Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau'n hawdd eu defnyddio. Dysgwch sut y gallwch chi ein helpu i wella a chael y wybodaeth ddiweddaraf gennym.

Adborth

Er mwyn ein helpu i wella rhowch adborth i ni os gwelwch yn dda (mae’n cymryd 30 eiliad).

Mae eich adborth yn bwysig i ni ac rydym yn ystyried yr holl adborth a dderbyniwn.

Ymchwil defnyddwyr

Rydym bob amser yn ceisio gwneud ein gwasanaethau’n haws eu defnyddio.

Cofrestrwch i ymuno â'n grŵp adborth defnyddwyr drwy e-bostio dweudeichdweud@acc.llyw.cymru.

Ym mis Mawrth 2023, gofynnodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ni archwilio sut i weithredu ardoll ymwelwyr i Gymru. Os ydych chi’n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru ac yn awyddus i gymryd rhan yn ein hymchwil, e-bostiwch ardollymwelwyr@acc.llyw.cymru.

Mae cymryd rhan mewn cyfleoedd ymchwil yn wirfoddol. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd parti nac yn cael eu defnyddio at ddibenion marchnata. Gallwch optio allan unrhyw bryd. Darllenwch fwy yn ein polisi preifatrwydd.

Newyddion a rhybuddion

Os ydych yn weithiwr treth proffesiynol sydd wedi cofrestru ar gyfer ein system dreth ddigidol, byddwch yn derbyn ein diweddariadau gweithredol.

I dderbyn diweddariadau cyffredinol gennym, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau e-bost.

Gallwch hefyd ddilyn ac ymgysylltu â ni ar ein cyfrifon Twitter, LinkedIn ac YouTube.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch chi i ni.