Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad hwn yn disgrifio Gorchwyl Cyhoeddus ACC at ddibenion Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015 (y Rheoliadau Ailddefnyddio).

Mae ailddefnyddio yn golygu defnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus at ddiben heblaw'r diben gwreiddiol y cafodd ei chreu, cadw, casglu a rhannu ar ei gyfer.

Nid oes unrhyw ddatganiadau pendant ar yr hyn a olygir wrth y term 'tasg gyhoeddus' o dan y 'Rheoliadau Ailddefnyddio'. Yn ymarferol, mae'n cynnwys gwybodaeth y mae'n rhaid i gorff sector cyhoeddus ei chreu, ei chasglu neu ei darparu er mwyn cyflawni ei rôl graidd a'i swyddogaethau.

Cefndir

Mae ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru.

ACC yw'r corff casglu a rheoli ar gyfer y:

Tasg gyhoeddus

Mae ACC yn arfer ei swyddogaethau, sef ei bwerau a’i ddyletswyddau, fel y nodir yn:

  • neddfwriaeth sylfaenol y trethi datganoledig
  • Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Y ddeddfwriaeth sylfaenol ar drethi datganoledig yw’r:

  • Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (DCRhT) sy’n sefydlu ACC
  • Deddf Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017
  • Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Prif swyddogaeth ACC fel y nodir yn adran 12 o DCRhT yw casglu a rheoli trethi datganoledig (swyddogaeth gyffredinol ACC).

Mae gan ACC hefyd y swyddogaethau penodol canlynol hefyd:

  • darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â threthi datganoledig i Weinidogion Cymru
  • darparu gwybodaeth a chymorth yn ymwneud â threthi datganoledig i:
    • drethdalwyr datganoledig
    • eu hasiantau
    • personau eraill
  • datrys cwynion ac anghydfodau sy'n ymwneud â threthi datganoledig
  • hyrwyddo cydymffurfiaeth â'r gyfraith sy'n ymwneud â threthi datganoledig a diogelu rhag efadu ac osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig

Yn ogystal ag unrhyw bwerau eraill sydd ganddo, caiff ACC wneud unrhyw beth y mae'n ei ystyried yn angenrheidiol neu'n fuddiol wrth arfer ei swyddogaethau, neu sy'n atodol neu'n ffafriol er mwyn arfer y swyddogaethau hynny.

Mynediad a thrwyddedu

Pan fyddwn yn casglu ac yn creu gwybodaeth, byddwn yn gwneud hynny’n unol â'n tasg gyhoeddus. Oni bai fod yr wybodaeth wedi’i heithrio gan y Rheoliadau Ailddefnyddio, mae’r holl wybodaeth a gedwir gan ACC ar gael i’w hailddefnyddio.

Mae esiamplau o hyn yn cynnwys:

  • pan fo trydydd parti yn dal yr hawlfraint am yr wybodaeth, neu
  • lle cyfyngir ar fynediad o dan ddeddfwriaeth arall fel:
  • Deddf Diogelu Data 2018
  • Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
  • DCRhT

Mae manylion gwybodaeth rydym eisoes wedi'i chyhoeddi ar gyfer ei hailddefnyddio i'w gweld yn ein cynllun cyhoeddi.

Mae catalog StatsCymru yn wasanaeth rhad ac am ddim sy'n caniatáu i bobl weld, trin, creu a lawrlwytho data. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth ar  lwyfannau cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Gellir gwneud ceisiadau am fynediad ac ailddefnyddio ar yr un pryd.

Gwaharddiadau

Nid yw'r rheoliadau hyn yn berthnasol i’r canlynol:

  • dogfen lle mae mynediad wedi’i eithrio neu ei gyfyngu yn unol â deddfwriaeth mynediad at wybodaeth gan gynnwys ar sail:
    • diogelu data personol
    • amddiffyn diogelwch cenedlaethol
    • amddiffyn neu ddiogelwch y cyhoedd
    • cyfrinachedd ystadegol neu fasnachol (gan gynnwys cyfrinachau busnes, proffesiynol neu gwmnïau)
  • unrhyw ran o ddogfen sy'n:
    • hygyrch o dan ddeddfwriaeth mynediad i wybodaeth
    • cynnwys data personol y byddai eu hailddefnyddio'n anghydnaws â'r gyfraith sy'n ymwneud â diogelu unigolion o ran prosesu data personol

Canllawiau ar ailddefnyddio

Mae canllawiau ar ailddefnyddio ar gael ar wefan yr Archifau Gwladol.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad tasg gyhoeddus hwn gallwch gysylltu â ni.

Os oes gennych gŵyn am ACC o dan y Rheoliadau Ailddefnyddio, gweler ein canllawiau ar sut i wneud cwyn a sut rydym yn ymateb.