Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (7 Gorffennaf), mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020 i 2021, gan adrodd y bydd £242 miliwn o dreth a godwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn uniongyrchol ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dechreuodd ACC, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, gasglu a rheoli refeniw o 2 dreth ddatganoledig yng Nghymru, Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi , ym mis Ebrill 2018.

Mae'r cyhoeddiad yn adlewyrchu perfformiad ACC yn ystod y flwyddyn ariannol, y gweithgareddau a gynhaliwyd gan y sefydliad, sut y caiff ei lywodraethu a'i reoli a’r heriau ar gyfer y dyfodol.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar sut y parhaodd y sefydliad i weithredu yn ystod coronafeirws, gan ymateb yn gadarnhaol i heriau sylweddol er mwyn cynnig gwasanaethau digidol a hynny drwy ymdrechion staff a'r defnydd o dechnoleg.

Dywedodd Kathryn Bishop, Cadeirydd ACC:

Daw'r Adroddiad ar Berfformiad Blynyddol a Chyfrifon eleni ar ddiwedd blwyddyn hynod arall.

Ym mis Chwefror 2020, cafodd ein swyddfeydd yn Nhrefforest lifogydd, ynghyd â nifer o adeiladau a llawer o gartrefi yn y gymuned honno ac ym mis Mawrth 2020, dechreuodd bawb ddelio â'r cyfyngiadau a osodwyd gan goronafeirws. Gallom ymateb yn dda iawn i'r cyntaf o'r argyfyngau hynny, gan weithredu ein cynlluniau parhad busnes yn gyflym ac yn llwyddiannus, ac roeddem eisoes yn gweithio o bell gan ddefnyddio ein gallu digidol pan ddaeth cyfyngiadau clo’r pandemig yn angenrheidiol.

Rydym yn ymwybodol nad yw heriau'r 15 mis diwethaf ar ben, ac mae blaenoriaethau eraill i fynd i'r afael â hwy yn y flwyddyn sydd i ddod: bodloni gofynion llywodraeth newydd, symud i swyddfeydd newydd a fydd yn gartref i ni yn y dyfodol, a hynny wrth i ni adfer o effaith COVID-19. Rwy'n hyderus, ar sail ymdrechion ardderchog y 15 mis diwethaf, y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gallu ymateb i'r heriau hynny.

Dyfed Alsop, Prif Weithredwr ACC:

Mae'r adroddiad hwn yn darparu ystod eang o wybodaeth er mwyn dangos yr hyn a gyflawnwyd gennym. Mae'r defnydd cynyddol o'n gwasanaethau digidol, er mwyn ffeilio a thalu, a'r cyfraddau cwblhau ar amser trawiadol o uchel, yn dystiolaeth o'r bartneriaeth sydd gennym gyda'n trethdalwyr ac asiantau. Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth y maent hwy, ynghyd â'n partneriaid cyflenwi, wedi'i rhoi i ni.

Rwy'n falch o'r ffordd y gwnaethom gynnal lefelau uchel o gymorth i drethdalwyr ac asiantau. Gwnaethom symud ein seminarau treth ar-lein, diweddaru ein canllawiau a, chyn belled ag y bo modd, gweithio’n galed i ad-dalu’n brydlon. Gwnaethom hefyd weithredu newidiadau cyllideb cyflym i'r trethi yr ydym yn gyfrifol amdanynt a hynny i gyd o bell.

Mae'r cyflawniadau hyn yn dangos sut y gwnaethom barhau i arloesi a chydweithio hyd yn oed wrth weithio gartref. Yr unig ffordd o wneud hynny oedd trwy wneud penderfyniadau ynghylch yr hyn na ddylai gael blaenoriaeth. Roeddem yn pwysleisio, yn anad dim, fod angen i ni gadw ein pobl yn ddiogel, cefnogi ein gilydd wrth addasu i weithio gartref, darparu amser i ffwrdd ychwanegol ar gyfer y cyfrifoldebau a'r argyfyngau ychwanegol hynny na allwyd eu rhagweld ac a effeithiodd ar bob un ohonom.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020 hyd 2021.

Mae’r Awdurdod hefyd wedi rhyddhau ystadegau Treth Trafodiadau Tir blynyddol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2020 i Fawrth 2021.