Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer lluniau, fideos a sain
Sut rydym yn rheoli lluniau, fideos a recordiadau sain a dynnir neu a dderbynnir gan Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer cyhoeddiadau.
Cynnwys
Mae'r hysbysiad hwn yn rhoi gwybod i chi sut y byddwn yn defnyddio lluniau, fideos neu sain, a dderbyniwn fel rheolydd data, at y dibenion canlynol.
Sut rydym yn defnyddio eich data
Rydym yn defnyddio eich data personol i ddarparu gwybodaeth am ein gweithgareddau a’n hymchwil a’u hyrwyddo ar gyfer:
- cyhoeddiadau
- cyflwyniadau
- arddangosfeydd
- arddangosiadau
- y cyfryngau cymdeithasol
- gwefannau
Cyflawnir y dibenion hyn gyda’ch caniatâd clir (ffurflen rhyddhau enghreifftiol) i brosesu eich data clywedol neu weledol personol at ddiben penodol.
Diogelu eich gwybodaeth
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch yn cael ei chasglu, ei storio a’i throsglwyddo’n ddiogel.
Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gydag eraill pan fo’n:
- gyfreithlon gwneud hynny
- angenrheidiol ar gyfer diben penodedig
Faint o amser byddwn yn cadw eich data
Byddwn yn cadw eich data at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad hwn.
Bydd y lluniau, y fideos a'r sain sydd gennym yn cael eu hadolygu bob 3 blynedd a bydd unrhyw ddeunydd nad yw bellach yn addas i'w ddefnyddio yn cael ei ddileu a'i ddinistrio.
Eich hawliau
Mae GDPR y DU yn rhestru hawliau penodol sy'n berthnasol i chi pan gaiff eich data personol ei storio a'i ddefnyddio fel y soniwyd uchod.
Mae gennych hawl i:
- gyrchu'r data personol rydyn ni'n ei brosesu amdanoch chi
- gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- i wrthwynebu prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- i'ch data gael ei ‘ddileu’
- cwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Cyswllt
Ar gyfer unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn neu eich hawliau, gan gynnwys tynnu’r caniatâd a roddwyd gennych yn ôl, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data.
Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Dylid anfon cwynion hefyd at y cyswllt hwn yn y lle cyntaf. Gallwch hefyd gwyno'n uniongyrchol wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Yr ICO yw awdurdod goruchwylio'r DU ar gyfer materion diogelu data.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Tŷ Churchill
17 Heol Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Rhif ffôn: 029 2067 8400 / 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Bydd unrhyw newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael eu diweddaru ar y dudalen hon; er enghraifft, unrhyw ddefnydd newydd o ddata personol.
O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi drwy ddulliau eraill ynglŷn â phrosesu eich data personol.