Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ein digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu.

Gweminarau

Gweminarau Treth Trafodiadau Tir (TTT)

Rydyn ni'n cynnal gweminarau treth rhad ac am ddim sy'n trafod agweddau ar TTT y mae cyfreithwyr a thrawsgludwyr wedi gofyn am ragor o hyfforddiant arnyn nhw.

Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer:

  • pobl sy'n ffeilio ffurflenni treth TTT neu’n talu TTT gydag ACC
  • cyfreithwyr
  • trawsgludwyr

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cynnal gweminarau treth rhad ac am ddim sy'n trafod agweddau ar TTT y mae cyfreithwyr a thrawsgludwyr wedi gofyn am ragor o hyfforddiant arnyn nhw.

Bydd y gweminarau yn canolbwyntio ar: 

  • eiddo adfeiliedig 
  • cydnabyddiaeth drethadwy: 
  • gweinyddu treth

Gallwch hefyd gwrdd a sgwrsio ag arbenigwyr technegol o ACC a rhoi adborth am ein gwasanaethau. 

Sut i archebu lle

Gallwch archebu eich lle ar wefan digwyddiadau Busnes Cymru.

Themâu a dyddiadau'r gweminarau

Fforymau Treth Trafodiadau Tir

Rydym yn cynnal fforymau treth ledled Cymru. Mae'r fforymau hyn ar gyfer cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy'n ffeilio ac sy’n talu’r Dreth Trafodiadau Tir ac sy'n defnyddio ein gwasanaethau'n rheolaidd.

I gael gwybod unwaith y bydd y cyfnod archebu ar agor cysylltwch â: dweudeichdweud@acc.llyw.cymru

Fideos

Mae gennym fideos hyfforddi newydd ar gyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir.

Gwelwch y rhestr chwarae ar gyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir

Rhowch adborth i ni ar y fideos yma (mae’n cymryd 30 eiliad)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyfraddau uwch, gallwch gysylltu â ni.