Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (19 Medi), mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023 hyd 2024, gan nodi bod bron i £300 miliwn wedi’i godi mewn refeniw treth i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ACC yn gyfrifol am reoli Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r refeniw a godir yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru. 

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar chweched blwyddyn gweithrediadau’r awdurdod treth. Mae'r uchafbwyntiau’n cynnwys:   

  • cafodd bron i 99% o'r ffurflenni treth eu ffeilio ar amser gan drethdalwyr a chynrychiolwyr - ffigur sydd uwchlaw’r targed
  • cafodd bron i 98% o'r trafodion eu cyflwyno'n gywir y tro cyntaf
  • cafodd dros £2.3 miliwn o TTT naill ai ei ddiogelu neu ei adfer fel refeniw ychwanegol
  • roedd defnydd rhagweithiol o ddadansoddi data, rhannu gwybodaeth ac ymholiadau wedi ein helpu i gasglu mwy o TGT
  • y llynedd, ymhlith dros 100 o sefydliadau, cawsom y sgôr uchaf ond un ar gyfer ymgysylltiad gweithwyr yn gyffredinol (Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2023)

Mae ACC wedi datblygu Ein Dull, ffordd Gymreig o wneud treth, i helpu pobl i dalu'r dreth gywir, y tro cyntaf. Mae'r ffordd ragweithiol hon o reoli treth yn golygu ymgysylltu'n weithredol â threthdalwyr a'u cefnogi, yn ogystal â chynrychiolwyr, i ffeilio treth.

Dywedodd Dyfed Alsop, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifeg ACC:

Gan adrodd ar ein chweched flwyddyn o weithredu, mae'n gadarnhaol gweld sut mae'r mwyafrif helaeth o bobl wedi parhau i gael treth yn iawn. Mae hyn yn arwydd cadarnhaol bod ein ffordd o ymgysylltu a chefnogi pobl i ffeilio'r dreth gywir, y tro cyntaf, yn parhau i fod yn effeithiol.

Rydym hefyd wedi esblygu'r ffordd yr ydym yn rheoli risg treth, fel y manylir yn yr adroddiad. Rydym naill ai wedi diogelu neu adennill treth bellach trwy ymyrryd ar ôl i dreth gael ei ffeilio neu ei thalu'n anghywir. Ein blaenoriaeth o hyd, fodd bynnag, yw helpu pobl i ffeilio'n gywir yn y lle cyntaf, fel ein bod yn rheoli trethi yn effeithlon.

Roeddem yn falch o ddechrau gweithio i archwilio gwasanaeth ardoll ymwelwyr i Gymru hefyd. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n edrych ymlaen at weithio ymhellach arno gyda'n pobl, ein rhanddeiliaid a'n partneriaid, wrth i ni feithrin gallu digidol yn fewnol i ddarparu gwasanaeth digidol newydd i Gymru.

Dywedodd Ruth Glazzard, Cadeirydd ACC: 

Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu fy ail flwyddyn fel Cadeirydd. Rwy'n falch fy mod wedi cynnig cefnogaeth strategol, ynghyd ag aelodau eraill o'r bwrdd, i helpu'r tîm arweinyddiaeth i ddatblygu a thyfu'r sefydliad hwn sy'n canolbwyntio ar bobl.

Yn y flwyddyn, gweithiodd yr holl dimau yn galed i gadw'r diwylliant unigryw y mae ACC yn ei gynnig, wrth i ni groesawu pobl newydd, cynnal gwasanaethau treth presennol, a pharatoi ar gyfer yr ardoll ymwelwyr. Diolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn ein stori yn ystod y flwyddyn adrodd ddiweddaraf hon.

 Am fwy o wybodaeth, ewch i: