Neidio i'r prif gynnwy

Yn Awdurdod Cyllid Cymru(ACC), rydym yn rheoli 2 dreth ddatganoledig a gynlluniwyd ac a grëwyd ar gyfer Cymru er mwyn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Ein rolau

Rydym yn sefydliad bach ac aml-sgiliau o dros 80 o staff. Mae ein doniau, ein sgiliau a'n profiad yn rhychwantu 14 o wahanol broffesiynau, gan gynnwys:

  • cyfathrebu
  • digidol a data
  • cyllid
  • adnoddau dynol
  • cyfreithiol
  • cyflawni gweithredol
  • polisi
  • treth

Mae ein swyddi'n cael eu hysbysebu ar wefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil.

Sut i wneud cais am ein rolau.

I gael gwybod mwy am ein gwaith, ewch i’n cynllun corfforaethol diweddaraf.

Beth rydym yn ei gynnig

Tâl

Mae ein cyflogau'n adlewyrchu'r sgiliau a'r wybodaeth gynyddol y byddwch yn eu datblygu gyda ni, gan ganiatáu i chi gyrraedd brig eich band cyflog o fewn 3 i 4 blynedd.

O 1 Ebrill 2023 (gan gynnwys y dyfarniad costau byw)
Gradd Isafswm cyflog Uchafswm cyflog
Cymorth Tîm £23,258 £26,901
Swyddog Gweithredol (SG) £28,245 £32,141
Swyddog Gweithredol Uwch (SGU) £34,083 £41,675
Uwch Swyddog Gweithredol (USG) £43,785 £51,839
Gradd 7 £56,112 £67,095
Gradd 6 £70,455 £80,840

Mae bandiau cyflog yr Uwch Wasanaeth Sifil yn cael eu pennu'n ganolog gan Swyddfa'r Cabinet.

Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Cyflog Byw.

Ein Buddion

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • 31 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â 2 ddiwrnod braint
  • oriau hyblyg
  • 1 awr yr wythnos ar gyfer gweithgareddau llesiant
  • cyfnod absenoldeb rhiant hael
  • dewis o gynlluniau pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • cynllun beicio i'r gwaith a benthyciadau tocyn tymor
  • blaensymiau cyflog
  • amser i ddysgu Cymraeg gyda chyrsiau iaith wedi'u hariannu
  • diwylliant ymgysylltiol, cydweithredol – gweler ganlyniadau ein Harolwg Pobl

Amodau

Rydym yn adran anweinidogol y llywodraeth sy'n cael ei staffio gan weision sifil. Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth bersonol am drethdalwyr yn cael ei thrin yn briodol. Mae'n ofynnol i holl staff ACC lofnodi datganiad cyfrinachedd.

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus basio gwiriadau diogelwch sylfaenol.

Mae angen lefelau uwch o gliriad diogelwch ar gyfer rhai rolau; byddwn yn nodi hyn yn ein swydd ddisgrifiadau.

Gofynion cenedligrwydd

Mae ein rolau'n agored i:

  • Gwladolion y DU
  • gwladolion gwledydd y Gymanwlad
  • gwladolion Gweriniaeth Iwerddon
  • gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) sydd â statws (neu sy'n gymwys i gael statws) dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS)
  • gwladolion perthnasol o’r AEE neu Dwrci sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Sifil
  • gwladolion perthnasol o’r AEE neu Dwrci sydd wedi ennill yr hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil
  • rhai aelodau o deulu gwladolion perthnasol o’r UE a Thwrci

Bydd ymgeiswyr yn destun gofynion Mewnfudo’r DU. Yn ogystal â Rheolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynghylch a ydych chi’n gallu gwneud cais.

Os ydych yn gwneud cais am rôl sydd angen cliriad diogelwch, dylech fod yn ymwybodol nad yw cenedligrwydd tramor neu ddeuol yn rhwystr awtomatig.

Efallai y bydd gan nifer fach o swyddi gyfyngiadau a allai effeithio ar y rhai naill ai:

  • nad oes ganddynt genedligrwydd Prydeinig yn unig
  • sydd â chysylltiadau personol â rhai gwledydd y tu allan i'r DU

Byddwn yn nodi hyn yn ein swydd ddisgrifiadau os yw'n berthnasol.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym yn croesawu’n arbennig ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli yn ein gweithlu, gan gynnwys:

  • pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig
  • pobl anabl

Cyflogwr cyfle cyfartal

Mae hyn yn golygu y dylai pawb gael yr un cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a dyrchafiad gyda ni ar sail eu:

  • gallu
  • cymwysterau
  • addasrwydd ar gyfer y swydd

Ni ddylai unrhyw un gael triniaeth lai ffafriol oherwydd eu:

  • hil
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • oedran
  • hunaniaeth o ran rhywedd
  • priodas neu bartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • anabledd
  • crefydd neu gred
  • cyfrifoldebau teuluol neu ddomestig
  • patrymau gweithio, megis rhan-amser

Ac ni ddylai unrhyw un fod o dan anfantais ychwaith oherwydd amodau neu ofynion eraill, na ellir dangos bod cyfiawnhad drostynt.

Cyflogwr hyderus o ran anabledd

Mae ACC yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd - 'Arweinydd' Lefel 3. Rydym wedi ymrwymo i ddeall y technegau, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnom er mwyn recriwtio, cadw a datblygu pobl sydd ag:

  • anabledd
  • cyflyrau iechyd hirdymor

Dim goddefgarwch tuag at hiliaeth

Mae ACC wedi ymrwymo i bolisi dim goddefgarwch Dim Hiliaeth Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo gweithle a chymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal, lle mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.

Rydym yn croesawu ehangder ac amrywiaeth o ran traddodiad, cred a diwylliant. Byddwn yn gweithio i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal waeth beth fo'u hil, yn ein cyflogaeth a'n darpariaeth gwasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau o ran cydraddoldeb, gweler ein hadroddiad cydraddoldeb strategol ac amcanion blynyddol.

Cwynion

Mae'r gyfraith yn mynnu bod dethol ar gyfer penodi i'r Gwasanaeth Sifil yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Gweler egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil lle nodir hyn.

Os ydych yn teimlo nad yw eich cais wedi cael ei drin yn unol â'r egwyddorion recriwtio, a'ch bod yn dymuno cwyno, cysylltwch â'r Pennaeth Adnoddau Dynol.

E-bost: ad@acc.llyw.cymru

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb, gallwch gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil.