Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) heddiw (01 Ebrill) wedi cyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol 2025 i 2028, a hynny ar ôl codi mwy na £2 biliwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ers dod yn gwbl weithredol yn 2018.
Mae Awdurdod Refeniw Cymru (ACC) heddiw (01 Ebrill) wedi cyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol 2025 i 2028, a hynny ar ôl codi mwy na £2 biliwn i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ers dod yn gwbl weithredol yn 2018.
Ar hyn o bryd mae ACC yn rheoli’r Dreth Trafodiadau Tir (TTT) a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT). Mae Llywodraeth Cymru yn ail-fuddsoddi'r refeniw hanfodol a godir o'r trethi hyn mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel ysgolion a'r GIG, mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae'r cynllun corfforaethol newydd yn nodi sut y bydd ACC yn gweld ei gyfrifoldebau yn cael eu hehangu er mwyn cyflawni mwy i Gymru. Bydd ACC yn gyfrifol am weithredu'r gwasanaeth ar gyfer y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), ar yr amod bod y ddeddfwriaeth yn cael ei phasio yn yr haf (2025).
Mae'r sefydliad yn parhau i feithrin ei alluoedd yn y meysydd digidol, data a thechnoleg er mwyn darparu gwasanaeth newydd ar gyfer darparwyr llety, i gefnogi'r ardoll ymwelwyr a chofrestr genedlaethol ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru.
Mae'r cynllun corfforaethol, a gymeradwywyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, yn nodi datganiad pwrpas, amcanion strategol a mesurau perfformiad.
Dywedodd Dyfed Alsop, Prif Weithredwr ACC:
Mae ein cynllun corfforaethol newydd yn adeiladu ar ein profiad gweithredol a'n harbenigedd mewn rheoli trethi datganoledig drwy ddefnyddio Ein Dull – ffordd Gymreig drethu. Gan ddechrau o sefyllfa o ymddiriedaeth, rydym yn cefnogi pobl i dalu'r dreth gywir ar yr adeg gywir.
Wrth edrych ymlaen, byddwn yn defnyddio'r dull hwn mewn meysydd gwaith newydd. Ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â defnyddwyr gwasanaeth, rhanddeiliaid a phartneriaid newydd, er mwyn datblygu gwasanaeth digidol syml a hawdd ddaw â budd i Gymru.
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg:
Mae ACC bellach wedi bod yn casglu a rheoli TTT a TGT yn llwyddiannus ers saith mlynedd. Mae ei gynllun corfforaethol diweddaraf yn nodi sut y bydd ACC yn paratoi ar gyfer casglu a rheoli'r Ardoll Ymwelwyr, a datblygu Cofrestr Genedlaethol o Lety Ymwelwyr, ar yr amod bod y ddeddfwriaeth gysylltiedig yn pasio drwy'r Senedd.
Mae hefyd yn nodi sut y bydd ACC yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth rhagorol y mae'n adnabyddus amdano ar draws y ddwy dreth ddatganoledig bresennol.
Dywedodd Ruth Glazzard, Cadeirydd ACC:
Mae ein pobl a'n partneriaethau yn ganolog i'r ffordd rydym wedi gweithredu ers ein dechrau. Mae'r cynllun corfforaethol hwn yn esbonio sut rydym yn tyfu ein gallu ac yn buddsoddi yn ein pobl er mwyn cyflawni dros Gymru, a'n gwneud yn fwy cynaliadwy fel corff cyhoeddus yng Nghymru.
Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein partneriaethau presennol a chreu rhai newydd wrth i ni wneud mwy i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.