Yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), rydym wedi ymuno â Phrifysgol De Cymru i gynnig prentisiaeth gradd newydd arloesol. Yma, rydym yn esbonio mwy am y cwrs hyd yn hyn.
Gwnaethom groesawo ein prentisiaid digidol cyntaf ym mis Medi – Zoe Curry, Roisin Harris a Dominik Pawlowski.
Mae'r 3 yn astudio tuag at gwrs prentisiaeth BSc (Anrh) mewn Datrysiadau Digidol a Thechnoleg.
Mae'r cwrs pedair blynedd a hanner yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Mae'r dull yma’n cyfuno dysgu ar-lein ac addysgu wyneb yn wyneb ar gampws Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd ynghyd ag amser ymarferol yn gweithio gyda ni
Beth mae'r prentisiaid yn ei feddwl hyd yma?
Cychwynnodd y cwrs gyda 'bootcamp' 6 wythnos dwys er mwyn helpu'r prentisiaid i ddatblygu sgiliau rhaglennu hanfodol. Maen nhw hefyd wedi dysgu hanfodion trethi datganoledig gyda ni yn ystod y cyfnod hwnnw.
Meddai Zoe, o'r Barri a raddiodd mewn Ffotonewyddiaduraeth: "Mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio fy nghreadigrwydd mewn ffordd newydd".
Roedd Roisin o Gaerffili yn gweithio i CThEM o’r blaen. Meddai: "Mae'r brentisiaeth yma’n ffordd ddelfrydol o gael gradd tra'n ennill cyflog yr un pryd".
Bu Dominik, o Lynebwy, yn astudio Cyfrifiadureg cyn y cyfle yma. Dywedodd: "Rwy'n hapus i ddefnyddio fy sgiliau cyfrifiadureg mewn amgylchedd busnes go iawn".
Pam fod y bartneriaeth hon yn bwysig?
Meddai Dr Francis Cowe, Cyfarwyddwr Partneriaethau Addysg Bellach a Phrentisiaethau Gradd ym Mhrifysgol De Cymru:
Mae hwn yn gyfle gwych i'r prentisiaid fynd i faes technoleg arbenigol. Bydd y bartneriaeth gydag ACC, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyfle i’r 3 ennill sgiliau fel eu bod yn barod ar gyfer swydd mewn llwybr gyrfa arbenigol ac atyniadol iawn.
Meddai Anthony Pritchard, Pennaeth Digidol a Thechnoleg ACC:
Rydym wedi recriwtio ein prentisiaid digidol cyntaf er mwyn cynyddu ein galluoedd digidol ac er mwyn cynnig swyddi lleol. Nid oes yr un o'n prentisiaid wedi gweithio mewn swyddi digidol o'r blaen. Ond mae gan bob un ohonyn nhw’r potensial i fod yn arbenigwyr digidol. Rydym yn falch o'u cael nhw gyda ni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein gwaith digidol, anfonwch e-bost i'n Pennaeth Digidol a Thechnoleg: Anthony.Pritchard@acc.llyw.cymru. Neu gallwch ddysgu mwy am brentisiaethau ar wefan Prifysgol De Cymru.