Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi sicrhau'r achrediad lefel uchaf yn y cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Mae'r cynllun, sy'n cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn cydnabod mudiadau sy'n chwarae rhan flaenllaw o ran newid agweddau er gwell.
Mae ACC bellach wedi sicrhau Arweinydd Hyderus o ran Anabledd (Lefel 3). Mae hyn yn dilyn yr achrediad llwyddiannus yn erbyn y 2 lefel gyntaf:
- Hyderus o ran Anabledd - Ynroddedig (Lefel 1)
- Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd (Lefel 2)
Mae'r achrediad, sy'n para am 3 blynedd, yn atgyfnerthu ymrwymiad parhaus ACC tuag at fod yn sefydliad teg a chynhwysol.
Meddai Carl Alexis, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu ACC
Rydyn ni wedi gweithio'n galed i greu diwylliant gweithle teg a chynhwysol yn ACC. Rydw i wrth fy modd felly ein bod wedi ennill y lefel uchaf yma o achrediad. Wrth i ni dyfu, byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn yn barhaus drwy edrych ar ffyrdd o wneud ein prosesau recriwtio hyd yn oed yn fwy hygyrch a chynhwysol.
Cafodd ACC ei asesu mewn 3 maes:
- arddangos data ynglŷn â chyflogi pobl anabl
- rhannu gwybodaeth am weithgareddau yn erbyn gofynion lefel 3
- rhoi sicrwydd ynglŷn â chofnodi ac adrodd ar anabledd, iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle
Canmolodd asesydd annibynnol hefyd ACC am gyflwyno arferion arloesol.
Dysgwch fwy am y cynllun Hyderus o ran Anabledd a gweithio i Awdurdod Cyllid Cymru.