Neidio i'r prif gynnwy
Dyfed Alsop

Dyfed Alsop yw Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Dechreuodd Dyfed ei yrfa yn y sector preifat yn gweithio i HSBC yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn Sbaen, yr Ariannin a Brasil.

Ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil ychydig dros 20 mlynedd yn ôl i weithio mewn rolau dadansoddi economaidd a chyngori polisi yn Nhrysorlys EF a Chyllid a Thollau EF. Bu i Dyfed ymuno â Bwrdd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn 2009 yn arwain ar faes Adnoddau Dynol, Polisi a Strategaeth, yn ogystal â chynnal nifer o raglenni newid a diwygio mawr.

Yn 2016, daeth Dyfed yn ôl i fyw yng Nghymru ac ymunodd â Llywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr Rhaglen Weithredu. Mae Dyfed wedi bod yn Brif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru ers 2017.