoddiadau neu adroddiadau ymchwil a gyhoeddir gennym.

Gall y cyhoedd ddefnyddio'r wybodaeth y gallwn ei chyhoeddi ar gyfer eu dibenion hwy drwy Drwydded Llywodraeth Agored.

Defnydd cyfreithlon o'ch data

Byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol pan fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny ac yn fwyaf cyffredin o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • oherwydd ein swyddogaeth statudol
  • pan fo angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
  • lle y gallwn fod wedi’n rhwymo i gadw data am resymau cydymffurfio
  • lle mae gennym eich caniatâd gwybodus

Mae pwerau penodol o fewn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn berthnasol yn yr achosion hyn, o dan:

Ein sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth bersonol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) fel arfer yw Erthygl 6(1)(e) - tasg gyhoeddus, ac Erthygl 6(1)(a), lle rydym yn gofyn am eich caniatâd.

Mae hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i gasglu a rheoli trethi datganoledig a sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth.

Weithiau bydd angen i ni brosesu categorïau arbennig o ddata personol. Efallai y bydd angen i ni wneud hyn er mwyn darparu cymorth ychwanegol i chi neu er mwyn storio dewisiadau cyfathrebu a allai ddatgelu rhywbeth am eich iechyd, hyd yn oed os nad ydych chi wedi dweud wrthym eich hun. Byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd i gadw'r data hwn.

Mae'r holl ddata sydd gennym yn amodol ar:

  • Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
  • Deddf Diogelu Data 1998
  • unrhyw gyfraith ddomestig a chyfraith yr UE sy'n berthnasol

Rhannu eich data

Fel y rheolydd data, efallai y byddwn yn penderfynu rhannu eich data ag eraill fel y disgrifiwyd, gan gynnwys:

  • asiantaethau nad ydynt yn asiantaethau'r llywodraeth
  • ymchwilwyr at ddibenion ystadegol neu ymchwil

Ym mhob achos, bydd datgeliadau'n cael eu cymeradwyo a'u rheoli gan gytundeb cyrchu data priodol mewn modd:

  • a fydd yn cyfyngu'r defnydd o'ch data i'r diben penodol a nodwyd
  • na fydd yn gwneud yn bosibl eich adnabod mewn unrhyw adroddiadau cyhoeddedig
  • a fydd yn caniatáu i'ch data gael ei storio ar gyfer hyd yr ymchwil yn unig a'i ddinistrio wedyn
  • a fydd yn mynnu bod eich data’n cael ei drin a'i brosesu a'i ddinistrio'n ddiogel

Lle bynnag y bo'n bosibl byddwn yn dileu unrhyw wybodaeth amdanoch chi neu eich asiant. Byddwn ond yn trosglwyddo eich data i eraill lle mae'r gyfraith yn caniatáu hynny a lle na fyddai'r ymchwil yn bosibl hebddo.

Am ba hyd y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Byddwn yn cadw eich data gyhyd ag y bydd angen i ni gyflawni ein dyletswydd.

Efallai y bydd angen i ni gadw data am fwy na 25 mlynedd er mwyn gwirio osgoi, twyll neu wall mewn trafodiadau a wneir gan yr un person flynyddoedd ar wahân.

Gellir cadw gwybodaeth nad yw'n adnabyddadwy a ddefnyddir mewn dadansoddiad neu ymchwil gyhyd ag y bo'n ddefnyddiol.

Diogelu eich gwybodaeth

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi neu'ch asiant yn cael ei chasglu, ei storio a'i throsglwyddo'n ddiogel.

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gydag eraill pan fo’n:

  • gyfreithlon gwneud hynny
  • angenrheidiol ar gyfer diben penodedig

Eich hawliau

Mae'r GDPR y DU yn rhestru hawliau penodol sydd gennych yn ymwneud â'ch data.

Mae'r hawliau hyn yn ymwneud â'r sail gyfreithlon ar gyfer casglu a defnyddio eich data. Ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddiau a wneir o'ch data, mae gennych yr hawl i gael gwybod (mae'r hysbysiad hwn yn ymdrin â’r rhain).

Data amdanoch chi a rhoddir i ni’n uniongyrchol ar gyfer casglu a rheoli trethi, ac er mwyn cydymffurfio â chyfraith treth

Bydd hyn yn cynnwys y cyngor a'r arweiniad rydym yn ei darparu mewn perthynas â'n trethi.

Mae gennych hawl i:

  • gael gwybod (yr hysbysiad hwn - gall hyn gael ei gyfyngu mewn amgylchiadau penodol)
  • cael gafael ar eich gwybodaeth (gall hyn gael ei gyfyngu mewn amgylchiadau penodol)
  • cael cywiro gwallau (gall hyn gael ei gyfyngu mewn amgylchiadau penodol)

Gweler y canlynol am sut mae hawliau eraill yn berthnasol mewn rhai amgylchiadau.

Data amdanoch chi gan sefydliadau eraill a rennir er mwyn cydymffurfio â chyfraith treth neu asesu'r risg o dwyll neu wall, gan gynnwys proffilio awtomatig

Yn yr achos hwn, mae gennych hawl i:

  • gael gwybod (yr hysbysiad hwn - gall hyn gael ei gyfyngu mewn amgylchiadau penodol)
  • cywiro unrhyw wallau yn eich gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau ac os oes gennych chi resymau dilys dros ofyn i ni, mae gennych hawl i:

  • wrthwynebu i’ch gwybodaeth gael ei defnyddio
  • cyfyngu ar ein defnydd o’ch gwybodaeth tra’r ydym yn eich gwrthwynebiad

Data amdanoch chi a rennir ar gyfer dadansoddi neu ymchwil

Mae gennych hawl i gael gwybod (yr hysbysiad hwn).

Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dileu unrhyw wybodaeth sy'n ei gwneud yn bosibl eich adnabod o ddata a ddefnyddir ar gyfer dadansoddi neu ymchwil. Byddwn ond yn trosglwyddo eich data adnabyddadwy i eraill lle mae'r gyfraith yn caniatáu hynny, a lle na fyddai'r ymchwil yn bosibl hebddo.

Data amdanoch chi nad yw'n ymwneud â gweithgareddau treth (megis adborth, cwynion neu gadw dewisiadau)

Mae gennych hawl i:

  • gael gwybod (yr hysbysiad hwn)
  • cael gafael ar eich gwybodaeth
  • cywiro unrhyw wallau yn eich gwybodaeth
  • cael dileu eich gwybodaeth oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith
  • cyfyngu ar y defnydd o’ch gwybodaeth
  • cael gwybod am gywiriad, dilead neu gyfyngiad a wnaed i'ch gwybodaeth
  • derbyn eich gwybodaeth mewn fformat sy'n addas i'w drosglwyddo i gorff arall
  • peidio â bod yn destun penderfyniad sy'n seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, oni bai eich bod yn rhoi caniatâd penodol ar gyfer hynny

Gweler hysbysiad preifatrwydd ar wahân ynglŷn â data rydym yn ei reoli pan fyddwch yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â ni.

Manylion cyswllt

Ar gyfer unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn neu eich hawliau, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu data.

Swyddog Diogelu Data

Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Ar 3 Ebrill 2023, newidiodd ein cyfeiriad post i: Awdurdod Cyllid Cymru, Blwch Postio 108, Merthyr Tudful, CF47 7DL.

Rydym yn argymell defnyddio ein ffurflen gyswllt ar-lein i anfon gohebiaeth atom ni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.

Anfonwch gwynion i'r cyswllt hwn yn y lle cyntaf. Gallwch hefyd gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Yr ICO yw awdurdod goruchwylio'r DU ar gyfer materion diogelu data.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth Cymru

Tŷ Churchill
17 Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif ffôn: 029 2067 8400 / 0303 123 1113

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Bydd unrhyw newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael eu diweddaru ar y dudalen hon, er enghraifft, unrhyw ddefnydd newydd o ddata personol.

O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi drwy ddulliau eraill ynglŷn â phrosesu eich data personol.