Neidio i'r prif gynnwy

Mae hwn yn nodi ein safiad o ran osgoi trethi ac efadu trethi yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Mae'n dweud wrthych beth i'w wneud os ydych yn credu eich bod wedi defnyddio cynllun osgoi talu treth neu wedi efadu treth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hyn yn esbonio:

  • pwysigrwydd ymgysylltu â ni cyn gynted â phosibl
  • sut i gysylltu â ni
  • beth sy'n debygol o ddigwydd os na fyddwch yn dweud wrthym

Rydym yn darparu system dreth deg i Gymru

Rydym yn rheoli 2 dreth ddatganoledig a gynlluniwyd ac a wnaed ar gyfer Cymru er mwyn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru:

  • Treth Trafodiadau Tir
  • Treth Gwarediadau Tirlenwi

Rydym yn falch o'n rôl yn codi arian hanfodol i gefnogi gwasanaethau, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru. Rydym yn defnyddio ‘Ein Dull’ - ffordd Gymreig o drethu sy'n effeithlon ac yn effeithiol, gan weithio gyda:

  • cyfreithwyr a thrawsgludwyr
  • trethdalwyr
  • sefydliadau partner

Ein safbwynt o ran osgoi ac efadu treth

Mae gennym bolisi dim goddefgarwch tuag at osgoi ac efadu treth.

Mae hyn yn golygu ein bod yn mynd ati i:

  • chwilio am yr ymddygiadau hyn a mynd i'r afael â nhw
  • adennill treth sydd ddim wedi’i thalu
  • codi llog a chosbau lle bo'n briodol

Mewn achosion o efadu treth, efallai y byddwn yn mynd ar drywydd erlyniad troseddol.

Rydym yn defnyddio'r data sydd gennym, a data a gwybodaeth gan drydydd partïon i ganfod a mynd i'r afael ag osgoi ac efadu treth.

Os ydych yn credu y gallech fod wedi defnyddio cynllun osgoi talu treth, neu wedi talu llai o dreth yn fwriadol neu'n ddiarwybod nag y dylech fod wedi, dywedwch wrthym cyn gynted â phosibl.

Byddwn yn:

  • gwirio eich sefyllfa dreth
  • eich cynghori o ran beth i'w wneud nesaf
  • eich helpu i'w gywiro

Bydd yn rhaid i chi dalu llog ar unrhyw dreth sydd heb ei thalu, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb hefyd.

Ond os na fyddwch yn cysylltu â ni a’n bod yn canfod yn ddiweddarach am dreth sydd heb ei thalu drwy ein hymchwiliadau, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi dalu cosbau llawer uwch. Gallwch wynebu erlyniad troseddol yn achos efadu.

Os oes rhywun wedi cysylltu â chi yn cynnig lleihau eich rhwymedigaeth treth, neu newid eich ffurflen er mwyn arbed treth, cysylltwch â ni. Os yw'n ymddangos fel petai’n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod e.

Adrodd am osgoi neu efadu treth.

Dywedwch wrthym os ydych yn credu eich bod wedi talu'r swm anghywir o dreth

Os oes gennych rywbeth o'i le ar eich ffurflen dreth o ganlyniad i gynllun osgoi neu efadu treth, ffoniwch ni ar 03000 254 000.

Os byddwch yn ein ffonio, byddwn yn cymryd ychydig o fanylion ac yn trefnu i arbenigwr eich ffonio'n ôl.

Gall sut a phryd y byddwch yn dweud wrthym effeithio ar dderbyn cosbau

Nod ein cyfundrefn gosbau yw annog cydymffurfiaeth â'r trethi datganoledig ac annog unrhyw un i beidio â phlygu neu dorri'r rheolau.

Codir cosbau am ymddygiad diofal a bwriadol gan drethdalwyr sy'n arwain at dandalu treth. Mae hyn yn golygu eu bod yn berthnasol i achosion o osgoi ac efadu treth. 

Mae'r drefn gosbau wedi'i chynllunio er mwyn adnabod pobl sy'n dod atom i ddweud wrthym am unrhyw dandaliad treth a gweithio gyda ni i'w ddatrys. Os byddwn yn codi cosb arnoch, byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi, gan gynnwys eich hawliau apelio, yr un pryd.

Mae cosbau'n seiliedig ar y refeniw posibl a gollwyd. Mae hynny'n golygu'r gwahaniaeth rhwng yr hyn yr ydych wedi'i dalu a'r hyn y dylech fod wedi'i dalu.

Os dywedwch chi wrthym am yr anghywirdeb yn gyntaf

Bydd unrhyw gosb yn is os dywedwch wrthym ni’n gyntaf eich bod wedi talu llai o dreth nag y dylech fod wedi’i wneud. Gelwir hyn yn 'ddatgeliad digymell'.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n debygol y bydd yn cael ei ystyried yn ddatgeliad digymell os y byddwch chi neu'ch asiant yn cysylltu â ni i ddatgelu manylion anghywirdeb mewn ffurflen dreth, neu fethu ag anfon ffurflen dreth.

Mae gennym y disgresiwn i leihau cosb pan fyddwch yn dweud wrthym am:

  • anghywirdeb diofal a wnaed mewn ffurflen dreth: hyd at rhwng 0% a 30% o'r refeniw a gollwyd yn hytrach nag isafswm o 15%
  • anghywirdeb bwriadol mewn ffurflen dreth: hyd at o leiaf 30% o'r refeniw posibl a gollwyd yn hytrach na lleiafswm o 50%

Os na fyddwch yn dweud wrthym am yr anghywirdeb cyn i ni ei ganfod

Bydd yn cael ei ystyried yn 'ddatgeliad wedi'i gymell' naill ai:

  • drwy ein hymchwiliad ni neu pan fyddwn yn eich holi chi; neu
  • pan fyddwch chi'n ei ddatgelu i ni gan eich bod yn meddwl ein bod ar fin darganfod yr anghywirdeb ein hunain

Ar gyfer anghywirdeb bwriadol lle rydym yn cymell y datgeliad, y gosb isaf yw 50% o'r refeniw posibl a gollwyd a gall fod yn uchafswm o 100% o'r refeniw posibl a gollwyd.

Sut rydym yn penderfynu ar leihau cosbau

Rydym yn penderfynu faint y gallwn leihau cosb o fewn yr ystodau isod. Ar sail lefel eich cydweithrediad â ni wrth gywiro'r anghywirdeb.

Image
Ystodau cosb ar gyfer camgymeriadau a wnaed mewn ffurflen

Dweud, helpu, rhoi mynediad

Rydym bob amser yn dechrau ar y gosb uchaf ym mhob ystod ac yn defnyddio 3 maen prawf:

  • dweud
  • helpu
  • rhoi mynediad

Mae hyn yn ein helpu i benderfynu faint y gallwn leihau'r gosb, ar sail lefel eich cydweithrediad. Dyma rai enghreifftiau…

Dweud wrthym:

  • ynghylch neu gytuno bod rhywbeth o'i le, a sut a pham y digwyddodd
  • am raddau’r anghywirdeb cyn gynted ag y gwyddoch chi amdano
  • gan ateb cwestiynau'n llawn

Ein helpu ni:

  • i ddeall dogfennau neu wybodaeth
  • drwy wirio cofnodion er mwyn nodi graddau'r anghywirdeb

Rhoi mynediad i ni:

  • i ddogfennau rydym wedi gofyn amdanynt cyn gynted â phosibl
  • i ddogfennau nad ydym efallai'n gwybod amdanynt, yn ogystal â'r rhai y byddwm yn gofyn am eu gweld

Unwaith y byddwch wedi dweud wrthym am yr anghywirdeb yn eich ffurflen dreth, po fwyaf y dywedwch wrthym, yr helpwch chi ni, ac a rowch i ni, po fwyaf y bydd y gostyngiad mewn unrhyw gosb yn debygol o fod.