Arweinydd Data ar gyfer Dylunio Gwasanaethau
Manylion y swydd a sut i wneud cais am ein rôl Arweinydd Data ar gyfer Dylunio Gwasanaethau yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Cynnwys
Manylion y rôl
Teitl y swydd |
Arweinydd Data ar gyfer Dylunio Gwasanaethau |
---|---|
Ystod cyflog |
£51,380 i £61,440 |
Gradd |
Gradd 7 |
Patrwm gwaith |
Mae hon yn rôl llawn amser. Fodd bynnag, croesewir trefniadau gweithio hyblyg a rhannu swydd a byddant yn cael eu hystyried. |
Math o gontract |
Parhaol |
Lleoliad |
Rydym yn annog gweithio hyblyg a hybrid ond ar hyn o bryd rydym yn gofyn i'n pobl weithio gartref os y gallant, neu o'n swyddfa ym Merthyr Tudful/Caerdydd. Pan fydd yn teimlo'n fwy diogel i bawb, bydd angen mynychu’r swyddfa rywfaint, ar sail yr angen busnes. Byddwn yn symud i swyddfeydd newydd yn 2022, sy'n debygol o fod yn ardal Pontypridd. |
Dyddiad ac amser cau |
24 Ionawr 2022 am 11:55pm |
Yn atebol i |
Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data |
Cysylltwch â ni am y rôl hon |
Amdanom ni
Yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), rydym yn gyfrifol am gasglu a rheoli dwy dreth Gymreig ddatganoledig; Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi, ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r refeniw a godir gennym yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i helpu i gyflwyno system dreth deg i Gymru drwy 'Ein Dull', sy’n ffordd Gymreig o drethu. Drwy gydweithio â chynrychiolwyr, sefydliadau partner, trethdalwyr a'r cyhoedd, rydym yn sicrhau bod trethi'n cael eu casglu'n effeithlon ac yn effeithiol.
Rydym yn seilio popeth a wnawn ar ein Cynllun Corfforaethol 2019 hyd 2022. Mae'n nodi ein diben, ein hamcanion strategol, a’n huchelgeisiau tymor hwy. Rydym yn adrodd ar ein gwaith yn flynyddol - gweler ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon.
Rydym yn sefydliad bach ac aml-sgiliau o dros 70 o staff, gyda thalentau, sgiliau a phrofiad yn cwmpasu 14 o broffesiynau gwahanol. Rydym yn hyrwyddo arloesi, cydweithredu a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Ac rydym yn galluogi ac yn ymddiried yn ein pobl i weithio gyda lefelau uchel o gyfrifoldeb ac ymreolaeth.
Gallwch ddysgu mwy am weithio gyda ni yn ein Harolwg Pobl diweddaraf.
Am ragor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/acc
Ynglŷn â’r rôl
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth dechnegol ganolog o fewn Swyddogaeth Dadansoddi Data ACC, sy’n gweithio'n uniongyrchol i'r Pennaeth Data. Bydd yr Arweinydd Data ar gyfer Dylunio Gwasanaethau’n chwarae rhan hanfodol o ran arwain y gwaith o ddylunio a gweithredu gwelliannau i'n gwasanaethau presennol yn ogystal â dylunio gwasanaethau ar draws ACC yn y dyfodol.
Mae Swyddogaeth Dadansoddi Data ACC wrth graidd y gwaith o gasglu a rheoli trethi datganoledig ACC ac mae’n sylfaenol i’r gwaith o gynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Mae dadansoddi data yn hanfodol ar gyfer cyflawni swyddogaethau ACC yn llwyddiannus. Mae ein gwasanaethau data wedi'u cynllunio’n fewnol o’r cychwyn cyntaf, sy'n rhoi mantais sylweddol i ni o ran sut rydym yn defnyddio data ar gyfer rheoli ein perfformiad, ysgogi gwelliannau i'n gwasanaethau a lleihau risg. Rydym yn dod â’n gallu dadansoddi data cryf gyda phwyslais ar ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ynghyd â ffocws digidol er mwyn darparu a gwella ein gwasanaethau.
Bydd ACC hefyd yn cefnogi cydweithwyr ehangach Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau refeniw newydd drwy ddefnyddio ei arbenigedd o ran cyd-deall systemau cyflenwi o'r dechrau i’r diwedd. Mae hyn yn golygu defnyddio ein harbenigedd amrywiol ar draws gwahanol ddisgyblaethau proffesiynol gan gynnwys data, digidol, mewnwelediad cwsmeriaid, cyfathrebu ac ati. Gan weithio'n uniongyrchol i Bennaeth Dadansoddi Data ACC, bydd gennych rôl hollbwysig nid yn unig o ran arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau ACC sy’n bodoli eisoes ond hefyd o ran cefnogi cydweithwyr ehangach Llywodraeth Cymru wrth ddylunio gwasanaethau newydd, gan ddefnyddio'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â data i wneud y gorau o’r gwasanaethau hynny gyda chymorth rhanddeiliaid.
Wrth i'n sefydliad a'n gwasanaethau dyfu, rydym yn buddsoddi yn ein harweinyddiaeth a'n capasiti technegol ar draws y Swyddogaeth Dadansoddi Data. Bydd hyn yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau'n barhaus tua’r dyfodol, a gwneud y defnydd gorau o ddata o fewn ACC ac ar draws y llywodraeth.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl, byddwch yn mwynhau gweithio'n agos gydag ystod eang o gydweithwyr ar draws ACC, a'r tu allan i'r sefydliad. Byddwch yn sicrhau bod anghenion cwsmeriaid/defnyddwyr ac ystyriaethau preifatrwydd yn cael eu hymchwilio'n dda ochr yn ochr â'r gofynion data, gan gymhwyso dealltwriaeth a ddaw i'r amlwg i unrhyw ddatblygiad a dyluniad gwasanaeth.
Yn olaf, mae goruchwylio cyhoeddi data ac ystadegau hefyd yn agwedd allweddol ar y rôl, fel rhan o gynnal dull tryloyw ACC o ymdrin â'i waith a chefnogi ein cymuned o ddefnyddwyr dadansoddol.
Byddem yn cefnogi unrhyw ymgeiswyr i gyflawni neu gynnal unrhyw aelodaeth o broffesiynau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS)/Gwasanaeth Ymchwil y Llywodraeth (GSR) ar lefel G7.
Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i chi weithio mewn maes gwaith sy'n symud yn gyflym, gan gyfrannu at ddyluniad gwasanaethau refeniw i Gymru. Byddai'n addas ar gyfer ymchwilydd cymdeithasol profiadol sydd â sgiliau data cryf neu ystadegydd profiadol gyda rhywfaint o gefndir ymchwil a ffocws ar ddefnyddwyr, gan ganiatáu i’r naill neu’r llall ehangu eu gwybodaeth a'u sgiliau dros y ddau broffesiwn.
Yn benodol fel ystadegydd, cewch gyfle i:
- weithio gydag ystod eang o randdeiliaid er mwyn pennu gofynion data
- sefydlu methodolegau casglu data er mwyn integreiddio gofynion i ddyluniad gwasanaethau
- cyflawni gallu dadansoddi data ar gyfer y dyfodol
- goruchwylio cyhoeddi ystadegau
Ac yn benodol fel ymchwilydd:
- ymchwil uniongyrchol rhanddeiliaid / defnyddwyr / cwsmeriaid, gan weithredu ar y canlyniad,
- arfarnu a gwerthuso opsiynau
- casglu a chymhwyso mewnwelediadau ymddygiadol wrth ddatblygu strategaethau a gwasanaethau treth
Er fy mod yn sylweddoli y bydd eich sgiliau'n datblygu wrth i'r rôl fynd rhagddi, disgwylir o leiaf ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad clir o ddyfnder yr her yn eich proffesiwn llai amlwg.
Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data
Sesiwn wybodaeth i Ymgeiswyr
Byddwn yn cynnal sesiwn gwybodaeth i ymgeiswyr ar 18 Ionawr 2022 am hanner dydd ar Microsoft Teams. Bydd hwn yn gyfle i chi gael rhagor o wybodaeth am y rôl, os hoffech ddod cysylltwch â ni yn: recriwtio@acc.llyw.cymru
Prif dasgau
Cefnogi datblygiad gwasanaethau ACC, gan gynnwys y canlynol:
- casglu gofynion data, gan gynnwys cysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a defnyddwyr mewnol ac allanol y gwasanaethau hynny
- sicrhau bod anghenion defnyddwyr a gofynion data’n cael eu gosod wrth wraidd y gwaith o gynllunio'r gwasanaeth:
- ymchwilio, a deall y ffyrdd gorau o gaffael data (er enghraifft, casglu, ailddefnyddio neu baru)
- ystyried ymestyn neu ddatblygu colofnau a chofrestri data priodol i gefnogi gweithgarwch dylunio
- hyrwyddo preifatrwydd, cymhwyso rheolaethau a mesurau priodol a sicrhau bod asesiadau effaith yn adlewyrchu hyn
- ymchwilio i effeithiau cydraddoldeb ac adlewyrchu'r rhain mewn gofynion
- ymgysylltu'n rhagweithiol ag arweinwyr cyflenwi gwasanaethau ac uwch swyddogion yn ACC ac ar draws y llywodraeth er mwyn sicrhau bod gweithgareddau wedi’u halinio â'r meysydd blaenoriaeth uchaf
- gweithio gyda chydweithwyr digidol i integreiddio data yn ddatrysiadau cwbl ddigidol
- trefnu mynediad at ddata manwl ar gyfer dadansoddwyr y dyfodol, gan gynnwys integreiddio data i amgylchedd dadansoddi data cyfredol ACC
Arwain ar neu gyfrannu at baratoi arfarniadau opsiynau ac achosion busnes wrth ddylunio gwasanaethau sy'n seiliedig ar fodelau data sylfaenol cadarn, tra'n sicrhau bod gofynion defnyddwyr / cwsmeriaid a mewnwelediadau ymddygiadol yn hollbwysig o ran y dyluniad hwnnw.
Goruchwylio ystadegau a gyhoeddir gan ACC, gan gynnwys rheoli llinell ar gyfer y tîm cyhoeddi a chymeradwyo deunydd cyhoeddedig a briffio cysylltiedig.
Arwain ar brosiectau cwmpasu a gweithredu sy'n archwilio rhannu data'n well ac yn fwy effeithiol ar draws y llywodraeth ar ran ACC.
Meithrin perthynas gref â chydweithwyr o wahanol broffesiynau a sefydliadau gan gynnwys dirprwyo ar ran y Pennaeth Data mewn cyfarfodydd allweddol o fewn ACC.
Meini prawf llwyddiant
Rydym yn recriwtio gan ddefnyddio proffiliau llwyddiant. Bydd ein canllawiau proffiliau llwyddiant yn eich helpu i gwblhau eich cais.
Yn gryno, mae'r dull hwn yn golygu:
- ein bod yn chwilio am dystiolaeth o'r hyn yr ydych wedi'i wneud a'r hyn y gallwch ei wneud. Mae hyn yn golygu ein bod yn chwilio am yr ymddygiadau, y cryfderau a'r gallu sydd ei angen i wneud y gwaith
- lle y bo angen neu'n berthnasol, rydym hefyd yn ystyried profiad a gwybodaeth dechnegol
- bod y dull hwn yn dechrau yn ystod y cam ymgeisio ac yn parhau drwy gydol y broses recriwtio
- y byddwn yn chwilio am rai pethau ar rai adegau. Byddwn bob amser yn glir o ran yr hyn yr ydym yn chwilio amdano a phryd
Dylech dynnu sylw at dystiolaeth o'r tabl isod yn ystod y broses recriwtio. Efallai y byddwch hefyd am gyfeirio at y prif dasgau a nodir uchod.
Meini prawf |
Yn cael ei asesu yn y datganiad personol a’r CV |
Yn cael ei asesu yn ystod cyfweliad neu asesiad |
---|---|---|
Newid a Gwella Deall a nodi rôl technoleg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a gweithredu polisi. |
Ydy |
Ydy |
Arweinyddiaeth Croesawu ac ymateb i safbwyntiau a heriau gan eraill, er gwaethaf unrhyw bwysau sy'n gwrthdaro i anwybyddu neu roi mewn iddynt. |
Ydy |
Nac Ydy |
Cyfathrebu a Dylanwadu Esbonio materion cymhleth mewn modd sy'n hawdd ei ddeall. |
Ydy |
Ydy |
Cyflawni'n Brydlon Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a diogelwch wrth ddarparu gwasanaethau. |
Ydy |
Nac Ydy |
Meini prawf |
Yn cael ei asesu yn y datganiad personol a’r CV |
Yn cael ei asesu yn ystod cyfweliad neu asesiad |
---|---|---|
Dadansoddol Rydych yn chwilio am ac yn dadansoddi gwybodaeth er mwyn hysbysu penderfyniadau yn seiliedig ar y wybodaeth orau sydd ar gael. |
Nac ydy |
Ydy |
Asiant Newid Rydych yn gadarnhaol ac yn ysbrydoledig wrth awarin a chefnogi eraill trwy newid. |
Nac ydy |
Ydy |
Wedi Ffocysu ar Wasanaeth Rydych yn chwilio am ffyrdd i wasanaethu cwsmeriaid gan rhoi eu hanghenion wrth wraidd popeth a wnewch. |
Nac ydy |
Ydy |
Meini prawf |
Yn cael ei asesu yn y datganiad personol a’r CV |
Yn cael ei asesu yn ystod cyfweliad neu asesiad |
---|---|---|
Gallu arddangos dealltwriaeth o gasglu a rheoli data yng nghyd-destun system weithredol, a chyda sylw priodol i faterion diogelu data a chydraddoldeb. |
Ydy |
Ydy |
Profiad o reoli neu gyfrannu at brosiectau ymchwil yn effeithiol, gan gyflwyno dadansoddiadau effeithiol ac amserol i faterion polisi. |
Ydy |
Ydy |
Meini prawf |
Yn cael ei asesu yn y datganiad personol a’r CV |
Yn cael ei asesu yn ystod cyfweliad neu asesiad |
---|---|---|
Naill ai'r llwybr ystadegol: Un neu fwy o'r canlynol:
Neu'r llwybr ymchwil: O leiaf 2:1 mewn gradd israddedig neu 2:2 ynghyd â gradd ôl-raddedig. YNGHYD Â phwnc gwyddor gymdeithasol perthnasol ar lefel israddedig neu ôl-raddedig sy'n cynnwys hyfforddiant o ran dulliau ymchwil cymdeithasol sylweddol (byddem yn disgwyl i ddulliau ymchwil cymdeithasol gynrychioli tua thraean o'r modiwlau a astudiwyd). NEU o leiaf 4 blynedd o brofiad ymarfer ymchwil cymdeithasol (byddai hyn yn brofiad o ddylunio, rheoli a chynnal ymchwil mewn asiantaeth ymchwil, asiantaeth ymchwil i'r farchnad neu dîm ymchwil arbenigol, gan gyfeirio'n benodol at ehangder a dyfnder y sgiliau a'r profiad hynny. |
Ydy |
Nac ydy |
Gofynion o ran y Gymraeg
Mae'r rhestr ganlynol o ofynion iaith yn asesiad gwrthrychol o'r sgiliau iaith sydd eu hangen er mwyn cyflawni dyletswyddau'r swydd hon:
Sgiliau Cymraeg |
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol |
---|---|
Darllen |
0 = Dim sgiliau |
Siarad |
0 = Dim sgiliau |
Deall |
0 = Dim sgiliau |
Ysgrifennu |
0 = Dim sgiliau |
Mae bod Cymraeg yn ddymunol yn golygu y byddai meddu ar sgiliau iaith Gymraeg yn ddefnyddiol yn y rôl hon, ond nid yw'n faen prawf asesu felly ni fyddwch o dan anfantais yn ystod y broses recriwtio os nad ydych yn siarad Cymraeg. Rydym yn cefnogi bob aelod o’r staff i ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg ar ôl iddynt ymuno â ni.
Lefel fetio at ddibenion diogelwch
Fel adran o’r gwasanaeth sifil, mae gan ein pobl i gyd fynediad at asedau'r llywodraeth. Mae gwahanol rolau’n gofyn am wahanol lefelau fetio diogelwch cenedlaethol.
Lefel cliriad |
Yn ofynnol ar gyfer y rôl |
---|---|
Safon Diogelwch Personél Sylfaenol |
Ydy |
Gwiriad Gwrthderfysgaeth |
Nac ydy |
Gwiriad Diogelwch |
Nac ydy |
Fetio Datblygedig |
Nac ydy |
Asesu
Mae ein proses asesu yn cynnwys cyfweliad cyfunol, lle y byddwn yn eich profi yn erbyn y meini prawf uchod.
Yn dibynnu ar y rôl, mae'n bosibl y byddwn yn:
- profi am gryfderau sy'n berthnasol i'r ymddygiadau
- gofyn i chi wneud ymarfer, prawf, neu gyflwyniad yn ystod cyfweliad
- gofyn a oes gennych unrhyw ofynion yr hoffech i ni fod yn ymwybodol ohonynt
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl hon, anfonwch:
- Eich CV (dim mwy na 2 dudalen A4).
- Datganiad personol (800 i 1,200 o eiriau) yn dangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf.
- Eich Ffurflen Fanylion. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod ein proses recriwtio yn parhau i fod yn un deg. Ni chaiff ei rhannu ymhellach na'n tîm Adnoddau Dynol.
Anfonwch y 3 dogfen at: recriwtio@acc.llyw.cymru
Er mwyn bod yn deg â phawb, nid ydym yn derbyn:
- ceisiadau hwyr
- dogfennau anghyflawn neu ddogfennau ar goll
- datganiadau personol dros 1,200 o eiriau
Ni allwn drafod cyfleoedd gydag asiantaethau recriwtio, gwnewch gais yn uniongyrchol.
Buddion
Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion pan fyddwch yn ymuno ag ACC, megis:
- pensiwn hael
- cyflog sy'n gysylltiedig â dilyniant
- 31 diwrnod o wyliau
Darganfyddwch fwy am y manteision o weithio i ni.