Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn eich annog i gysylltu â ni os oes gennych bryder am Dreth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.

Ynglŷn â chwythu'r chwiban

Mae cyfraith chwythu'r chwiban yn berthnasol i weithwyr sy'n adrodd am fathau penodol o droseddu.

Fel chwythwr chwiban, rydych yn cael eich diogelu gan y gyfraith rhag cael eich cam-drin am eich bod wedi ‘chwythu'r chwiban’.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am pryd fydd chwythu'r chwiban yn berthnasol ar GOV.UK.

Adrodd i ni

Fel person rhagnodedig o dan gyfraith chwythu'r chwiban, gall ein gweithwyr chwythu’r chwiban i ddweud wrthym am Dreth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.

Gallwch hefyd chwythu’r chwiban wrthym am y trethi hyn os ydych yn teimlo na allwch chwythu'r chwiban wrth eich sefydliad eich hun.

Gallwch chwythu’r chwiban wrthym am Dreth Trafodiadau Tir neu Dreth Gwarediadau Tirlenwi os oes gennych reswm i gredu bod un o'r canlynol wedi digwydd:

  • trosedd
  • torri rhwymedigaeth gyfreithiol
  • camweinyddu cyfiawnder
  • perygl i iechyd neu ddiogelwch unrhyw unigolyn
  • difrod i'r amgylchedd
  • cuddio’n fwriadol drosedd yn y categorïau uchod

Efallai yr hoffech gael cyngor cyfreithiol os nad ydych yn siŵr a yw'ch pryder yn cael ei ystyried yn chwythu'r chwiban.

Os nad yw eich pryder yn cael ei ystyried felly, efallai y byddwch yn dymuno rhoi adborth, gwneud cwyn neu adrodd am osgoi neu efadu treth.

Sut i gysylltu â ni

Gallwch:

Os ydych am aros yn ddienw, dwedwch wrthym wrth fynegi eich pryder. Efallai na fyddwn yn gallu eich cadw’n anhysbys os bydd gofyn i ni ddatgelu eich hunaniaeth yn ôl y gyfraith yn ddiweddarach.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Byddwn yn ymchwilio i'ch pryder ac yn penderfynu a oes angen i ni weithredu. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa gamau rydym wedi'u cymryd oni bai bod hyn yn effeithio ar gyfrinachedd rhywun.