Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (27 Gorffennaf), mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021 i 2022, sy'n nodi bod cyfanswm o fwy na £400 miliwn wedi’i godi o drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod y flwyddyn, rheolodd ACC y lefelau uchaf erioed o dreth a phrosesodd ei nifer mwyaf o ffurflenni treth hyd yma, sef cyfanswm o fwy na 68,800. Cafodd cyfanswm o 98.4% o'r ffurflenni treth eu ffeilio'n brydlon, gyda bron i 99% o'r trafodiadau wedi'u ffeilio'n ddigidol.

Uchafbwyntiau perfformiad eraill:

  • wedi pasio’r £1 biliwn o refeniw treth (ers dechrau rheoli treth ym mis Ebrill 2018)
  • wedi adennill £1.6 miliwn yn ychwanegol o ganlyniad i ymyriadau a datgeliadau treth, lle na chafodd y dreth iawn ei thalu ar yr adeg iawn 
  • wedi derbyn adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr gyda 92% yn ei chael hi'n hawdd defnyddio gwasanaethau'r awdurdod treth
  • yn y 3 uchaf ar draws mwy na 100 o gyflogwyr yn Arolwg Pobl Blynyddol y Gwasanaeth Sifil

Meddai Kathryn Bishop, Cadeirydd ACC:

Mae ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon yn dangos y cynnydd cryf rydym wedi'i wneud eleni. 

“Er gwaethaf anawsterau parhaus coronafeirws (COVID-19), rydym wedi gweld dechrau'r broses o adfer o gyfyngiadau’r pandemig. Rydym wedi pasio’r £1 biliwn o refeniw sydd wedi’i godi ers i ni ddod yn gwbl weithredol fel awdurdod treth ym mis Ebrill 2018 - ac mae hyn yn garreg filltir bwysig i ni.

“Rwy'n falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni yn y bennod hon o'n hanes. Nawr gallwn weld tystiolaeth mai ein ffordd arloesol Gymreig o drethu yw'r ffordd gywir o godi refeniw hanfodol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

Meddai Dyfed Alsop, Prif Weithredwr ACC:

Gwnaethom gasglu mwy o dreth a rheoli nifer uwch o drafodiadau, gan ei gwneud y flwyddyn orau erioed i ni hyd yn hyn, wrth i gyfyngiadau COVID-19 yn ymwneud â’r farchnad dai godi.

“Drwy gydol y pandemig, rydym wedi blaenoriaethu cefnogi ein cwsmeriaid, yn ogystal â'n pobl. Gwnaethom gynnal ein dull cefnogol o reoli treth, gan helpu pobl i dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn. O ganlyniad, roedd lefelau'r trafodiadau a gyflwynwyd yn gywir y tro cyntaf yn parhau'n uchel ar tua 98% eto yn ystod y flwyddyn.

“Gwnaethom ymestyn ein gwybodaeth am risg treth, dull a ddefnyddiwn i nodi meysydd risg uwch lle nad yw'r dreth yn cael ei thalu'n gywir, yn seiliedig ar ddata a mewnwelediad. Byddwn yn ymchwilio ymhellach i'r dull hwn y flwyddyn nesaf wrth i ni barhau i gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru yn datblygu trethi newydd i Gymru.

Cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2022 i 2025 diweddaraf yn ddiweddar.

Am ragor o wybodaeth, gweler Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021 i 2022.