Dirprwyo pwerau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i’r Corff Cyfoeth Naturiol ar gyfer Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni rhywfaint o waith y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar ran Awdurdod Cyllid Cymru.
1. Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn dirprwyo'r swyddogaethau hyn drwy arfer ei bwerau dan adran 14(1) Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (DCRhT) a rheoliad 3 o Reoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017 - mae rheoliad 3 yn nodi bod Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn unigolyn y gall ACC ddirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau iddo mewn perthynas â'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi o dan adran 14(1) DCRhT.
2. O 25 Ionawr 2018 ymlaen, bydd ACC yn dirprwyo ei swyddogaethau i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru o dan y darpariaethau yn y DCRhT a restrir isod, i'r graddau y maent yn berthnasol i'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Adran 2, Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017):
- Adran 12 (Prif swyddogaethau)
- Adran 86 (Hysbysiadau trethdalwr)
- Adran 87 ( Hysbysiadau trydydd parti)
- Adran 88 (Cymeradwyaeth y tribiwnlys i hysbysiadau trethdalwr a hysbysiadau trydydd parti)
- Adran 89 (Pŵer i wneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol am bersonau na wyddys pwy ydynt)
- Adran 92 (Pŵer i gael gwybodaeth er mwyn gallu cadarnhau pwy yw person)
- Adran 96 (Cyflwyno copïau o ddogfennau)
- Adran 103 (Pŵer i archwilio mangre busnes)
- Adran 103A (Pŵer pellach i archwilio mangre busnes: treth gwarediadau tirlenwi)
- Adran 103B (Pŵer pellach i archwilio mangre: gwarediadau trethadwy a wneir yn rhywle ac eithrio safleoedd tirlenwi awdurdodedig)
- Adran 104 (Cynnal archwiliadau o dan adran 103, 103A neu 103B: darpariaeth bellach)
- Adran 105 (Cynnal archwiliadau o dan adran 103, 103A neu 103B: defnyddio offer a deunyddiau)
- Adran 108 (Cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangre)
- Adran 112 (Pŵer i gopïo dogfennau a mynd â dogfennau ymaith), ac
- Adran 113 (Darpariaeth bellach ynghylch cofnodion).