Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg y Cadeirydd

Image
Llun o Ruth Glazzard, Cadeirydd ACC

 

Mae hi bob amser yn ddiddorol edrych yn ôl a myfyrio, ac mae fy ail flwyddyn fel Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru wedi rhoi cyfuniad o gyfleoedd a heriau i ni.

Yn ein chweched blwyddyn weithredol, mae pobl sydd wedi bod gyda ni ers y dechrau wedi defnyddio’u profiad i fynd â nhw ar deithiau cyffrous ar draws y sector cyhoeddus. Dewisais i symud o’r gwasanaethau ariannol i’r sector cyhoeddus pan ddychwelais adref i Gymru. Ac felly, rwy’n arbennig o falch ein bod wedi helpu i ddatblygu pobl sy’n gallu dal i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Fe wnaethom hefyd ddechrau gweithio ar ddylunio gwasanaeth ardoll ymwelwyr i Gymru. Rydym yn gwneud y gwaith hwn ein hunain ac yn cynyddu ein gallu yn y sgiliau sydd eu hangen, yn enwedig yn y maes digidol, sydd â thirwedd recriwtio gystadleuol. Rwy’n gweld hwn fel cyfle i gael cydbwysedd iach – rhwng meithrin ein talent ddigidol ein hunain yn fewnol a sicrhau arbenigedd a sgiliau arbenigol o ffynonellau allanol.

Sefydliad pobl ydym ni yn ei hanfod. A’r hyn sy’n ein gwneud yn wahanol yw ein diwylliant – bod yn arloesol, yn gydweithredol ac yn garedig. Dyma ein ‘pwynt gwerthu unigryw’, neu’n USP. Mae ein pobl yn ymfalchïo yn yr hyn maen nhw'n ei wneud oherwydd y diwylliant rydyn ni wedi'i adeiladu a'i feithrin gyda'n gilydd. Eleni mae pob tîm wedi gweithio’n galed i gynnal y diwylliant hwnnw wrth i ni groesawu pobl newydd, cynnal y gwasanaethau presennol, a pharatoi ar gyfer yr ardoll ymwelwyr.

Ymunais i ag ACC wrth i ni ddechrau ar y daith o gyflawni yn erbyn ein hail gynllun corfforaethol. Rwy’n edrych ymlaen at fyfyrio ar ein blwyddyn olaf o gyflawni wrth i ni gydweithio i lunio ein Cynllun Corfforaethol nesaf ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol i Gymru.

Ruth Glazzard
Cadeirydd ACC

Adroddiad ar Berfformiad: Trosolwg y Prif Weithredwr

Image
Llun o Dyfed Alsop, Prif Weithredwr ACC.

 

Dyma’r chweched Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ers i ni ddechrau casglu trethi datganoledig yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn cynnwys arwyddion o'n datblygiad parhaus. Mae’n dangos sut mae Ein Dull - ffordd Gymreig o drethu – wedi parhau i fod yn effeithiol. Ac, fel y gallech ddisgwyl, mae'n dangos sut mae pethau wedi symud ymlaen i ni ac i drethdalwyr.

Eleni, wrth barhau i reoli meysydd risg treth sydd eisoes yn bodoli, rydym wedi archwilio’n systematig i feysydd newydd hefyd. Mae wedi bod yn dda gweld, ar y cyfan, bod trethdalwyr ac asiantau wedi bod yn cael eu trethi’n gywir. Mae hyn yn dystiolaeth gadarnhaol bod y system dreth ddatganoledig yn gweithio’n dda. Rydym wedi canfod cyfleoedd i gynnig cymorth pellach ac wedi nodi meysydd lle'r oedd angen i ni ymchwilio ac ymyrryd hefyd. Mae'r archwiliad ehangach hwn wedi cefnogi ein barn bod Ein Dull yn parhau i fod y ffordd gywir o weithredu ac fel ffordd o weithio gellir ei datblygu wrth i ni fynd yn ein blaenau. 

Rydym hefyd wedi cyrraedd uchafbwynt o ran refeniw gwarchodedig. Mae hyn yn dangos gwerth ein hymdrechion diwyd i sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei thalu. Ond mae hefyd yn dangos nad yw rhai meysydd o’n system dreth ddatganoledig yn gweithio cystal ag y byddem yn ei ddymuno. Byddai’n well gan bob un ohonom petai trethdalwyr yn talu’r swm cywir y tro cyntaf! 

Rydym wedi tanwario mwy nag yn y blynyddoedd blaenorol, yn bennaf am nad oeddem wedi llwyddo i lenwi pob swydd weithrediadol wag yn ystod y flwyddyn. Rydym wedi bod yn ffodus gan fod y cyfnod hwn hefyd wedi cyd-daro â dirywiad yn y farchnad dai ac felly rhywfaint yn llai o waith mewn rhai meysydd. Rhan o’r stori hon, yw ein bod wedi gweld mwy o drosiant eleni nag yn y blynyddoedd blaenorol wrth i bobl yn naturiol droi eu golygon at bethau newydd ar ôl bod gydag ACC am y 5 i 6 blynedd diwethaf. Mae’n wych gweld bod cynifer o’r rhai sydd wedi gadael wedi gwneud hynny o ganlyniad i ddyrchafiad, gan ddangos eu bod wedi datblygu yn ystod eu cyfnod gydag ACC.

Y tu hwnt i’n darpariaeth weithrediadol, eleni rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Thrysorlys Cymru i baratoi ar gyfer cyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Rydym wedi dechrau archwilio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys darparwyr llety ac awdurdodau lleol, sut y gallai gwasanaeth ardoll ymwelwyr weithio iddyn nhw. Ar yr un pryd, rydym wedi dechrau meithrin ein gallu a’n capasiti i ddatblygu’r gwasanaeth newydd hwn, a byddwn yn casglu’r ardoll ar ran yr awdurdodau lleol sy’n ymuno â’r cynllun. Diolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â ni hyd yn hyn. 

O ran ein datblygiad parhaus fel sefydliad, rydym hefyd wedi dechrau gosod y sylfeini ar gyfer ffordd o weithio sy’n canolbwyntio mwy ar wasanaethau. Rydym wedi ymgorffori’r defnydd o ffyrdd ystwyth o weithio a thimau amlddisgyblaethol. Rwy’n hyderus y bydd hyn yn ein helpu i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau. Hoffwn ddiolch i bawb yn ACC am eu gwaith rhagorol, ein rhanddeiliaid am eu cefnogaeth barhaus ac, wrth gwrs, am gydweithrediad parhaus ein trethdalwyr a’n hasiantau. Diolch o galon. 

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr ACC

Amdanom ni

Rydym yn rheoli Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), ar ran Llywodraeth Cymru.

  • Telir TTT pan fyddwch yn prynu neu'n prydlesu adeilad neu dir am fwy na phris penodol 
  • Telir TGT pan waredir gwastraff mewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig neu anawdurdodedig 

Drwy reoli'r trethi datganoledig hyn, rydym yn casglu refeniw hanfodol i gefnogi gwasanaethau lleol, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru. 

Rydym yn sicrhau bod trethi'n cael eu casglu'n deg, yn effeithlon ac yn effeithiol. Rydym yn gwneud hyn drwy Ein Dull

Rydym hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru gyda’r gwaith o weithredu ardoll ymwelwyr. Drwy hyn, gallai awdurdodau lleol ddewis codi’r ardoll ar arosiadau dros nos.

Ein diben a’n hamcanion strategol 

Rydym yn nodi ein diben a'n hamcanion strategol yn ein Cynllun Corfforaethol 2022 i 2025

Mae ein diben yn cael ei gytuno gyda Gweinidogion Cymru ac mae’n cynnwys: 

  • llunio a darparu gwasanaethau cyllid cenedlaethol i Gymru 
  • arwain y gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru 

Mae ein hamcanion yn ein helpu i gyflawni ein diben drwy: 

  • ei gwneud hi’n hawdd talu’r dreth gywir 
  • sicrhau ein bod yn deg 
  • datblygu ein gallu 
  • bod yn effeithlon
Image
Deiagram sy'n dangos 4 blwch ag amcan ym mhob un.  Hawdd: Byddwn yn ei gwneud hi’n hawdd talu'r swm cywir o dreth.  Effeithlon: Byddwn yn cyflawni mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn gymesur, gan ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym yn y ffordd orau.  Teg: Byddwn yn deg ac yn gyson yn y ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli treth, gan gymryd camau cymesur pan nad yw pobl yn cyflawni eu hymrwymiadau.  Medrus: Byddwn yn datblygu ac yn manteisio i'r eithaf ar ein gallu unigol a chyfunol.

Ein pobl a'n diwylliant

Rydym yn sefydliad o dros 80 o bobl, gyda sgiliau a phrofiad sy’n cwmpasu 14 o broffesiynau gwahanol.

Mae ein diwylliant – o fod yn arloesol, yn gydweithredol ac yn garedig – yn sbarduno lefelau uchel o ymgysylltu, dysgu parhaus, a chynhwysiant. 

Mae'r ffordd rydym yn gweithio yn grymuso ein pobl i wella ein gwasanaethau'n barhaus. Ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein pobl i ddatblygu yn eu rolau.

Mae cael pobl alluog yn gwneud swyddi sy’n rhoi boddhad iddynt yn arwain at ragoriaeth yn ein gwasanaethau i’n defnyddwyr o ddydd i ddydd. Ac mae’n paratoi ein sefydliad at y dyfodol. 

Ein Dull

Rydym wedi datblygu 'Ein Dull' – ffordd Gymreig o drethu – er mwyn esbonio sut rydym yn gweithio gyda threthdalwyr ac asiantau i'w helpu i dalu'r dreth gywir y tro cyntaf.

Mae Ein Dull yn sail i bopeth a wnawn. Cafodd ei ysbrydoli gan 3 therm: 

  • ‘Cydweithio’: sydd ag ymdeimlad o weithio gyda'n gilydd tuag at nod cyffredin 
  • ‘Cadarnhau’: sy’n awgrymu cadernid y gellir dibynnu arno. Mae hyn yn ymwneud â darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth 
  • ‘Cywiro’: sy’n ymwneud â'r ffordd rydym yn gweithio gyda chi i ddatrys gwallau neu bryderon 
Image
3Cs logo, representing 'Our Approach', with the Welsh terms cydweithio, cadarnhau and cywiro underneath.

Rydym yn credu fod y dull hwn yn ein helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru ac yn sicrhau’r gwerth gorau am arian.

Crynodeb o berfformiad

Fel y nodwyd yn ein cynllun corfforaethol, rydym wedi creu mesurau i ganolbwyntio ein gweithgarwch yn ystod y cyfnod cynllunio. Rydym yn crynhoi’r prif fesurau yn yr adran hon, ynghyd â naratif manylach yn y ‘Dadansoddiad o berfformiad’. Rydym yn esbonio mwy am sut rydym yn mynd i'r afael â risg treth yn yr adran honno hefyd.

Barn pobl am y profiad o ddelio gyda ni

  • Amcanion: hawdd, teg a medrus.
  • Targed 2025: bod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn ei chael hi'n hawdd defnyddio ein gwasanaethau.
  • Perfformiad 2023 i 2024: roedd 93% o bobl yn ei chael hi’n hawdd defnyddio ein gwasanaethau, a oedd ychydig yn is na’r flwyddyn flaenorol. 

Cefnogi pobl i gael eu trethi'n gywir 

  • Amcanion: hawdd, teg ac effeithlon.
  • Targed 2025: cefnogi pobl i gael eu trethi'n gywir. 
  • Perfformiad 2023 i 2024: rydym yn amcangyfrif bod 97.6% o drethdalwyr wedi talu’r dreth gywir, ychydig yn is na’r llynedd, yn rhannol oherwydd y newid yn y ffordd yr ydym yn mesur hyn. 

Lleihau'r posibilrwydd o risgiau treth

  • Amcanion: hawdd, teg ac effeithlon.
  • Targed 2025: cefnogi pobl i gael eu trethi'n gywir. 
  • Perfformiad 2023 i 2024: rydym yn newid y ffordd yr ydym yn mesur hyn i gynnwys achosion sy’n aros i fynd drwy’r broses risgio treth. Byddwn yn gallu dweud mwy am y tueddiadau o ran y mesurau newydd hyn y flwyddyn nesaf. 

Amseroldeb ffeilio 

  • Amcanion: hawdd, teg ac effeithlon.
  • Targed 2025: 98%.
  • Perfformiad 2023 i 2024: cafodd 99% o achosion eu ffeilio ar amser, sy’n gynnydd bychan ar y flwyddyn flaenorol. Gostyngodd yr amser cyfartalog i ffeilio drwy gydol y flwyddyn.

Amseroldeb taliadau

  • Amcanion: hawdd, teg ac effeithlon.
  • Targed 2025: 98%.
  • Perfformiad 2023 i 2024: talwyd 97% o achosion o fewn 30 diwrnod, sydd ychydig yn well na'r llynedd ond yn is na'n targed o drwch blewyn. 

Amseroldeb ad-daliadau cyfradd uwch 

  • Amcanion: hawdd, teg ac effeithlon.
  • Targed 2025: 95% wedi'u prosesu mewn 30 diwrnod a 98% wedi’u prosesu mewn 60 diwrnod neu lai.
  • Perfformiad 2023 i 2024: gwnaed 94% o ad-daliadau cyfradd uwch o fewn 30 diwrnod, sydd ychydig yn brin o'n targed. Yna talwyd y rhan fwyaf a fethodd y targed o fewn 60 diwrnod, a 9 diwrnod yn unig oedd yr amser cyfartalog i wneud ad-daliad. 

Amseroldeb o ran trin dyledion

  • Amcan: teg.
  • Targed 2025: 90% o'r dyledion yn cael eu talu o fewn 30 diwrnod a 98% o fewn 90 diwrnod.
  • Perfformiad 2023 i 2024: talwyd 88% o'r trafodiadau a oedd mewn dyled o fewn 30 diwrnod, ychydig yn is na’n targed o 90%. Fodd bynnag, mae’r mesur hwn yn amrywio oherwydd y nifer fach o achosion sydd nawr yn mynd i ddyled, ac rydym yn ystyried mesurau eraill ar gyfer ein cynllun corfforaethol nesaf. 

Taliadau a wnaed yn gywir y tro cyntaf

  • Amcan: hawdd.
  • Targed 2025: cynyddu nifer y taliadau a wneir yn gywir y tro cyntaf.
  • Perfformiad 2023 i 2024: gwnaed bron i 95% o'r taliadau yn gywir y tro cyntaf, ychydig yn is na’r flwyddyn flaenorol.

Graddau awtomeiddio

  • Amcan: effeithlon.
  • Targed 2025: 98% o'r trafodiadau yn cael eu cwblhau heb fod angen ymyrraeth â llaw.
  • Perfformiad 2023 i 2024: nid oedd angen ymyrraeth ar dros 94% o’n trafodiadau, sy’n uwch na’r flwyddyn flaenorol, ac yn cynyddu’n raddol, ond yn dal i fod ychydig yn brin o’n targed uchelgeisiol o 98% ar gyfer y mesur hwn. 

Sut mae ein pobl yn teimlo

  • Amcan: medrus.
  • Targed 2025: yn y 25% uchaf o sefydliadau'r Gwasanaeth Sifil o ran ymgysylltiad.
  • Perfformiad 2023 i 2024: roeddem yn y 3 uchaf yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil ar gyfer ymgysylltiad cyflogeion yn 2023.

Ein cymysgedd o sgiliau

  • Amcan: medrus.
  • Targed 2025: cynnal ehangder proffesiynau a datblygu ein sgiliau Cymraeg.
  • Perfformiad 2023 i 2024: ar hyn o bryd rydym yn cyflogi pobl o 14 o wahanol broffesiynau ac mae 47% ohonynt yn gallu o leiaf rhywfaint o Gymraeg, gyda 14% yn rhugl neu’n agos at fod yn rhugl. 

Amrywiaeth

  • Amcan: medrus.
  • Targed 2025: bod yn sefydliad cynhwysol sy'n gwerthfawrogi ac yn cynnwys pobl, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.
  • Perfformiad 2023 i 2024: yn ôl canlyniadau diweddaraf ein Harolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil, roedd ein sgôr cyffredinol ar gyfer cynhwysiant a thriniaeth deg yn 90%. 

Mae ein hatodiad ar berfformiad yn cynnwys y data manwl, cyfredol a hanesyddol, ar gyfer y dangosyddion mwy cymhleth. 

Dadansoddiad o berfformiad

Gwelwyd gostyngiad parhaus yn nhrafodiadau TTT yn ystod y flwyddyn – tuedd a ddechreuodd yn ystod chwarter olaf 2022 i 2023. Gwelwyd ychydig yn llai na 50,000 o drafodiadau i gyd. Roeddem yn rhagweld y gostyngiad hwn mewn trafodiadau TTT, sy’n adlewyrchu’r duedd ar i lawr yn y farchnad dai.

O ran TGT, cofnodwyd bod dros 1.1 miliwn tunnell o wastraff wedi’i waredu mewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru. Roedd y ffigwr hwn bron i 15% yn is o'i gymharu â'r ffigur (1.2 miliwn tunnell) ar gyfer 2022 i 2023. O fewn y ffigurau hyn, cofnodwyd gostyngiad o dros 30% yn y gwastraff wedi’i waredu ar y gyfradd safonol. Roedd ychydig o gynnydd yn y gwarediadau cyfradd is, tra bod pwysau’r gwarediadau a ryddhawyd neu a oedd wedi’u disgowntio wedi lleihau tua 20%. 

Wrth i ni ddechrau ar ein chweched flwyddyn weithrediadol, rydym wedi croesi’r hanner ffordd tuag at gyflawni yn erbyn ein cynllun corfforaethol. Yn ystod ein 6 blynedd gyntaf, rydym wedi sefydlu ‘Ein Dull’ o weithredu – ffordd newydd o drethu – a gwella ein gwybodaeth ynglŷn â rheoli risgiau treth.

Yn ystod y flwyddyn adrodd, rydym wedi datblygu ein dull o ymdrin â risg treth drwy ddod yn fwy archwiliadol yn ein gwaith. Rydym yn esbonio hyn yn fanylach yn yr adran hon, ac yn adrodd ar ein canfyddiadau a’n gwaith cyffredinol – gan helpu i greu system dreth deg i Gymru.

Esbonio ‘Ein Dull’

Rydym yn gweithio gyda threthdalwyr ac asiantau, gan ddechrau o safle o ymddiriedaeth ac yn cefnogi i dalu'r swm cywir o dreth.

Rydym yn canolbwyntio ein hadnoddau ar gefnogi pobl i wneud pethau’n iawn mewn perthynas â TTT a TGT. O ganlyniad, rydym yn amcangyfrif bod mwyafrif (97.6%) y trethdalwyr wedi talu’r dreth gywir yn ystod y flwyddyn, yn ôl ein data.

Image
Roedd bron i 98% o'r trafodiadau TTT yn gywir y tro cyntaf – cyflawnwyd hyn trwy gydweithio â threthdalwyr ac asiantau.

Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y bydd adegau pan fydd pobl yn gwneud camgymeriadau. Rydym yn mynd ati i geisio nodi amgylchiadau lle mae trethdalwyr yn fwy tebygol o dalu’r swm anghywir o dreth. Gelwir y rhain yn risgiau treth.

Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod trethdalwyr ac asiantau yn talu'r swm cywir o dreth yn yr achosion hyn. Rydym yn mynd ati i wneud hyn mewn sawl ffordd, er enghraifft:

  • cymharu ein data â ffynonellau data eraill 
  • cysylltu’n anffurfiol â threthdalwyr 
  • cynnal gweminarau addysgol 

Ar brydiau, mae angen i ni ymyrryd i wneud yn siŵr bod trethdalwr neu asiant yn talu treth a fyddai fel arall wedi aros heb ei thalu heb ein hymyrraeth ni. Rydym yn galw hyn yn didogelu treth neu adennill treth. Rydym yn egluro mwy am y gwaith hwn yn yr adroddiad ehangach.

Archwilio risgiau treth newydd

Rydym wedi adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd yn ystod ein 6 blynedd gyntaf o weithredu i sefydlu risg treth trwy ddod yn fwy archwiliadol yn y maes hwn. Rydym wedi ehangu ein ffocws ac wedi cyflwyno risgiau TTT newydd yn ogystal â’n risgiau TTT sefydledig.

Er mwyn ehangu'r gwaith hwn, rydym wedi:

  • newid ein ffyrdd o weithio ar ein risgiau treth TTT sefydledig drwy gysylltu â mwy o drethdalwyr ac asiantau lle nodwyd risgiau posibl ar eu ffurflenni treth
  • neilltuo adnoddau ar gyfer archwilio nifer o risgiau treth TTT newydd posibl
  • gwneud cynnydd da o ran risgiau TGT yn ogystal â TTT

Mae ehangu ein risgiau treth, yn seiliedig ar ein gwybodaeth, yn y modd hwn yn arwydd o'n haeddfedrwydd fel awdurdod treth. Bydd ein gwaith archwiliol yn ein helpu i benderfynu ble fyddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion i reoli risg yn y dyfodol.

Risg TTT

Ym mis Hydref 2023, dechreuwyd ein ffordd newydd o reoli risgiau treth TTT. Megis cychwyn mae’r gwaith hwn felly mae'n rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau pendant. Ond rydym yn falch gyda'r canlyniadau hyd yn hyn.

Rydym yn credu eu bod yn dangos bod gweithio gyda threthdalwyr ac asiantau wedi arwain at fwy o bobl yn talu'r dreth gywir. Mae'r rhesymau dros hyn fel a ganlyn:

  • lle rydym wedi nodi camgymeriadau, mae’r mwyafrif wedi bod yn awyddus i unioni pethau cyn gynted â phosibl 
  • rydym wedi eu cefnogi i unioni pethau a gweithio gyda nhw i ddeall sut y digwyddodd y camgymeriad, fel y gallwn nodi newidiadau a allai atal y camgymeriadau hyn rhag digwydd yn y dyfodol
  • mewn achosion eraill, mae gweithio'n agos gyda nhw wedi rhoi rhagor o wybodaeth i ni er mwyn dangos nad oes unrhyw risg o gwbl 
  • rydym wedi defnyddio'r wybodaeth hon i helpu i fireinio ein proffiliau risgio 

Trwy fod yn gefnogol yn y ffordd rydym yn rheoli trethi, rydym wedi meithrin mwy o ymddiriedaeth ymhlith asiantau a threthdalwyr ac mae ein sgyrsiau â nhw wedi datblygu.

Mae ein gwaith sy’n edrych ar risgiau treth newydd posibl yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn ceisio gwneud pethau’n gywir y tro cyntaf. Hyd yn oed pan fyddwn yn dod ar draws risg, mae’r rhain yn parhau i fod yn y lleiafrif o drafodiadau. Er bod ein gwaith ar risgiau treth newydd yn archwiliadol, rydym yn croesawu’r canlyniadau cychwynnol hyn.

Sut rydym yn mesur risg TTT

Rydym wedi newid ein ffyrdd o weithio ar ein risgiau treth sefydledig, felly nid yw’n bosibl cymharu’r data â’r blynyddoedd blaenorol. Mae hyn oherwydd bod gwahaniaethau yn y ffordd rydym yn cyfrif trafodiadau a allai beri risg.

Dyma sut rydym yn cyfrif trafodiadau sy’n peri risg erbyn hyn:

  • rydym yn dal i ddileu achosion lle mae ymateb y trethdalwr yn dangos bod y ffurflen dreth yn gywir 
  • nid yw nifer y trafodiadau a allai beri risg yn cael ei leihau ar unwaith i’r un graddau â’n dull blaenorol
  • yn hytrach, rydym yn cyfrif yr holl drafodiadau sy’n weddill ym mhob un o’n proffiliau risg treth fel ein mesur cychwynnol o risg treth
  • mae hyn yn parhau i’n cymell ni i ymchwilio ymhellach i’r trafodiadau hynny, ac yn y pen draw i leihau’r mesur wrth i ni fynd i’r afael ag unrhyw risg treth sy’n bresennol 

Mae’r tabl isod yn dangos y data ar gyfer ein ffordd newydd o weithio ar ein risgiau treth sefydledig. Yn y dyfodol byddwn yn gallu defnyddio hwn fel sylfaen ar gyfer y risgiau treth yn y proffiliau sefydledig hyn. Mae'n dangos cyfanswm yr achosion ar draws sawl proffil risg treth. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i asesu sut mae’r risgiau treth hynny’n newid. 

Achosion risg yn ôl proffil ers i'r dull newydd ddechrau ym mis Hydref 2023
Chwarter (Chtr) y derbyniwyd y trafodiadRisg TTT 4: triniaeth dreth gwahanol fathau o eiddoRisg TTT 5: mewn perthynas â rhyddhad penodol (rhyddhad a)Risg TTT 6: landlordiaid o bosibl yn osgoi cyfraddau uwchRisgiau eraillPob risg a nodwyd
Chtr 3 2023-24170651520275
Chtr 4 2023-2480402015155

Mae pob cyfrif yn cael ei dalgrynnu'n annibynnol i'r 5 agosaf ac efallai na fyddan nhw'n adio'n union. 

Mae tua 50 i 60 o achosion bob chwarter fyddai’n cael eu categoreiddio’n flaenorol fel risg TTT 4 wedi'u dileu ers 1 Ionawr 2024. Mae hyn oherwydd y lefel isel o bryder sy’n gysylltiedig ag agwedd benodol o’r risg ehangach. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i fonitro'r achosion hyn. 

Mae ein data yn berthnasol o 1 Hydref 2023, pan newidiwyd ein ffyrdd o weithio ar y risgiau treth sefydledig. Gallwch weld data a siartiau ar gyfer ein risgiau treth sefydledig (hyd at 30 Medi 2023) yn yr atodiad i’n hadroddiad blynyddol.

Ein prif fesur perfformiad ar gyfer risg treth yw canran y trafodiadau sy’n gywir y tro cyntaf. Mae’r newid yn ein ffyrdd o weithio, a’r risgiau treth newydd yr ydym yn eu harchwilio, yn golygu ein bod yn ailsylfaenu’r mesur hwn. Heb ystyried y newidiadau hyn, yr amcangyfrif gorau sydd gennym yw bod 97.6% o drafodiadau yn gywir y tro cyntaf. Mae hyn yn dal yn agos at gyfanswm y gyfran (bron i 98%) yr adroddwyd arni y llynedd. Rydym yn disgwyl i’r ganran hon ostwng ychydig eto’r flwyddyn nesaf wrth i’n gwaith ar risg treth newydd fagu momentwm ac wrth i ni archwilio mwy o risgiau treth.

Diogelu TTT

Diogelir treth os byddwn yn canfod fod cais i leihau’r dreth sy’n ddyledus ar drafodiad a wnaed dros flwyddyn ar ôl cyflwyno’r ffurflen dreth yn annilys neu’n anghywir. Pan fyddwn o’r farn fod eu cais yn annilys neu’n anghywir, rydym yn ceisio gweithio gyda threthdalwyr er mwyn lleihau'r hawliad i ddim. Pan nad yw hyn yn bosibl, rydym yn agor ymholiad treth.

Rydym wedi cynyddu gweithgarwch diogelu treth yn sylweddol yn ystod y flwyddyn, fel y dangosir yn siart 1. Caewyd bron i 100 o achosion, gan ddiogelu bron i £900,000 o dreth – mwy na dwbl y cyfanswm a ddiogelwyd yn 2022 i 2023

Siart 1: Nifer a gwerth yr achosion lle diogelwyd treth TTT

Image
Defnyddia Siart 1 2 linell ar yr echelin chwith i ddangos cyfanswm yr achosion o TTT sy’n cael eu diogelu, drwy ymholiad llawn neu ymyrraeth ataliol, a bariau ar yr echelin dde i ddangos cyfanswm gwerth y dreth a ddiogelir ym mhob un o’r rhain yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Mawrth 2024. Cynyddodd nifer yr achosion yn sylweddol yn ystod 2022-23 a 2023-24, gydag achosion atal yn dod yn nodwedd amlycach yn ystod 2023-24, ar ôl dechrau ar ddiwedd 2022-23. Mae lefel y dreth a ddiogelir yn dilyn tueddiadau tebyg

Rydym wedi canolbwyntio ar ddau faes yn ein hymdrechion i ddiogelu trethi:

1. Mynd i'r afael â hawliadau annilys

Mae nifer o'r achosion hyn yn ymwneud â hawliadau annilys bod eiddo yn adfeiliedig ar adeg eu prynu. Os yw tystiolaeth yn dangos bod y meini prawf ar gyfer eiddo adfeiliedig yn cael eu bodloni, y cyfraddau amhreswyl rhatach fyddai’n berthnasol. 

Daethom yn ymwybodol o niferoedd cynyddol o gynlluniau marchnata, gan asiantau trydydd parti, sy’n annog trethdalwyr i wneud cais am ad-daliad treth. Yn aml iawn nid oedd gan drethdalwyr hawl i gael ad-daliad. Ym mron pob achos lle rydym wedi gweithredu, llwyddwyd i ddiogelu treth a lleihau’r hawliad i ddim. Byddem yn annog unrhyw asiant neu drethdalwr i gysylltu â ni os ydynt yn ansicr ynglŷn â’u sefyllfa dreth. Byddai hyn yn ein helpu ni – a’r trethdalwr – i wneud pethau’n iawn yn gynt. 

Gwnaethom fuddsoddi adnoddau sylweddol yn y gwaith hwn. Roedd hynny’n bwysig gan fod angen i ni gymryd camau i gywiro materion os yw pobl yn gwneud pethau'n anghywir. Rydym yn archwilio ffyrdd newydd y gallwn atal, yn systematig, yr honiadau annilys hyn rhag cael eu gwneud yn y lle cyntaf. Byddai’r newid hwn o fudd i’r trethdalwr ac i ninnau.

2. Newid ein prosesau

Gwnaethom roi cynnig ar ffordd newydd er mwyn osgoi’r angen i agor ymholiad treth. Treialwyd hyn er mwyn i ni allu canolbwyntio mwy ar gefnogi pobl i gael y dreth yn gywir. 

Galluogodd y broses newydd hon ni i ddefnyddio adnoddau’n fwy effeithlon a chanolbwyntio mwy ar gefnogi pobl i gael y dreth yn gywir. Cysylltwyd â threthdalwyr pan nodwyd bod eu hawliad yn anghywir er mwyn egluro’r sefyllfa a cheisio dod i gytundeb i leihau eu hawliadau i ddim. Cafwyd rhywfaint o ganlyniadau cadarnhaol o ganlyniad i’r gwaith hwn, fel y dangosir gan y lliw glas golau ar siart 1. Mae’n fwy effeithlon gweithio fel hyn, a gallwch weld o’r siart ein bod wedi gweithio ar nifer uchel iawn o achosion diogelu yn Chwarter 3 2023 i 2024. 

Mae trethdalwyr wedi croesawu’r ffordd hon o weithio, a byddwn yn parhau i’w defnyddio er mwyn helpu i leihau nifer yr ymholiadau yn y dyfodol.

Adennill TTT 

Caiff treth ei hadennill os byddwn yn gweld nad yw’r swm cywir o dreth wedi’i thalu, ac rydym yn cymryd camau i sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei thalu’n llawn. Bu gweithgarwch sylweddol i adennill treth yn ystod y 6 blynedd diwethaf, gyda dros £6.5 miliwn wedi’i hadennill ar draws 1,000 o achosion ers 1 Ebrill 2019. 

Mae swm y dreth sydd wedi ei ddychwelyd yn llawer llai. Ond mae’n dal i fod yn arwyddocaol, ac mae’n bwysig nodi’r pwynt hwn yn ein nod o fod yn deg ac o sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei thalu. 

Yn achlysurol iawn mae risg yn arwain at ffigwr treth is, a byddwn yn dychwelyd y dreth a ordalwyd i’r trethdalwr. Mae gennym broffil risg i edrych yn rhagweithiol o’r dechrau am achosion lle mae’n ymddangos bod treth wedi’i gordalu, sy’n bwysig er mwyn sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu ar yr adeg gywir. Neu, gall gwybodaeth newydd ddod i'r amlwg yn ystod ymholiad sy'n cadarnhau bod angen dychwelyd treth. Gallwch weld y gwaith rydym wedi’i wneud eleni yn siart 2.

Siart 2: Nifer a gwerth yr achosion lle cafodd treth TTT ei hadennill neu ei dychwelyd

Image
Siart 2: mae 2 linell ar y chwith i ddangos cyfanswm y niferoedd lle cafodd TTT ei hadennill / dychwelyd, a bariau ar y dde i ddangos cyfanswm y dreth wedi’i hadennill / dychwelyd, fesul chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2024. Bu amrywio yn yr achosion adennill treth, a’r gwerthoedd cysylltiedig ond bu llai o hyn trwy’r chwarteri diweddarach â thua 40 achos adennill treth gwerth 250-400k ym mhob un ar gyfartaledd. Roedd y mesurau treth a ddychwelwyd yn is, â brig yn 2022-23 cyn dychwelyd i lefelau is 2023-24

Sut rydym yn cyfrifo treth sydd wedi’i hadennill

  • Rydym yn olrhain adennill treth drwy gyfrifo cyfanswm y dreth ychwanegol sy’n ddyledus o’r achosion lle mae’r ymholiadau wedi cau.
  • Rydym yn crynhoi cyfanswm y dreth sydd wedi’i hadennill fesul chwarter pan fo’r diwygiad yn cael ei wneud. Mae hyn yn annhebygol o fod yn yr un chwarter ag y nodir y risg, gan ei bod yn cymryd amser i ymchwilio a chytuno ar y dreth ychwanegol sy’n ddyledus.

Siart 2: Nifer a gwerth yr achosion lle cafodd treth TTT ei hadennill neu ei dychwelyd

Mae Siart 2 yn dangos bod y proffil adennill treth dros amser yn amrywio, o ran nifer y trafodiadau yr ydym wedi adennill treth ychwanegol ohonynt a swm y dreth sydd wedi’i hadennill. Mae hyn oherwydd bod rhai risgiau treth yn fwy cymhleth nag eraill, ac mae gan rai risgiau treth werthoedd uwch o dreth sy'n anghywir.

Er enghraifft, yn 2019 i 2020 roedd y rhan fwyaf o’r gweithgarwch yn ymwneud â risgiau symlach mewn achosion ag iddynt werthoedd is, ac y gwnaethom eu hatal. Ers hynny, mae llawer o’r achosion adennill treth wedi bod yn fwy cymhleth, ac yn aml â gwerth uwch. Er gwaethaf y cymhlethdod ychwanegol, roedd cyfanswm ein gwaith adennill treth yn 2023 i 2024 bron yn £1.5 miliwn – swm tebyg i’r brig a welwyd yn 2019 i 2020.

TGT

Rydym yn rheoli TGT trwy dîm penodedig o reolwyr cysylltiadau cwsmeriaid sy'n gweithio'n agos gyda'r 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru i'w helpu i gael eu treth yn gywir o'r cychwyn cyntaf. Mae ein rheolwyr cysylltiadau cwsmeriaid yn gweithredu fel un pwynt cyswllt o fewn ACC er mwyn i’r gweithredwyr safleoedd tirlenwi allu mynd atynt gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon. Mae’r system hon yn ein helpu i ddeall model busnes unigryw pob gweithredwr safle tirlenwi a nodi a lliniaru risgiau drwy weithio’n agos gyda nhw.

Er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, rydym wedi adeiladu partneriaeth strategol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n ein galluogi i rannu gwybodaeth a defnyddio eu harbenigedd yn y sector gwastraff a’u harbenigedd amgylcheddol. 

Mae 3 cyfradd o TGT: 

  • y gyfradd is, ar gyfer deunydd penodol fel cerrig a phridd 
  • y gyfradd safonol, ar gyfer yr holl ddeunydd arall a waredir mewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig 
  • y gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi, ar gyfer deunydd a waredir y tu allan i safleoedd tirlenwi awdurdodedig

Llywodraeth Cymru sy'n gosod cyfraddau TGT. Mae'r gyfradd anawdurdodedig yn unigryw i Gymru. Fe’i gosodir ar 150% o’r gyfradd safonol ac fe’i telir gan unigolion neu fusnesau sy’n gwneud gwarediad anawdurdodedig yn hytrach na gweithredwyr safleoedd tirlenwi sy’n rhedeg safleoedd awdurdodedig. Gellir codi treth ar berson neu fusnes ar y gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi os ydynt naill ai: 

  • yn gwaredu gwastraff heb awdurdod, neu 
  • wedi achosi neu ganiatáu i'r gwarediad anawdurdodedig gael ei wneud, gan wybod eu bod yn gwneud hynny. 

Oherwydd y nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi sydd yng Nghymru ni allwn rannu’r un lefel o wybodaeth yn ein hadroddiadau ar y TGT ag y gallwn ar TTT, gan y byddai perygl i hyn ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwyr. 

Risg TGT

Yn ystod 2023 i 2024 cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau i sicrhau bod y swm cywir o TGT yn cael ei thalu ar yr adeg iawn.

Rydym wedi cydweithio gyda gweithredwyr safloedd tirlenwi er mwyn:

  • cynnal ymweliadau safle 
  • ateb ymholiadau 
  • trafod risgiau posibl 
  • deall eu modelau busnes
  • eu cefnogi i wneud pethau’n gywir y tro cyntaf 

Rydym wedi parhau i ddefnyddio’r data a gasglwyd ar y ffurflen dreth fanylach a gyflwynwyd gennym yn 2021 i 2022 er mwyn: 

  • adnabod risgiau a sut mae cwsmeriaid yn symud rhwng safleoedd tirlenwi 
  • diweddaru asesiadau risg 
  • diweddaru proffiliau risg i sicrhau ein bod yn nodi ac yn mynd i’r afael ag unrhyw risgiau newydd

Helpodd y data a gasglwyd gennym ni i gael gwell dealltwriaeth o safleoedd tirlenwi cofrestredig. Mae hefyd wedi ein cynorthwyo i liniaru risgiau a chymryd camau i adennill treth. 

Rydym hefyd wedi datblygu strategaeth ar y cyd â CNC ar gyfer y cyfnod 2023 i 2026, er mwyn gwneud y mwyaf o effaith ein pwerau a’n harbenigedd ategol. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ddau faes allweddol o risg treth TGT: cam-ddisgrifio a gwarediadau anawdurdodedig. Mae’n amlinellu’r hyn y byddwn yn ei wneud ar y cyd i fynd i’r afael â’r risgiau hyn a sut y byddwn yn cyflawni’r gwaith hwnnw.

1. Camddisgrifio

Mae camddisgrifio’n digwydd pan ddisgrifir gwastraff fel gwastraff sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer y gyfradd is pan ddylai gael ei drethu ar y gyfradd safonol uwch. 

Gwnaethom gynnydd da ar nifer o ymholiadau treth yn ystod y flwyddyn. Roedd y rhan fwyaf, ond nid pob un, o'r ymholiadau hyn yn cynnwys camddisgrifio gwastraff. 

Cefnogodd CNC ein hymholiadau drwy rannu gwybodaeth a gasglwyd ganddynt a fyddai’n berthnasol i’n hachosion a thrwy ddarparu arbenigedd amgylcheddol.

NRW supported our enquiries by sharing information it has collected that would be relevant to our cases and providing environmental expertise.

2. Gwarediadau anawdurdodedig

Gwnaethom barhau i fynd i'r afael â'r risg o warediadau anawdurdodedig drwy ymchwilio i achosion a chodi treth. 

Rydym yn derbyn achosion trwy atgyfeiriadau gan CNC. Er mwyn cynyddu’r nifer o atgyfeiriadau a dderbyniwyd, gwnaethom gydweithio ar gyfathrebu mewnol i godi ymwybyddiaeth o TGT ymhlith staff CNC. Arweiniodd hyn at fwy o atgyfeiriadau i'n tîm TGT.

Rydym yn canolbwyntio ar yr achosion hynny sy'n achosi'r niwed amgylcheddol mwyaf neu’r rhai sy’n tanseilio busnesau gwastraff cyfreithlon. Drwy godi treth rydym yn gobeithio newid ymddygiad er mwyn gwella canlyniadau i’r amgylchedd, cymunedau lleol a threthdalwyr sy’n gwneud y peth iawn.

Amseroldeb cyflwyno ffurflenni treth a thaliadau TTT

Rydym yn mesur amseroldeb drwy edrych ar nifer y ffurflenni treth a gyflwynwyd mewn pryd, a nifer y taliadau a wnaed ar amser. Yn ystod y flwyddyn: 

  • cafodd bron i 99% o’r ffurflenni treth eu ffeilio ar amser, hynny yw o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y daeth y trafodiadau i rym 
  • ar gyfartaledd, cafodd bron i 97% o'r ffurflenni treth eu talu o fewn 30 diwrnod.
  • rhoddwyd y gorau i ddefnyddio ffurflenni treth papur TTT ar gyfer asiantau er mwyn sicrhau bod ffurflenni’n cael eu prosesu mewn amser real, gan ddarparu arbedion effeithlonrwydd a gwella cywirdeb 
Image
Roedd amseroldeb ffeilio bron yn 99% eleni, gyda chyfartaledd o bron 97% o'r ffurflenni treth wedi'u derbyn o fewn 30 diwrnod.

Rydym yn cydnabod mai amseroldeb ein trethdalwyr a’n hasiantau sy’n gyfrifol am lwyddiant y mesurau hyn, ac rydym yn diolch i’r mwyafrif sy’n ffeilio ac yn talu ar amser.

Dyled

Os na fyddwn yn derbyn taliad TTT o fewn 30 diwrnod i'r trafodiad, bydd yn troi’n ddyled. Rydym yn ceisio datrys hyn drwy gysylltu â’r trethdalwr a’r asiant i dalu’r ddyled. O ganlyniad i'r gweithgaredd hwn, gwnaethom ddatrys:

  • 88% o'r dyledion hyn o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad y daeth yn ddyled 
  • 96% o'r dyledion hyn o fewn 90 diwrnod i'r dyddiad y daeth yn ddyled 

Gwnaethom yn well na’n targed o ddatrys mwy na 90% o ddyledion o fewn 30 diwrnod iddynt ddod yn ddyled ym 5 o’r 12 mis yn 2023 i 2024. 

Gostyngodd y mesur o dan 80% ar un achlysur. Mae hyn oherwydd i ni roi’r gorau i’n prosesau dyledion am gyfnod dros y Nadolig. Dychwelodd ein perfformiad yn nes at ein lefelau arferol ym mis Ionawr 2024. 

Yn fwy cyffredinol, mae nifer yr achosion o ddyled yn parhau ar y lefelau isel a welwyd tua diwedd y flwyddyn flaenorol. Er ein bod yn croesawu niferoedd isel o achosion o ddyled, mae'n golygu y gall y tueddiadau yn y dangosydd hwn fod ychydig yn anwadal oherwydd y niferoedd bach sydd ar gael. Byddwn yn ystyried mesurau newydd ar gyfer dyledion yn ein cynllun corfforaethol nesaf.

Amseroldeb ad-daliadau

Rydym yn dadansoddi ad-daliadau mewn 2 ffordd: drwy edrych ar nifer yr ad-daliadau cyfradd uwch a dadansoddi ad-daliadau eraill.

1. Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan nad yw eiddo a brynir gennych yn dod yn brif breswylfa i chi yn syth, rydych yn talu cyfradd uwch o TTT. Os byddwch yn gwerthu eich prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd ac mae’r eiddo newydd yn dod yn brif breswylfa i chi, fel arfer gallwch hawlio ad-daliad o elfen cyfraddau uwch y dreth a dalwyd. Ein nod yw lleihau faint o amser y mae'n ei gymryd i wneud ad-daliadau ar ôl eu cymeradwyo. 

Gwnaethom dalu 94% o’r ad-daliadau cyfradd uwch o fewn 30 diwrnod o dderbyn yr hawliad, ychydig yn is na'n hystod darged o 95% i 100%. Ar gyfartaledd, 9 diwrnod a gymerwyd i wneud yr ad-daliadau. 

Gostyngodd ein perfformiad yn is na’r lefelau hyn ym mis Tachwedd a Rhagfyr oherwydd cafodd adnoddau eu hadleoli ar gyfer gweithgareddau eraill am gyfnod. Dychwelodd y ffigwr hwn i’r lefel arferol ar ddiwedd y flwyddyn wrth i lefelau’r adnoddau gael eu hadfer. 

Yn ystod y flwyddyn gyfan, talwyd o leiaf 98% o'r ad-daliadau o fewn 60 diwrnod. Yn y rhan fwyaf o achosion lle na chafodd y targed ei gyrraedd, roeddem yn aros am wybodaeth gan y trethdalwr. Oherwydd hyn, credwn fod yr agwedd hon ar ein gwasanaeth ad-dalu yn gweithio'n effeithlon ac yn deg.

2. Ad-daliadau eraill

Mae ein cynllun corfforaethol cyfredol yn cyfeirio at berfformiad ar bob ad-daliad. Er mai’r cyfraddau uwch sydd i gyfrif am oddeutu 80% o'r holl ad-daliadau, mae'r 20% arall o achosion yn bwysig i ni hefyd gan ein bod eisiau sicrhau bod pawb yn talu’r dreth gywir.

Mae amrywiadau yn y ffordd rydym yn cofnodi’r achosion hyn yn ei gwneud hi’n anodd gwirio’r amser a gymerir i wneud ad-daliadau unigol. Nid yw’r her yma’n bodoli ar gyfer ad-daliadau cyfradd uwch gan mai un math o achos sydd, sy’n caniatáu i ni uno’r data. Yn hytrach, ar gyfer ad-daliadau eraill, rydym yn defnyddio sampl o achosion i fesur yr agwedd hon ar ein perfformiad. Mae'r tueddiadau a ddaw yn sgil y gwaith samplu y gallwn ei gyflawni’n gywir yn golygu nad ydym wedi ymestyn ein targed i gwmpasu'r agwedd hon. Fodd bynnag, mae ein data yn rhoi hyder i ni ein bod yn gweithredu’n effeithlon ac yn deg wrth reoli’r ad-daliadau hyn.

Awtomeiddio

Rydym wedi ymrwymo i fod mor effeithlon â phosibl a chynnig gwerth am arian wrth ddarparu ein gwasanaethau treth. Rydym yn defnyddio awtomeiddio er mwyn helpu i gyflawni hyn.

Rydym wedi awtomeiddio 94% o’n trafodiadau.

Image
Rydym wedi ymrwymo i fod mor effeithlon â phosibl - eleni, roedd 94% o'n trafodiadau yn rhai awtomataidd.

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi rhoi’r gorau i dderbyn taliadau siec oherwydd bod ein data’n dangos bod tipyn yn llai nag 1% o daliadau'n cael eu talu â siec. Gwnaethom ymgysylltu ag asiantau ynglŷn â’r newid hwn ymlaen llaw. Rydym yn diolch i’r rhai sydd wedi newid i fod yn gwbl ddigidol am weithio gyda ni i wneud hyn yn bosibl. 

Mae’r heriau yr ydym dal yn eu hwynebu er mwyn cyrraedd ein hystod darged o ran awtomeiddio yn ymwneud yn bennaf â pharu taliadau electronig a dderbyniwyd â thrafodiadau. Er mwyn rheoli hyn, rhoddwyd gwelliant i’n proses baru ar waith ym mis Hydref 2023 a ddylai arwain at gyfradd uwch o baru taliadau’n awtomatig. Rydym yn gobeithio y bydd hyn, yn y dyfodol, yn dod â ni yn nes at gyrraedd ein targed uchelgeisiol o awtomeiddio 98% i 100% o’r holl drafodiadau.

Ymateb i anghenion defnyddwyr

Rydym wedi adeiladu ein gallu mewnol o gwmpas datblygiad digidol. Yn ystod y flwyddyn aethom ati i wneud gwelliannau i’n systemau allanol er mwyn helpu i wella’r profiad i’n defnyddwyr. Roedd hyn yn cynnwys ein cyfrifianellau treth. 

Astudiaeth achos: gwneud ein cyfrifiannell TTT yn hygyrch

Rydym yn gwybod bod trethdalwyr, asiantau, a’r cyhoedd weithiau, yn defnyddio'r cyfrifianellau treth ar ein gwefan. Mae ein cyfrifianellau yn cynnwys ein cyfrifiannell treth trafodiadau tir, y gyfrifiannell rhyddhad anheddau lluosog (MDR) a’r gwiriwr cyfraddau uwch. 

Mae rhai aelodau o'r cyhoedd yn eu defnyddio i amcangyfrif y gyfradd TTT sy’n daladwy, felly roeddem eisiau sicrhau bod ein holl gyfrifianellau allanol yn hygyrch.

Rydym yn comisiynu'r Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) i gynnal adolygiad ac i rannu eu hargymhellion. Roeddem eisiau sicrhau bod ein cyfrifianellau yn bodloni’r safonau hygyrchedd a amlinellir yn y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG). 

Yn ôl y gyfraith, roedd angen i ni fodloni safonau AA WCAG 2.1. Gwnaethom gydweithio gyda DAC i sicrhau bod gennym ddealltwriaeth drylwyr o anghenion amrywiol ein defnyddwyr. Gwnaethom nifer o newidiadau, gan gynnwys: 

  • diweddaru'r drefn ffocws ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd yn unig 
  • gwella’r cyferbynnedd lliw 
  • rhoi blychau ticio a botymau radio wedi’u haddasu ar waith 

O ganlyniad i'r newidiadau hyn, aethom y tu hwnt i’r gofynion gan lwyddo i gyrraedd Lefel AAA. Dyma'r safon uchaf posibl. Gwnaethom hefyd feithrin gwybodaeth am hygyrchedd y we y gellid ei chymhwyso i ddatblygiad digidol yn y dyfodol.

Daeth yr adborth cyffredinol canlynol i law gan aelod o’r cyhoedd am ein cyfrifiannell TTT:

"Diolch, roedd yn hawdd iawn ac yn syml i'w ddefnyddio. Rwy’n credu y byddai'n anodd iawn ei wella. 10 allan o 10. Defnyddiwr hapus iawn."

Adborth ar ein gwasanaethau

Rydym bob amser yn annog asiantau a threthdalwyr i rannu adborth ar ein gwasanaethau. Rydym yn croesawu adborth er mwyn nodi beth sy'n gweithio fel ein bod yn parhau i wella. Rydym yn croesawu’n arbennig adborth am yr hyn sydd ddim yn gweithio, fel y gallwn ei gywiro neu wella ein gwasanaeth lle bynnag y bo modd.

Rydym yn gwahodd adborth defnyddwyr trwy ffurflenni adborth ar nifer o'n gwasanaethau. Mae ein data yn cynnwys y rhai sydd wedi ymateb i arolygon adborth ac efallai nad ydynt yn cynrychioli pob defnyddiwr.

Rydym yn casglu’r adborth hwn er mwyn olrhain sut rydym yn perfformio ac i nodi meysydd y gellid eu datblygu neu eu gwella. Mae rhai o’r uchafbwyntiau yn cynnwys:

  • roedd sgôr ein gwasanaeth unigol yn amrywio o 90% i 97%
  • ar gyfartaledd, roedd 93% o’r rhai a ymatebodd yn ei chael hi'n hawdd defnyddio ein gwasanaethau
  • cofnodwyd brig o 96% yn y cyfartaledd hwn ym misoedd Mehefin, Medi a Rhagfyr
Image
Eleni, ar gyfarfaledd, roedd 93% o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg o’r farn ei bod yn hawdd defnyddio ein gwasanaethau.

Hoffem gloi’r adran hon drwy gydnabod defnyddwyr ein gwasanaeth. A diolch yn arbennig i bawb a gysylltodd â ni i rannu eu hadborth. Rydym am barhau â’r gwaith ymgysylltu hwn er mwyn sicrhau ein bod yn gwella ein gwasanaethau’n barhaus ac yn cadw ein trethdalwyr a’n hasiantau wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Perfformiad 'Ein siarter'

Rydym yn awyddus i weithio gyda'n gilydd i ddarparu system dreth deg i Gymru. Rydym wedi datblygu ein siarter er mwyn ein helpu i wneud hyn.

Mae ein siarter yn cynnwys y gwerthoedd, ymddygiadau a safonau a rennir a ddatblygwyd gyda threthdalwyr, asiantau, sefydliadau eraill a'r cyhoedd. Mae 8 ohonynt i gyd.

Image
Diagram siâp cylch sy'n dweud "gweithio gyda'n gilydd i ddarparu system dreth deg i Gymru" yn y canol. Mae cylchoedd llai o amgylch y canol sy'n dweud: diogel; ymatebol; dwyieithog; manwl gywir; effeithlon; ymgysylltiol; teg; a cefnogol.

 

Rydym yn esbonio'r hyn a wnaed ar gyfer pob un o'r rhain yn ystod y flwyddyn 2023 i 2024.

Gwerth 1: Diogel – gwarchod gwybodaeth a pharchu cyfrinachedd

  • Gweler yr adrannau 'Sut rydym yn rheoli gwybodaeth a llywodraethiant' a 'Seibergadernid’ yn ein datganiad llywodraethiant am ragor o fanylion. 

Gwerth 2: Cefnogol – darparu cymorth pan fyddwch yn gofyn am help. Creu gwasanaethau digidol effeithiol sy’n hawdd eu defnyddio

  • Rydym wedi parhau i wella ein canllawiau, ein ffurflenni a’n gwasanaethau digidol trwy gymhwyso sgiliau dylunio cynnwys i’w gwneud hyd yn oed yn fwy hygyrch. 
  • Cynhaliwyd 6 gweminar yn cynnig hyfforddiant i asiantau ar amrywiaeth o bynciau.
  • Cynhaliwyd ein fforwm treth wyneb yn wyneb cyntaf ers coronafeirws (COVID-19), ac roedd nifer dda o asiantau yn bresennol. 

Gwerth 3: Teg – bod yn onest wrth ddelio â'n gilydd. Mynd i'r afael ag efadu ac osgoi trethi, defnyddio pwerau’n gyson ac yn gymesur

  • Rydym wedi parhau i reoli risg treth a datblygu proffiliau risg, gan sicrhau tegwch a chysondeb ar draws y system dreth. Rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu proffiliau risg treth newydd. Pan welwn fod pobl wedi talu gormod o dreth, byddwn yn rhoi gwybod iddynt.
  • Rydym wedi cefnogi pobl i unioni pethau pan fo camgymeriadau wedi’u gwneud. Lle ceisiodd pobl efadu neu osgoi talu’r swm llawn, nodwyd yr achosion hynny a chymerwyd camau i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu er mwyn diogelu refeniw.
  • Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ein gwaith ar warediadau anawdurdodedig.

Gwerth 4: Ymgysylltiol – cefnogi pobl i ddeall trethiant datganoledig a gweithio gyda'n gilydd i'w ddatblygu er budd Cymru

  • Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y llywodraeth mewn cynadleddau a digwyddiadau ehangach, gan sicrhau dealltwriaeth o’n safbwynt a'r cyfleoedd a ddarperir gan ddatganoli trethi.
  • Rydym wedi cyfathrebu â nifer o'n defnyddwyr gwasanaeth er mwyn gwella'r hyn yr ydym yn ei gynnig.
  • Rydym wedi ymgysylltu â nifer o ddarpar ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr ardoll ymwelwyr yn ystod ein gwaith darganfod, gan gynnal ymchwil i ddeall sut y byddwn yn llunio’r gwasanaeth.

Gwerth 5: Ymatebol – gwrando ar ein gilydd a bod yn agored yn ein sgyrsiau, gweithredu ar yr adborth a'r cyngor a roddir. Trin ein gilydd â pharch

  • Rydym wedi gwrando ac ymateb i’r adborth er mwyn gwella ein gwasanaethau ymhellach. Gweler yr adran 'Dadansoddiad o berfformiad' am ragor o wybodaeth.
  • Rydym wedi ystyried llesiant ein pobl wrth ailflaenoriaethu ein gwaith i ddiwallu anghenion newidiol y sefydliad. Gweler yr adran 'Dadansoddiad o berfformiad'.

Gwerth 6: Dwyieithog– bod â’r hyder i gynnal ein busnes yn y Gymraeg a'r Saesneg

  • Rydym wedi parhau i ddarparu ein gwasanaethau i gwsmeriaid yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Rydym wedi annog ein pobl i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg a chynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn hyfforddiant iaith Gymraeg wedi’i ariannu yn y gwaith.

Gwerth 7: Manwl Gywir – cydweithio i wneud pethau'n iawn a'u cywiro os oes angen, rhannu data a gwybodaeth gywir, gan gymryd gofal rhesymol i osgoi camgymeriadau Cadw cofnodion manwl gywir

  • Mae’r adran 'Dadansoddiad o berfformiad' yn esbonio mwy am ein gwaith. Er enghraifft, rydym wedi parhau i reoli risg treth a helpu pobl i wneud llai o gamgymeriadau gyda rhyddhad anheddau lluosog (MDR) a chynnig gwasanaethau desg gymorth ac opiniwn treth parhaus. Roedd bron i 98% o'r trafodiadau TTT yn gywir ar y cynnig cyntaf.

Gwerth 8: Effeithlon – ymateb i'n gilydd yn gyflym, cyflwyno ffurflenni a phrosesu ceisiadau yn brydlon. Canfod ffyrdd y gallwn ni wella'r gwasanaeth

  • Mae’r adran 'Dadansoddiad o berfformiad' yn esbonio mwy am ein gwaith. Er enghraifft, telir dros 94% o ad-daliadau cyfraddau uwch o fewn 30 diwrnod, ac rydym wedi gwneud gwelliannau mewn meysydd fel awtomeiddio.

Rheolwyr Awdurdod Cyllid Cymru

Ein Bwrdd

  • Ruth Glazzard, Cadeirydd Anweithredol.
  • Jocelyn Davies, Dirprwy Gadeirydd Anweithredol (Dros dro).
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol. 
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol. 
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol.
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr. 
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu/Cyfarwyddwr Gwasanaethau.
  • Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig (tan fis Hydref 2023).
  • Zoe Curry, Aelod Staff Etholedig (o fis Hydref 2023).

Ein Tîm Arwain (Pwyllgor Gwaith)

  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu. 
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu/Cyfarwyddwr Gwasanaethau.
  • David Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu.
  • Carl Alexis, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu. 
  • Robert Jones, Prif Swyddog Cyllid (tan Hydref 2023).
  • Nicola Greenwood, Pennaeth Cyllid/Dirprwy Brif Swyddog Cyllid (o fis Hydref 2023).

Adroddiad ariannol

Cyfrifon adnoddau

Rydym yn derbyn dyraniad cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru i ariannu ein gwariant. Rydym yn gosod cyllideb gwariant bob blwyddyn yn seiliedig ar y gweithgareddau rydym yn bwriadu ymgymryd â nhw er mwyn gweithredu ein cynllun corfforaethol. Mae'r gyllideb wedi'i rhannu'n swyddogaethol i'r meysydd eang canlynol:

  • costau staff, gan gynnwys dysgu a datblygu
  • costau gweithredol casglu'r trethi, camau gorfodi a chudd-wybodaeth am ddata
  • costau rhedeg corfforaethol, megis adnoddau dynol (AD), technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), cyfleusterau, llywodraethiant, a chyngor cyfreithiol
  • newid busnes i sicrhau gwelliant parhaus i systemau digidol a phrosesau gweithredol i gefnogi prosesau newydd a newid deddfwriaeth trethi

Caiff y cyllid a ddyrennir i’n sefydliad ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru ei nodi yn y tabl isod.

Cyllid a ddyrannwyd ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru
Ffrwd cyllid

Dyraniad 
cyllid 
2023-24

£000

Cyllid a dynnwyd 2023-24

£000

Dyraniad cyllid 2022-23

£000

Cyllid a dynnwyd 2022-23

£000

Refeniw8,1177,8676,9426,941
Cyfalaf350350119115
Cyfanswm y dyraniad cyllid8,4678,2177,0617,056
Gwariant ar gyfer 2023 i 2024
 2023-24
£000
2022-23
£000
Costau staff 5,5285,157
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff163113
Costau gweithredu eraill2,0491,574
Dibrisiant5945
Amorteiddiad5556
Gwariant gweithredu net7,8546,945

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi casglu trethi ar ran Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y tabl isod.

Trethi datganoledig
 2023-24
£000
2022-23
£000
2021-22
£000
Treth Trafodiadau Tir269,893372,106402,245
Treth Gwarediadau Tirlenwi29,71842,01445,334
Cyfanswm y trethi a'r refeniw299,611414,120447,579

Cyfrifon blynyddol ACC 2023 i 2024

Rydym wedi prosesu dros 49,900 o ffurflenni TTT (2022 i 2023: 59,500).

O'r ffurflenni hyn:

  • arweiniodd 50% at rwymedigaeth a oedd angen ei dalu (2022 i 2023: 58%)
  • cynhyrchodd hyn incwm refeniw net o £269.89 million mewn TTT ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru (2022 i 2023: £372.10 miliwn).
Symiau o arian parod net a reolwyd
 2023-24
£000
2022-23
£000
Arian net a gasglwyd300,270418,600
Arian parod a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru298,000422,000

Bydd gweddill yr arian parod yn cael ei gadw ar gyfrif a'i dalu yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Adroddiad Atebolrwydd

Datganiad o gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, mae gan y Prif Weithredwr, Dyfed Alsop, gyfrifoldeb personol am:

  • warchod arian cyhoeddus yn briodol
  • gweithrediadau a rheolaeth yr Awdurdod o ddydd i ddydd
  • sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru

O dan adrannau 29 (1) (b) a 30 (1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (DCRhT) 2016, mae Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo ACC i baratoi ein cyfrifon adnoddau a'n datganiad treth ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon.

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau ac mae'n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa ACC ac o'i alldro adnoddau net, ei ddefnydd o adnoddau, newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a llifau arian parod am y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi'r cyfrifon, mae'n ofynnol i'r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM), a rhaid iddynt yn enwedig:

  • ufuddhau i'r cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson 
  • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol 
  • nodi os dilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol fel y'u nodwyd yn y FReM neu beidio, gan ddatgelu ac egluro unrhyw wyriadau perthnasol yn y cyfrifon
  • paratoi'r cyfrifon ar sail busnes gweithredol
  • cadarnhau bod yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn ei gyfanrwydd, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon a'r barnau sy'n angenrheidiol ar gyfer pennu ei fod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Yn ogystal, rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu sicrhau bod y datganiad treth yn cael ei baratoi yn unol ag adran 25 o'r DCRhT er mwyn:

  • dangos y symiau sy'n dderbyniadwy o gasglu trethi, cosbau ac incwm arall; unrhyw ddidyniadau a ganiateir, a'r symiau a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru
  • datgelu gwybodaeth am unrhyw wariant neu incwm o bwys na chafodd ei ddefnyddio i'r dibenion y'u bwriadwyd gan Lywodraeth Cymru neu drafodiadau perthnasol nad ydynt wedi cydymffurfio â safonau’r awdurdodau sy'n eu rheoli

Mae dyletswyddau Swyddog Cyfrifyddu yn cynnwys derbyn y cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra'r cyllid cyhoeddus y mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn atebol amdano, am gadw cofnodion priodol ac am ddiogelu asedau ACC, ac fe’u nodir ym Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu, y Ddogfen Fframwaith a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru. 

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, rwy'n cadarnhau:

  • fod y Cyfrifon Blynyddol yn eu cyfanrwydd ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 yn deg, yn gytbwys, ac yn ddealladwy
  • fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn rhesymol;
  • wrth gynhyrchu'r cyfrifon hyn, rwyf wedi ymgynghori'n eang, gan geisio adborth a sylwadau a sicrwydd gan Fwrdd Rheoli ACC, gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC), gan yr archwilwyr mewnol ac aelodau o'r tîm staff ehangach;
  • fy mod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod ein harchwilwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth honno

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
18 Medi 2024

Datganiad llywodraethu

Mae DCRhT 2016 yn fy nynodi'n Swyddog Cyfrifyddu, ac mae manylion fy nghyfrifoldebau wedi'u hatodi yn y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru.

Image
Ein Fframwaith Llywodraethiant: Gweinidogion Cymru - Gosod amcanion a blaenoriaethau. Swyddog Cyfrifyddu - Yn darparu sicrwydd o ran safonau llywodraethiant, rheolaeth ariannol a risgiau corfforaethol. Y Bwrdd - Yn darparu arweiniad, cefnogaeth a her. Y Tîm Arwain (Gweithredol) - Yn gosod cyfeiriad strategol yn unol â'r cynllun corfforaethol ac yn goruchwylio newidiadau.  ARAC - Yn darparu sicrwydd a chraffu o ran rheolaeth, rheoli risg, rheolaeth ariannol a llywodraethiant. Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariann

Ein Bwrdd

Mae ein Bwrdd yn cynnwys mwy o aelodau anweithredol nac aelodau gweithredol, ac mae'n cynnwys y Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Gweithredu ac aelod staff etholedig.

Mae'r Bwrdd ar y cyd yn atebol am ACC ac maent yn darparu arweinyddiaeth er mwyn sicrhau safon effeithiol o lywodraethu:

  • mae'r swyddogaethau ar gyfer y trethi datganoledig a reolir gennym yn cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr 
  • mae'r Prif Weithredwr yn dirprwyo trwy strwythur pwyllgor gweithredol, gan wneud penderfyniadau yn unol â'r cynllun corfforaethol 
  • mae'r Bwrdd yn darparu her a chyngor ar ein strategaeth, ein gallu a'n perfformiad ac mae, ynghyd â’r Swyddog Cyfrifyddu, yn cael ei gefnogi gan: 
  • ARAC (Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg) 
  • Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

O fis Medi 2023 ymlaen, roedd y Bwrdd yn cynnwys 2 Aelod Cyswllt newydd am y tro cyntaf. Roedd hyn yn rhan o gynllun peilot ac mae'n cyd-fynd â’r ymrwymiad yn ein cynllun corfforaethol cyfredol i:

“… greu amgylchedd iach, teg a chynhwysol gan sicrhau bod ein sefydliad yn gynhwysol o bawb, gan ganiatáu i bawb deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu llwyddo”. 

Mae'r cynllun hwn wedi: 

  • creu cyfle i bobl a allai fel arall gael eu diystyru ar gyfer rôl ar fyrddau rheoli i feithrin profiad 
  • treialu gwahanol feini prawf a phrosesau ymgeisio y gellid eu datblygu a’u hailddefnyddio, o bosibl wrth i Lywodraeth Cymru benodi gweinidogion yn y dyfodol 
  • darparu gofod cefnogol ar gyfer cyflwyno unigolion i amgylchedd bwrdd rheoli, gan ganiatáu iddynt wneud cyfraniad llawn a sicrhau ymdeimlad o berthyn
  • sicrhau mwy o amrywiaeth syniadau ar ein Bwrdd ac ar gyfer dyfodol ein sefydliad yn unol ag ymrwymiad ein cynllun corfforaethol mewn perthynas â chynhwysiant

Nodyn

Nid yw Aelodau Cyswllt y Bwrdd yn aelodau ffurfiol o'r Bwrdd mewn statud ac nid oes ganddynt unrhyw hawliau pleidleisio cysylltiedig. 

ARAC

Mae ARAC yn craffu ar lywodraethiant, gwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli ac uniondeb yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon. 

Nifer y cyfarfodydd yn 2023 i 2024:

Cadeirydd: Jocelyn Davies 

Aelodau: 3 aelod anweithredol, gan gynnwys y Cadeirydd. Mae gan Gadeirydd ein Bwrdd wahoddiad agored i fynychu cyfarfodydd hefyd. 

Ymgynghorwyr ARAC: 

  • Prif Weithredwr 
  • Prif Swyddog Gweithredu 
  • Pennaeth Cyllid
  • Prif Swyddog Cyllid (hyd at Hydref 2023)
  • Cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol (IAS) 
  • Ysgrifenyddiaeth Archwilio a Risg 

Mae cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru hefyd yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd. 

Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Sefydlwyd y pwyllgor hwn (y Pwyllgor Pobl gynt) i roi sicrwydd ac i graffu ar effeithiolrwydd cynllunio olyniaeth, recriwtio a chydnabyddiaeth ariannol.

Nifer y cyfarfodydd yn 2023 i 2024: 3

Cadeirydd: Ruth Glazzard 

Aelodau: 3 aelod anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd) a’r:

Board and committee meeting attendance

Presenoldeb 2023 i 2024
AelodauBwrdd [1]ARACPwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
Nifer y cyfarfodydd a gynhaliwyd452
Aelodau anweithredol:
Ruth Glazzard422
Jocelyn Davies330
Mary Champion 450
Rheon Tomos 450
Jim Scopes412
Aelodau gweithredol:
Dyfed Alsop 442
Rebecca Godfrey450
Aelod staff etholedig:
Karen Athanatos (tan fis Hydref 2023)200
Zoe Curry (o fis Hydref 2023)220
Nodyn

[1] Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn chwarterol

Risg strategol: rolau

  • Mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn ymdrin â rheoli risg ac adrodd.
  • Mae'r Bwrdd yn sicrhau bod systemau rheoli risg yn gadarn ac yn amddiffynadwy a’u bod yn darparu arweiniad clir ar yr archwaeth risg a ddymunir.
  • Mae’r ARAC yn edrych ar reoli risg ac yn rhoi cyngor. Mae hefyd yn cynorthwyo ac yn craffu ar y Tîm Arwain.

Sut rydym yn adolygu risgiau corfforaethol

Mae Tîm Arwain yn monitro ac adolygu risgiau corfforaethol yn rheolaidd yn unol â’n polisi rheoli risg a’n datganiad archwaeth risg. Rydym yn dilyn egwyddorion y 'Llyfr Oren o ran ei ddull o adnabod risgiau corfforaethol, arfarnu ac adrodd. 

Trosolwg o'r broses: 

  • mae gan y Tîm Arwain a'r Grŵp Arweinyddiaeth Cyflenwi Gwasanaethau gofrestrau risg ar wahân 
  • mae risgiau corfforaethol newydd yn cael eu nodi gan y Tîm Arwain fel rhan o adolygiadau strategol cyson
  • caiff risgau eu huwchgyfeirio a’u dad-uwchgyfeirio rhwng y Grŵp Arweinyddiaeth Cyflenwi Gwasanaethau a’r Tîm Arwain
  • caiff risgau corfforaethol eu hadrodd yn y gofrestr risg corfforaethol a’u craffu gan ARAC a’n Bwrdd

Rheolaeth fewnol

Bob blwyddyn, mae’r uwch-reolwyr yn rhoi hunanasesiadau i'r Swyddog Cyfrifyddu ynghylch y trefniadau rheoli mewnol, llywodraethu a rheoli risg. Rydym yn cynnal holiadur rheolaeth fewnol (HRhF) yn flynyddol i archwilio hyn.

Rydym yn parhau i gael sicrwydd o ran llywodraethu ein pwerau dirprwyedig. Byddwn yn parhau i feithrin cysylltiadau agosach â Llywodraeth Cymru yn ehangach a sefydliadau partner i gefnogi ffocws y Rhaglen Lywodraeth o ran trethi datganoledig. Ni nodwyd unrhyw feysydd o wendid yn HRhF 2023 i 2024.

Archwiliad mewnol

Yn ystod y flwyddyn, cyhoeddodd Gwasanaeth Archwilio Mewnol (IAS) Llywodraeth Cymru 3 adroddiad a roddodd farn eang ar drefniadau rheoli risg, rheolaeth a llywodraethiant o fewn ACC. Roedd cynrychiolydd o IAS yn bresennol yn holl gyfarfodydd ARAC. Dyma ddyfyniad o un o'r adroddiadau:

“Gall y rheolwyr fod â sicrwydd rhesymol bod y trefniadau ar gyfer sicrhau llywodraethiant, rheoli risg, a rheoli’n fewnol, o fewn y meysydd sy’n cael eu hadolygu, wedi eu cynllunio'n briodol a'u cymhwyso'n effeithiol. Mae angen i’r rheolwyr roi sylw i rai materion o ran dylunio rheolaeth neu gydymffurfiaeth, ac mae iddynt risg gymedrol hyd nes y caiff hynny ei ddatrys.”

Archwilio allanol

Rydym yn cael ein harchwilio gan Archwilio Cymru, sy'n gyfrifol am adolygu ac archwilio rheolaethau ariannol a dibynadwyedd ein cyfrifon ariannol.

Mae Archwilio Cymru yn cyhoeddi adroddiad archwilio ac yn cyflwyno ei ganfyddiadau i ARAC a'r Bwrdd. Mae eu hadroddiad am y flwyddyn i'w weld yn adrannau'r Cyfrifon Adnoddau a’r Datganiad Treth.

Sut rydym yn rheoli gwybodaeth a llywodraethiant

Fe wnaethom barhau i fod yn weithredol wrth hyrwyddo diwylliant o arfer gorau mewn rheoli data a gwybodaeth er mwyn cynnal ein safonau uchel o ran rheoli gwybodaeth. Daeth hyn yn fwyfwy pwysig wrth i ni symud i fodel gweithio cwbl hybrid. 

Cyflawnwyd hyn drwy: 

  • hyfforddiant ymsefydlu gorfodol 
  • sesiynau gloywi bob dwy flynedd
  • cyflwyno diweddariadau i ddiogelwch gwybodaeth ac adolygiadau prosesau
  • cyfathrebu mewnol i sicrhau bod ein pobl wedi codi cwestiynau am reoli gwybodaeth gyda’u perchnogion asedau gwybodaeth a’u cydweithwyr rheoli gwybodaeth 

Gwnaethom barhau i dderbyn sicrwydd cadarnhaol pan aseswyd ein llywodraethu gwybodaeth gan Wasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru.

Gwnaethom barhau i adeiladu ar ein perthynas waith gadarnhaol gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Er enghraifft, gwnaethom weithio gyda’r ICO i sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data bresennol. 

Ni chafodd ein Swyddog Diogelu Data na'r Comisiynydd Gwybodaeth unrhyw gwynion am ein defnydd o ddata personol. 

Y 3 prif risg y gwnaethom eu rheoli'n weithredol oedd: 

  • seiberddiogelwch a gwydnwch
  • negeseuon e-bost gwe-rwydo 
  • risg seiber gan gyflenwyr 

Cofnodwyd 10 o achosion a fu bron â digwydd. Cafwyd mân ddigwyddiadau diogelwch gwybodaeth lle na ddatgelwyd unrhyw ddata personol. Gwelwyd cynnydd bach ar y nifer a gofnodwyd yn 2022 i 2023. Nid yw achosion a fu bron â digwydd yn fynediad anghyfreithlon gwirioneddol at ddata, ond rydym yn eu cofnodi ac yn ymchwilio iddynt er mwyn dod o hyd i ffyrdd posibl o atal mynediad anghyfreithlon at ddata yn y dyfodol.

Cafwyd 16 achos o fynediad anghyfreithlon at ddata, cynnydd ar ffigur y llynedd (10). Achosion bychain oedd pob un o’r rhain, a’r risg i wrthrychau’r data yn isel, felly nid oedd yn rhaid eu cyfeirio at yr ICO. Gwall dynol oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r achosion o fynediad anghyfreithlon at ddata. Parhawyd i weithio gyda staff i'w haddysgu a'u hatgoffa o'u cyfrifoldebau o ran diogelwch gwybodaeth.

Mae gennym ddiwylliant cefnogol sy'n annog ein pobl i adrodd am ddigwyddiadau diogelwch gwybodaeth. O ganlyniad, ein nod yw dysgu oddi wrthynt a, lle bo'n bosibl, lleihau’r tebygrwydd y bydd yn digwydd eto.

Seibergadernid

Seiberddiogelwch yw un o’n prif flaenoriaethau fel sefydliad cwbl seiliedig yn y cwmwl sy’n cadw data am drethdalwyr. Rydym yn gwella ein seibergadernid yn barhaus er mwyn diogelu ein defnyddwyr gwasanaethau digidol allanol, megis trethdalwyr ac asiantau, yn ogystal â’n pobl. 

Mae gennym strategaeth seibergadernid ar waith i gefnogi'r gwaith hwn. Mae hyn yn ymwneud â’n gallu i wrthsefyll digwyddiadau seiber, a’r dull y byddem yn ei ddefnyddio er mwyn adfer cyn gynted â phosibl. Mae ein dull o weithredu’n cael ei arwain gan ganllawiau’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ar seilwaith TG, dyfeisiau, data a chymwysiadau.

Er mwyn cryfhau ein seibergadernid ymhellach eleni, gwnaethom: 

  • brofi diogelwch ein seilwaith digidol gan ddefnyddio trydydd parti annibynnol sydd wedi’i achredu gan NCSC 
  • rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth seiberddiogelwch i’n holl bobl newydd a phresennol
  • adnewyddu ein hardystiad Cyber Essentials Plus
  • parhau i ofyn cwestiynau diogelwch sylfaenol i gyflenwyr ar gyfer pob contract newydd, gan gynyddu'r sicrwydd yn dibynnu ar natur y contract a roddir
  • gweithio gyda’n darparwr trydydd parti sy’n ymateb i ddigwyddiadau er mwyn cynnal archwiliad llawn o’n rheolaethau seiber technegol, a gwneud nifer o welliannau
  • rhoi datrysiad wrth gefn ar waith ar gyfer ein holl ddata corfforaethol
  • cynnal ymarfer ymateb i ddigwyddiad llawn, gan gwmpasu agweddau busnes a thechnegol ar sut y byddem yn delio â digwyddiad diogelwch difrifol
  • cynnal adolygiad llawn o'n strategaeth seiber gyda'n Bwrdd, cyn drafftio strategaeth newydd ar gyfer 2024 i 2026
  • cefnogi aelod o’n tîm digidol i sicrhau lle ar raglen uwch arweinwyr diogelwch a gynhelir gan Swyddfa Cabinet y DU yn y dyfodol
  • gwella diogelwch cyfrifon defnyddwyr allanol trwy orfodi dilysu aml-ffactor (MFA) ar gyfer pob asiant sy’n mewngofnodi i'n system dreth
  • parhau i brofi ein pobl trwy ymarferion gwe-rwydo rheolaidd yn ogystal â hyrwyddo ymwybyddiaeth seiber yn fwy cyffredinol 

Rhyddid Gwybodaeth

Rydym wedi derbyn 9 cais Rhyddid Gwybodaeth. Atebwyd pob un yn brydlon.

Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ymwneud â'r ffordd yr ymdriniwyd â cheisiadau am wybodaeth. Ac ni chafwyd unrhyw ymchwiliadau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i’r ffordd yr ymdriniwyd â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

Chwythu'r chwiban

Mae ein polisi a’n canllawiau ar chwythu'r chwiban yn rhoi manylion clir i staff am sut i wyntyllu unrhyw bryderon. Mae gennym swyddog enwebedig i dderbyn unrhyw ddatgeliadau.

Rydym hefyd yn gorff rhagnodedig ar gyfer trethi datganoledig Cymru. Mae hyn yn golygu y gall person mewn unrhyw sefydliad sydd â phryder sy'n ymwneud â threthi datganoledig Cymru wneud datgeliad gwarchodedig i ni os ydynt am chwythu’r chwiban. 

Mae gwybodaeth ar gael ar ein gwefan o ran sut i gysylltu â ni, ac i egluro sut y byddwn yn ymateb i unrhyw ddatgeliadau gan chwythwyr chwiban allanol.

Ni wnaed unrhyw ddatgeliadau yn ystod y flwyddyn.

Safonau’r Gymraeg 

Nid ydym yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg ar hyn o bryd, ond rydym yn cydymffurfio'n wirfoddol â safonau Gweinidogion Cymru lle bo hynny’n briodol ac yn gymesur. 

Yn ystod y flwyddyn rydym wedi parhau i gyflawni yn erbyn ein strategaeth Gymraeg gyntaf, a ddatblygwyd yn 2020. Rydym wedi canolbwyntio ein hadnoddau ar:

  • ddatblygu ein diwylliant dwyieithog
  • ehangu ein darpariaeth dysgu a datblygu
  • hyrwyddo cyfleoedd i'n pobl a'n cwsmeriaid ddefnyddio'r Gymraeg fel eu dewis iaith

Rydym wedi ehangu ein darpariaeth dysgu Cymraeg eleni drwy bartneriaeth â thîm dysgu a datblygu canolog Llywodraeth Cymru. Drwy hyrwyddo’r cynnig, cymrodd 10% o’n pobl ran mewn hyfforddiant ffurfiol iaith Gymraeg – y ffigwr uchaf ers i ni ddechrau gweithredu yn 2018.

Llesiant cenedlaethau'r dyfodol

Rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i bobl Cymru. Nid ydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar hyn o bryd. Rydym yn dod dan y Ddeddf o ddiwedd mis Mehefin 2024 a byddwn yn cyhoeddi ein hamcanion llesiant ym mis Mawrth 2025. 

Mae ‘Ein Dull’, sy'n sail i’n gwaith o reoli trethi, yn rhannu ysbryd ac ymdeimlad y ddeddf.

Casgliad

Fel y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer ACC, cadarnhaf fod y datganiadau a wneir yn yr adroddiad hwn yn gywir ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024. 

Ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol o ran rheolaeth fewnol na llywodraethiant.

Gallaf gadarnhau fod systemau rheolaeth fewnol cadarn ar waith i gefnogi cyflawniad nodau ac amcanion polisi'r sefydliad.

Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
18 Medi 2024

Adroddiadau cydnabyddiaeth ariannol a phobl

Adroddiad cydnabyddiaeth ariannol

Contractau gwasanaeth

Mae ein cyflogeion yn weision sifil.

Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i benodi aelodau o'r Gwasanaeth Sifil ar sail teilyngdod, mewn cystadleuaeth deg ac agored. Mae'r Egwyddorion Recriwtio a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi pa benodiadau y gellir eu gwneud fel arall. Mae'r uwch swyddogion y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â hwy â phenodiadau sy'n benagored, naill ai gyda ni yn uniongyrchol, neu â'u hadrannau Gwasanaethau Sifil cartref os ydynt ar fenthyg i ACC. Mewn achos o derfyniad cynnar, gan ACC neu gan unrhyw un o’r adrannau cartref hynny, ac eithrio am gamymddwyn, byddai'r unigolyn yn cael iawndal yn unol â'r hyn a nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil. Ceir rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Polisi cydnabyddiaeth ariannol

Nid yw cydnabyddiaeth ariannol aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) wedi'i ddirprwyo, yn wahanol i gydnabyddiaeth ariannol staff sydd islaw lefel yr SCS. Mae hyn yn golygu bod yr AAC yn gweithredu tâl yr Uwch Wasanaeth Sifil yn unol â'r rheolau a nodir ym mhennod 7.1, Atodiad A o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil a chanllawiau blynyddol a gynhyrchir gan Lywodraeth y DU, yn dilyn argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion (SSRB). 

Wrth lunio eu hargymhellion, mae'r SSRB yn ystyried:

  • yr angen i recriwtio, cadw, cymell a dyrchafu pobl addas, abl, a chymwys i gyflawni eu cyfrifoldebau.
  • yr amrywiaethau rhanbarthol/lleol mewn marchnadoedd llafur a'u heffeithiau ar recriwtio, cadw, a dyrchafu staff
  • polisïau'r Llywodraeth ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gofyniad i gyrraedd y targedau allbwn o ran darparu gwasanaethau adrannol 
  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y’i nodir yn nherfynau gwariant adrannol y llywodraeth, a tharged chwyddiant y llywodraeth
  • y dystiolaeth y mae’r SSRB yn ei dderbyn ynglŷn ag ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd eu hargymhellion

Gallwch ddysgu mwy am yr SSRB trwy fynd i wefan SSRB.

Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Caiff ein Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol ei gadeirio gan Gadeirydd anweithredol. 

Mae'r Pwyllgor wedi dewis alinio ei ddull gydag un Llywodraeth Cymru yn fras, sydd â’r hyblygrwydd i weithredu o fewn y canllawiau a bennwyd gan Swyddfa Cabinet y DU. Er enghraifft, ni wnaethom unrhyw daliadau bonws yn gysylltiedig â pherfformiad i aelodau'r SCS yn ystod 2023 i 2024.

Mae'r gydnabyddiaeth ariannol i’n cyflogeion sydd islaw'r SCS yn adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth, gweler polisi cyflog Llywodraeth Cymru.

Mae aelodau anweithredol ein Bwrdd yn cael ffioedd am ddyletswyddau a gyflawnir ar ran ACC, megis mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a phwyllgorau. Telir y ffioedd ar gyfradd ddyddiol fel y nodir yn eu llythyrau penodi, ac maent fel a ganlyn:

Cyfraddau dyddiol ffioedd aelodau anweithredol
 Cyfradd ddyddiol (£)
Cadeirydd Anweithredol400
Is-gadeirydd Anweithredol350
Aelodau anweithredol300

Mae’r costau angenrheidiol a ysgwyddir wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn yn cael eu had-dalu hefyd.

Cyflwynwyd rôl Aelod Cyswllt o’r Bwrdd yn ystod y flwyddyn. Cynlluniwyd y rôl ar gyfer y rhai hynny sy’n awyddus i ddod yn aelodau anweithredol llawn, ond nad oes ganddynt brofiad perthnasol eto. Mae’r 2 Aelod Cyswllt o’r Bwrdd yn dod â safbwyntiau unigryw ac yn cael cefnogaeth, gan gynnwys eu mentora gan aelodau profiadol o’r Bwrdd. Mae rôl Aelod Cyswllt o’r Bwrdd yn denu cydnabyddiaeth ariannol o £200 y dydd pro rata.

Datgeliad cydnabyddiaeth ariannol

Mae'r datgeliad canlynol yn darparu gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol a buddiannau pensiwn aelodau Bwrdd ACC. Mae hyn yn cynnwys aelodau anweithredol ac uwch swyddogion, ond nid yw'n cynnwys aelod staff etholedig y Bwrdd. 

Mae'r cyflog yn cynnwys y symiau pensiynadwy ac amhensiynadwy ac mae'n cwmpasu cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, neu lwfansau neu daliadau eraill os ydynt yn ddarostyngedig i drethiant y DU, ac unrhyw daliadau diswyddo neu daliadau yn ôl disgresiwn. Nid yw ad-daliadau ar gyfer treuliau dilys yn cael eu cynnwys yn y cyflog. Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar daliadau cronedig a wnaed gennym ni.

Mae gwerth ariannol ‘buddion mewn nwyddau’ yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gennym ac y mae CThEF yn eu trin fel enillion trethadwy. 

Er mwyn cydbwyso gofynion adrodd yn erbyn preifatrwydd unigol, rydym yn adrodd ffigurau cydnabyddiaeth ariannol mewn bandiau o £5,000 yn bennaf (er enghraifft £65,000-£70,000).

Cydnabyddiaeth Ariannol Anweithredol

Ffioedd a dalwyd i aelodau anweithredol
Aelod Anweithredol2023-24
£000
2022-23
£000
Ruth Glazzard
Cadeirydd Anweithredol
15–205–10
Jocelyn Davies
Dirprwy Gadeirydd
5–105–10
Mary Champion
Aelod Anweithredol
5­–105–10
Jim Scopes
Aelod Anweithredol
5–105–10
Rheon Tomos
Aelod Anweithredol
5–105–10
Laura Kent (o fis Medi 2023)
Aelod Cyswllt o’r Bwrdd
0–5Amherthnasol
Neil Mukerji (o fis Medi 2023)
Aelod Cyswllt o’r Bwrdd 
0–5Amherthnasol

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Yn ogystal â'u ffioedd, mae aelodau anweithredol yn cael eu had-dalu am gostau teithio a threuliau eraill yn unol â’n polisi teithio a chynhaliaeth. Rydym yn talu rhwymedigaeth treth yr ad-daliad. 

Nid yw aelodau anweithredol yn cael eu cyflogi gan ACC ac nid ydynt yn derbyn buddion pensiwn.

Cydnabyddiaeth ariannol a buddion pensiwn uwch swyddogion

Ffigurau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer uwch swyddogion
Uwch swyddogionCyflog
 mewn bandiau
o £5,000
Buddion
pension
i'r £1000
agosaf
Buddion mewn nwyddau i'r £100 agosafBuddion mewn nwyddau i'r £100 agosaf
2023-242022-232023-242022-232023-242022-232023-242022-23
Dyfed Alsop
Prif Weithredwr
105,000-109,999100,000-104,99935,00011,0005000140,000-144,999110,000-114,999
Rebecca Godfrey
Prif Swyddog Gweithredu
85,000-89,99945,000-49,99939,0007,00000125,000-129,99955,000-59,999

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Nodiadau

Mae buddion mewn nwyddau yn ymwneud â gwerth trethadwy car drwy aberthu cyflog.

Roedd Rebecca Godfrey ar absenoldeb mamolaeth am ran o’r flwyddyn yn ystod 2022 i 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd yn aelod o staff ond nid oedd yn gyfarwyddwr gweithredol. Byddai ei band cyflog blynyddol cyfwerth ag amser llawn yn 2022 i 2023 wedi bod rhwng £80,000 a 85,000.

Buddion pensiwn uwch swyddogion
Uwch swyddogion

Pensiwn cronedig ar oedran pensiwn ar 31 Mawrth 2024 a chyfandaliad cysylltiedig

£000

Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig

£000

CETV* ar
31 Mawrth 2024

£000

CETV* ar
31 Mawrth 2023

£000

Gwir gynnydd mewn CETV*

£000

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr
30–35 a chyfandaliad o 75­–800–2.5 a chyfandaliad o 064056420
Rebecca Godfrey
Prif Swyddog Gweithredu
25–300–2.545139022

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad. 

* CETV = gwerth trosglwyddo sy’n gyfwerth ag arian parod.

Staff eraill

Pensiynau'r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyn 1 Ebrill 2015, yr unig gynllun oedd ar gael oedd Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sydd wedi’i rannu’n adrannau gwahanol – mae clasurol, premiwm, a clasurol plws yn darparu buddion ar sail cyflog terfynol, tra bod nuvos yn darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – Cynllun Pensiwn y Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy'n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. Ymunodd pob gwas sifil newydd, a'r rhan fwyaf o'r rhai a oedd eisoes mewn gwasanaeth, â’r cynllun newydd. 

Mae PCSPS ac alpha yn gynlluniau statudol nas ariennir. Mae cyflogeion a chyflogwyr yn cyfrannu (mae cyfraniadau cyflogeion yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05%, yn dibynnu ar eu cyflog). Caiff costau’r buddiannau eu talu gan arian a bleidleisir gan y Senedd bob blwyddyn. Mae pensiynau taladwy yn cynyddu'n flynyddol yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Gall cyflogeion ddewis pensiwn cyfraniad diffiniedig gyda chyfraniad cyflogwr, sef y cyfrif pensiwn partneriaeth, yn hytrach na’r trefniant buddion diffiniedig.

Yng nghynllun alpha, mae’r pensiwn yn cronni ar gyfradd o 2.32% o enillion pensiynadwy bob blwyddyn, ac mae'r cyfanswm a gronnwyd yn cael ei addasu bob blwyddyn yn unol â chyfradd a bennir gan Drysorlys EF. Gall Aelodau ddewis ildio (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004. Bydd buddion PCSPS pob Aelod sy'n newid o PCSPS i alpha yn cael eu 'bancio', a'r rhai sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog olaf y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha.

Y pensiwn cronedig a ddangosir yn yr adroddiad hwn yw'r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i'w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn arferol, neu cyn gynted ag y bydd wedi peidio â bod yn aelod gweithredol o'r cynllun os yw eisoes wedi cyrraedd yr oedran pensiwn arferol neu'n hŷn na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn arferol ar gyfer aelodau clasurol, premiwm a clasurol plws, 65 ar gyfer aelodau o nuvos, ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau o alpha. Mae'r ffigurau pensiwn yn yr adroddiad hwn yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy'n briodol. Pan fo gan aelod fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, mae’r ffigur yn dangos gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun, ond noder y gall rhannau o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau.

Pan gyflwynodd y Llywodraeth gynlluniau newydd ar gyfer pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus yn 2015, roedd trefniadau trosiannol yn eu lle a oedd yn trin aelodau presennol y cynllun yn wahanol ar sail eu hoedran. Arhosodd aelodau hŷn y PCSPS yn rhan o’r cynllun hwnnw, yn hytrach na symud i alpha. Yn 2018, penderfynodd y Llys Apêl fod y trefniadau trosiannol ar gyfer cynlluniau pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn aelodau iau.

O ganlyniad, mae camau’n cael eu cymryd i unioni’r diwygiadau hynny a wnaed yn 2015, gan wneud darpariaethau’r cynllun pensiwn yn deg i bob aelod. Mae'n cynnwys dwy ran (gweler http://www.gov.uk/government/collections/how-the-public-service-pension-remedy-affects-your-pension). Roedd y rhan gyntaf yn golygu cau PCSPS ar 31 Mawrth 2022, gyda phob aelod gweithredol yn dod yn aelodau o alpha o 1 Ebrill 2022. Mae’r ail ran yn dileu’r gwahaniaethu ar sail oedran ar gyfer y cyfnod rhwymedi, rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, drwy symud aelodaeth aelodau cymwys yn ystod y cyfnod hwn yn ôl i’r PCSPS ar 1 Hydref 2023. Gelwir hyn yn "rollback" neu dreiglo’n ôl.

Ar gyfer aelodau sydd o fewn cwmpas rhwymedi pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus, mae cyfrifiad eu buddion at ddibenion cyfrifo eu Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod a chyfanswm eu cydnabyddiaeth ariannol fel ffigur unigol, ar 31 Mawrth 2023 a 31 Mawrth 2024, yn adlewyrchu’r ffaith bod aelodaeth rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 wedi’i threiglo’n ôl i’r PCSPS. Er y bydd aelodau’n cael opsiwn maes o law i benderfynu a ddylai’r cyfnod hwnnw gyfrif tuag at fuddion PCSPS neu alffa, mae’r ffigurau’n dangos y sefyllfa wedi ei threiglo’n ôl h.y. buddion PCSPS ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfraniadau diffiniedig galwedigaethol sy'n rhan o Mastertrust Legal & General. Mae'r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod). Nid oes rhaid i'r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% ychwanegol o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan www.civilservicepensionscheme.org.uk

Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod

Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf, wedi’i asesu gan actiwari, buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol i briod sy'n daladwy o'r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddiannau a gronnwyd yn eu hen gynllun. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â'r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i'w aelodaeth lawn o'r cynllun pensiwn, nid yn unig ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch sydd â datgeliad yn berthnasol iddo. 

Mae'r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r aelod wedi'u trosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar eu cost eu hunain. 

Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i dreth lwfans oes a allai fod yn ddyledus pan fydd buddion pensiwn yn cael eu cymryd.

Cynnydd gwirioneddol mewn CETV

Mae hwn yn adlewyrchu'r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw'n cynnwys y cynnydd yn y pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, cyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Datgeliad cyflog teg 

Mae'r adran hon yn amodol ar archwiliad.

Mae'n rhaid i gyrff adrodd ddatgelu'r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy'n ennill y cyflog mwyaf yn eu sefydliad a chwartel isaf, canolrif, a chwartel uchaf chydnabyddiaeth ariannol gweithlu'r sefydliad. 

Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl ar sail perfformiad heb ei gydgrynhoi, a buddion mewn nwyddau. Nid yw'n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a gwerth trosglwyddo sy’n gyfwerth ag arian parod pensiynau. Ni thalodd ACC unrhyw dâl neu fonysau a oedd yn gysylltiedig â pherfformiad yn 2023 i 2024 na 2022 i 2023. 

Band cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr a enillodd y cyflog uchaf yn ACC yn y flwyddyn ariannol 2023 i 2024 oedd £105,000 i £110,000 (2022 i 2023: £100,000 i £105,000). Roedd hyn 2.5 gwaith yn uwch na chydnabyddiaeth ariannol canolrifol y gweithlu, sef £43,785 (2022 i 2023: 2.3 gwaith, £43,660) gan ddefnyddio pwynt canol yr ystod gyflog wedi’i fandio ar gyfer y cyfarwyddwr sydd ar y cyflog uchaf. Yn 2022 i 2023 roedd y codiad cyflog cyfartalog ar gyfer staff SCS yn is na’r cynnydd a welwyd ar draws y sefydliad cyfan. 

Yn 2023 i 2024 cafodd hyn ei ail-gydbwyso ar gyfer staff SCS, gan ddod â’r codiad cyflog yn unol â chodiadau cyflog staff eraill. Mae hyn yn egluro’r cynnydd yn y gymhareb ar gyfer y gydnabyddiaeth ariannol canolrifol. Yn 2023 i 2024, 4.9% oedd y newid canrannol o'r flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas â'r cyfarwyddwr ar y cyflogau uchaf (roedd yn 0% yn 2022 i 2023). Bu cynnydd o 4.4% yng nghyflog cyfartalog y sefydliad (0.5% oedd y ganran yn 2022 i 2023).

Rhwng 2023 a 2024 a 2022 i 2023, ni dderbyniodd unrhyw staff gydnabyddiaeth ariannol uwch na'r cyfarwyddwr â'r cyflog uchaf. Roedd tâl yn amrywio o £23,258 i £107,500 (pwynt canol band) (2022 i 2023: £23,880 i £102,500 (pwynt canol band).

Cydnabyddiaeth ariannol staff chwartel isaf, canolrif, a chwartel uchaf
BlwyddynCyflog 25ain canraddCymhareb gyflog 25ain canraddCyflog canolrifolCyflog 75ain canraddCymhareb gyflog 75ain canraddCymhareb gyflog 75ain canradd 
2023-24£32,1413.3:1£43,7852.5:1£63,6141.7:1
2022-23£30,6103.3:1£43,6602.3:1£63,9001.6:1

Adroddiad pobl

People costs
 Staff
a gyflogir yn barhaol
Staff
contract ac asiantaeth
CyfanswmCyfanswm
 2023-24
£000
2023-24
£000
2023-24
£000
2022-23
£000
Cyflogau3,8941184,0123,703
Costau nawdd cymdeithasol43113444428
Costau pensiwn eraill1,047251,0721,026
Cyfanswm5,3721565,5285,157

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Mae’r staff a gyflogir yn barhaol yn y tabl hwn yn cynnwys pobl sydd ar fenthyg i ni gan gyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil, ond sy'n dal i gael eu cyflogi'n barhaol gan eu cyflogwyr Gwasanaeth Sifil. 

Mae'r cyflog yn cynnwys cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, a lwfansau neu daliadau eraill i'r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU. 

Cyfraniadau i’r cynllun pensiwn

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir, ac felly ni all yr Awdurdod nodi’r gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol a berthyn iddo. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2020.

Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil.

Ar gyfer 2023 i 2024, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £1,064,471 yn daladwy i'r PCSPS (2022 i 2023: £1,019,223) ar 1 o 4 cyfradd o fewn yr ystod 26.6% i 30.3% (yn 2023 i 2024 a 2022 i 2023) o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog. Mae actiwari'r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob 4 blynedd yn dilyn prisiad llawn o'r cynllun. Mae'r cyfraddau cyfrannu yn adlewyrchu buddion wrth iddynt gronni, yn hytrach na phan fydd costau’n digwydd mewn gwirionedd, sy’n adlewyrchu profiad o’r cynllun. 

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, sef pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwyr o £7,461 (2022 i 2023: £6,665) i un neu fwy o'r panel o 3 darparwr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. 

Mae cyfraniadau'r cyflogwr yn gysylltiedig ag oedran ac maent yn amrywio rhwng 8% a 14.75% (yn 2023 i 2024 a 2022 i 2023) o dâl pensiynadwy. Yn ogystal, mae 0.5% o dâl pensiynadwy yn daladwy i'r PCSPS i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw yn y swydd neu'n ymddeol oherwydd salwch. Mae cyflogwyr hefyd yn cyfateb cyfraniadau gan gyflogeion hyd at 3 % o’u tâl pensiynadwy. 

Ni wnaeth unrhyw un (naill ai yn 2023 i 2024 nac yn 2022 i 2023) ymddeol yn gynnar oherwydd salwch. Felly, roedd cyfanswm y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn ddim.

Nifer yr aelodau SCS yn ôl band cyflog
Nifer yr aelodau SCS yn ôl band cyflog
Band cyflog31 Mawrth 202431 Mawrth 2023
SCS 211
SCS 122

Nid oes gan ein sefydliad unrhyw swyddi ym mandiau 3 neu 4 yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS).

Nifer y bobl a gyflogir

Personau a gyflogir (gan gynnwys SCS) – cyfwerth ag amser llawn (CALl) ar gyfartaledd
 2023-242022-23
Staff parhaol7876
Staff ar fenthyg03
Staff cyfnod penodol32
Cyfanswm8181

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Roedd pobl cyfnod penodol yn cynnwys rolau fel cyflenwi ar gyfer pobl bresennol oherwydd absenoldeb rhiant neu amser arall o’u rôl, neu pan mai dim ond dros dro yr oedd angen y rôl. 

Yn ogystal â phobl gyflogedig fel yr uchod, y CALl ar gyfer pobl asiantaeth oedd:

Staff asiantaeth – cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd (CALl)
 2023-242022-23
Staff asiantaeth00

Cyfansoddiad pobl

Rydym wedi ymrwymo i gynnig lle gwych i weithio ar gyfer ein holl staff. Fel rhan o'n hymrwymiad, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • cadw ac adolygu gwybodaeth cydraddoldeb am ein pobl er mwyn llywio ein penderfyniadau
  • meddu ar bolisïau i sicrhau triniaeth gyfartal ac ystyried yr effaith ar unigolion a grwpiau sydd â nodweddion wedi'u diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (er enghraifft, anabledd, oedran, a rhyw)
  • sicrhau bod ein Bwrdd a'n Tîm Arwain yn goruchwylio cydraddoldeb
  • cyhoeddi ein hadroddiad ar gydraddoldeb ym mis Mawrth 2024, yn ymdrin â'r cyfnod 2022 i 2023
Personau a gyflogir yn ôl rhywedd
 Ar 31 Mawrth 2024Ar 31 Mawrth 2023
 MenywodDynionMenywodDynion
SCS1212
Pobl eraill42384539

Cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo triniaeth gyfartal. Roedd hyn yn cynnwys: 

  • cynnal ein hachrediad Cyflogwr Cyflog Byw
  • hyrwyddo ein hymrwymiad 'Hapus i Drafod Gweithio Hyblyg' ar ein tudalennau recriwtio, gan hysbysebu pob rôl fel un sydd ar gael yn hyblyg yn ddiofyn
  • hyrwyddo ein statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
  • cynnig cynllun gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol ar gyfer rôl
  • ystyried rhagfarn o ran rhywedd yn yr iaith yr ydym yn ei defnyddio ar gyfer ein hymgyrchoedd recriwtio
  • defnyddio dull ‘cuddio enwau’ ar gyfer ceisiadau recriwtio er mwyn dileu cyfeiriadau at fanylion personol ac enwau sefydliadau addysgol, a thrwy hynny leihau’r rhagfarn bosibl
  • gofyn i bob ymgeisydd a oedd angen addasiadau arnynt yn ystod y broses recriwtio
  • cynnig sesiynau gwybodaeth i ymgeiswyr ar gyfer pob ymgyrch recriwtio 
  • cynnig sgyrsiau hygyrchedd cyn cyfweliad i ymgeiswyr anabl 
  • sicrhau bod paneli recriwtio cymysg o ran rhywedd yn cael eu hyfforddi i ymgymryd â recriwtio diduedd
  • cynnig hyfforddiant gwrth-wahaniaethu i’n holl bobl, gan gynnwys deall ymddygiad gwahaniaethol, sgyrsiau gofod diogel a deall ymddygiad microymosodol
  • darparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol a rhaglen cymorth i weithwyr ar gyfer ein holl bobl
  • cynnig ystod eang o ddigwyddiadau llesiant i’n pobl drwy’r Grŵp Llesiant er mwyn cefnogi ein strategaeth lesiant 
  • cynnig asesiadau offer sgrin arddangos i’n pobl er mwyn nodi unrhyw addasiadau ac offer sydd eu hangen i weithio’n ddiogel gartref ac yn y swyddfa

Absenoldeb oherwydd salwch

Caiff ffigurau absenoldeb oherwydd salwch eu mynegi fel arfer fel dyddiau gwaith a gollwyd yn flynyddol (AWDL).

Mae AWDL fesul blwyddyn staff yn hafal i gyfanswm nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd yn ystod y flwyddyn wedi’i rannu â chyfanswm nifer y blynyddoedd staff posibl.

Rydym yn credu fod y fformiwla hon yn well cynrychiolaeth o'r diwrnodau a gollir yn wirioneddol o gymharu â ffyrdd eraill o gyfrifo AWDL, am nad yw'n cynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus, a gwyliau braint. Mae defnyddio cyfanswm blynyddoedd hefyd yn rhoi ystyriaeth gywir i bobl ran-amser, ymgeiswyr newydd, a'r rhai sy'n gadael. Er enghraifft, byddai rhywun sy'n gweithio hanner yr oriau llawn amser mewn wythnos yn cael blwyddyn o 0.5. 

Roedd lefel ein habsenoldeb salwch yn 4.78 AWDL ar gyfer 2023 i 2024. Mae hyn yn llawer is na’r ffigwr diweddaraf sydd ar gael ar gyfer y Gwasanaeth Sifil, sef 8.1 AWDL ar gyfer 2022 i 2023. 

Trosiant

Cyfrifir ffigurau trosiant yn y Gwasanaeth Sifil mewn 2 ffordd:

  • trosiant, sy’n golygu staff sy’n gadael y Gwasanaeth Sifil yn gyfan gwbl
  • trosiant adrannol, sy’n golygu staff sy'n gadael ACC ond yn trosglwyddo i adran neu gyflogwr arall yn y Gwasanaeth Sifil

Cyfrifir y ffigur trosiant trwy rannu nifer y rhai sy'n gadael â chyfartaledd y bobl sydd mewn swydd. 

Yn 2023 i 2024, gadawodd 18.6% o staff ACC yr Awdurdod. O'r rheini, gadawodd 6.2% y Gwasanaeth Sifil a symudodd 12.4% i adran arall y llywodraeth. 
 

Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

Arolwg trawslywodraethol o ymgysylltiad cyflogeion yw Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Bob blwyddyn, mae tua 300,000 o weision sifil o dros 100 o sefydliadau yn cymryd rhan. 

Mae'n defnyddio mynegai ymgysylltiad sy'n gyfartaledd o'r ymatebion i'r 5 cwestiwn hyn sy'n ddangosyddion cryf o ymgysylltiad cyflogeion: 

  • rwy’n falch o ddweud wrth bobl fy mod yn rhan o ACC 
  • byddwn yn argymell ACC fel lle gwych i weithio 
  • mae gen i ymlyniad personol cryf i ACC 
  • mae ACC yn fy ysbrydoli i wneud fy ngorau yn fy swydd 
  • mae ACC yn fy ysbrydoli i'w helpu i gyflawni ei amcanion 

Gall y canlyniadau amrywio o 0% i 100%. Mae sgôr o 0% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o ‘anghytuno'n gryf’ i bob un o'r 5 cwestiwn. Mae sgôr o 100% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o ‘gytuno'n gryf’ i bob un o'r 5 cwestiwn.

Canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil ACC
 20232022
Mynegai ymgysylltiad76%77%

Mae ein sgôr gyffredinol yn dangos lefel uchel o ymgysylltiad cyflogeion ac mae'n sylweddol uwch na chyfartaledd y Gwasanaeth Sifil sef 64% yn 2023 a 65% yn 2022.

Image
Roeddem ymhlith 3 uchaf sefydliadau’r Gwasanaeth Sifil o ran ymgysylltiad cyflogeion yn 2023

Mae ein canlyniadau llawn ar gyfer arolygon pob blwyddyn i'w gweld ar ein gwefan: Arolwg Pobl ACC.

Costau ymgynghori

Costau ymgynghori yn ystod y cyfnod
 2023-24
£000
2022-23
£000
Costau ymgynghori612317

Pan fo angen sgiliau arbenigol, gwneir y gwaith hwn naill ai gan unigolion arbenigol neu gan sefydliadau ymgynghori.

Bu cynnydd yn y defnydd o sefydliadau ymgynghori arbenigol yn 2023 i 2024. Roedd hyn yn bennaf oherwydd gwaith darganfod a wnaed ar yr ardoll ymwelwyr i Gymru, fel yr eglurwyd yn ein cyflwyniad. Roedd y costau ymgynghori eraill ar gyfer sgiliau arbenigol mewn gwasanaethau rhwydwaith, dadansoddiad o’n diwylliant corfforaethol, seiberddiogelwch ac adolygiad o’r system gyllid.

Datgeliadau oddi ar y gyflogres

Mae trefniadau oddi ar y gyflogres yn berthnasol i unigolion sydd naill ai'n hunangyflogedig neu’n gweithredu trwy gyfryngwr neu gwmni gwasanaeth, yn hytrach na chael eu cyflogi'n uniongyrchol gennym ni. O 6 Ebrill 2017, arweiniodd diwygiadau i’r ddeddfwriaeth (a elwir yn IR35) at newid y rheolau ar gyfer pobl oddi ar y gyflogres sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus. Symudwyd y rhwymedigaeth i benderfynu ar eu statws treth o’r contractwr i'r cyflogwr. 

Mae pob ymgysylltiad oddi ar y gyflogres wedi bod yn destun asesiad IR35 er mwyn pennu natur y trefniadau gweithio a sicrhau tryloywder a chydymffurfedd â rheoliadau treth.

Swyddi gweithwyr cyflog uchel oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2024, a oedd yn ennill £245 neu fwy y dydd
Nifer y swyddi presennol
O'r rhain: 
Llai na blwyddyn
Rhwng 1 a 2 flynedd
Rhwng 2 a 3 blynedd
Rhwng 3 a 4 blynedd
Pedair blynedd neu fwy2
Pob gweithiwr cyflog uchel oddi ar y gyflogres a gyflogwyd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024, a oedd yn ennill £245 neu fwy y dydd
Nifer y gweithwyr dros dro oddi ar y gyflogres a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn4
O'r rhain:
Ddim yn ddarostyngedig i deddfwriaeth oddi ar y gyflogres4
Yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac a benderfynwyd eu bod o fewn cwmpas IR350
Yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac a benderfynwyd eu bod y tu allan i gwmpas IR350
Nifer y swyddi a ailaseswyd at ddibenion cydymffurfio neu sicrwydd yn ystod y flwyddyn0
O'r rhain: Nifer y swyddi a welodd newid i statws IR35 yn sgil adolygiad00
Unrhyw aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion oddi ar y gyflogres sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol
Unrhyw aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion oddi ar y gyflogres sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol0
Nifer yr aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd ar, ac oddi ar, y gyflogres ac sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol13

Cynllun y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill – pecynnau ymadael

Roedd nifer y diswyddiadau a'r ymadawiadau cytunedig eraill yn ystod 2023 i 2024 a 2022 i 2023 yn ddim. Ni chytunwyd ar unrhyw becynnau ymadael yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024.

Rydym yn talu costau diswyddo a chostau ymadael eraill yn unol â Chynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil (CSCS) o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Os yw ACC yn cytuno i ymddeoliadau cynnar, ni fydd yn talu’r costau ychwanegol yn hytrach na chynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Caiff costau ymddeol oherwydd afiechyd eu talu gan y cynllun pensiwn.

Llesiant

Rydym yn gwerthfawrogi llesiant ein pobl ac yn sylweddoli, trwy wneud hynny, y gallwn gynnig amgylchedd cadarnhaol a chynhyrchiol yn y gweithle. Rydym wedi cefnogi ein pobl mewn sawl ffordd yn ystod y flwyddyn. Roedd hyn yn cynnwys:

  • annog ein pobl i ddefnyddio awr lesiant â thâl bob wythnos 
  • cefnogaeth drwy ein Grŵp Llesiant, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’n sefydliad 
  • creu cyfleoedd llesiant trwy gydol y flwyddyn sy’n cyd-fynd â’n 5 prif faes llesiant: ymgysylltu â’n gilydd, bod yn gorfforol egnïol, dysgu sgiliau newydd, byw yn y foment a rhoi i eraill
  • hyrwyddo ac annog ein pobl i ymuno â rhwydweithiau staff a grwpiau cymorth
  • cynnig rhaglen cymorth i weithwyr yn ogystal â phlatfform rheoli gofal iechyd

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 
18 Medi 2024

Adroddiad archwilio – cyfrifon adnoddau

Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Senedd

Barn ar y datganiadau ariannol

Rwy’n tystio fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad o 

Sefyllfa Ariannol, Datganiad Llif Arian, Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr

 a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu perthnasedd arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol: 

  • yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa materion Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2024 ac o’i gostau gweithredu net, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; 
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
  • wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 .

Barn ar reoleidd-dra 

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y barnau

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (Y DU)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau’r Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif sy’n nodi cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol. 

Mae fy staff a minnau’n annibynnol ar y corff yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barnau.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol i baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i gyflawni, nid wyf wedi adnabod unrhyw ansicrwydd perthnasol mewn perthynas â digwyddiadau neu amodau a all, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r corff i barhau i fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r dyddiad pan awdurdodir cyhoeddi'r datganiadau ariannol.

Caiff fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.

Caiff y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru ei mabwysiadu gan ystyried y gofynion yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, sy’n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle disgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a rhannau eraill o’r adroddiad a archwilir a'm hadroddiad i fel archwilydd ar y rhain. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn am y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall a, heblaw i'r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar yr wybodaeth arall honno. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â’r datganiadau ariannol neu wybodaeth a gafwyd wrth gyflawni'r archwiliad, neu'n ymddangos fel arall fel pe bai wedi cael ei chamddatgan yn berthnasol. Os wyf yn canfod anghysonderau perthnasol o’r fath neu wybodaeth berthnasol o’r fath sy’n ymddangos fel pe bai wedi cael ei chamddatgan, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn achosi camddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i wneud, os wyf yn dod i’r casgliad bod yr wybodaeth arall hon wedi’i chamddatgan yn berthnasol, mae’n ofynnol i mi nodi’r ffaith honno.

Nid oes unrhyw beth gennyf i’w nodi yn hyn o beth.

Barn ar faterion eraill 

Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio wedi cael ei pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 . 

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:

  • mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff eu harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 ; ac
  • mae’r wybodaeth a roddir yn y Adroddiad Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth am y corff a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn yr Adroddiad Perfformiad neu’r Datganiad Llywodraethu.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol, y cyflwynaf adroddiad i chi arnynt os bydd yr amgylchiadau canlynol yn berthnasol, yn fy marn i:

  • nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.
  • ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol neu ni chafwyd ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer fy archwiliad o ganghennau nad ymwelodd fy nhîm â hwy;
  • nid yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff ei harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu;
  • nid yw gwybodaeth a nodir gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi cael ei datgelu; 
  • nid yw datgeliadau penodol ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a nodir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel a esbonnir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am: 

  • gadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
  • paratoi datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol ac am fod wedi’i argyhoeddi eu bod yn rhoi darlun gwir a theg; 
  • sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r datganiadau ariannol yn ei cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
  • sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
  • pa bynnag reolaethau mewnol sy'n angenrheidiol ym marn y Swyddog Cyfrifyddu i allu paratoi datganiadau ariannol heb unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall; 
  • asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo'n gymwys, faterion sy'n ymwneud â'r busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y corff yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb yw archwilio’r datganiadau ariannol, eu hardystio ac adrodd arnynt yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch p'un a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhai heb unrhyw gamddatganiad perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi tystysgrif sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU wastad yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo'n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os, yn unigol neu gyda'i gilydd, gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn golygu achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a nodir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll. 

Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:

  • Holi’r rheolwyr, adran archwilio mewnol yr endid a archwilir a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennaeth ategol mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy’n ymwneud ag: 
    • adnabod, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau a pha un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
    • canfod ac ymateb i’r risgiau o dwyll a pha un a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; a hefyd
    • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau.
  • Ystyried fel tîm archwilio sut a ble allai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o’r drafodaeth hon, canfûm botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: adnabod refeniw, adnabod gwariant, cofnodi dyddlyfrau anarferol; a 
  • Cael dealltwriaeth am y fframwaith awdurdod sydd gan Awdurdod Cyllid Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru  yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru ;
  • Cael dealltwriaeth am berthnasoedd partïon cysylltiedig.
  • adolygu’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol a phrofi yn erbyn dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi’r rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio ac ymgynghorwyr cyfreithiol ynghylch ymgyfreithiad a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd;
  • wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy wrthwneud rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfr ac addasiadau eraill; asesu a yw’r dyfarniadau a wnaed wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu’n rhoi arwydd o wyrduedd bosibl; a gwerthuso’r rhesymeg fusnes dros unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes; a

Yn ychwanegol at yr uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a ganfuwyd yn cynnwys y canlynol:

Fe wnes i hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau dynodedig perthnasol a risgiau posibl o dwyll i holl aelodau’r tîm archwilio ac aros yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau trwy gydol yr archwiliad.

Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid o ran canfod afreolaidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru , a natur, amseriad a hyd a lled y gweithdrefnau archwilio a gyflawnwyd. 

Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'm hadroddiad archwilio.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Rwy’n gorfod ateb gofynion o ran cael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwy’n cyfathrebu gyda’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith pethau eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol yr wyf yn eu hadnabod yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes unrhyw sylwadau gennyf i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn. 

Adrian Crompton 
Archwilydd Cyffredinol Cymru     

1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ 

18 Medi 2024

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Cyfrifon adnoddau

Datganiad o wariant net cynhwysfawr
 Nodyn2023-24
£000
2022-23
£000
Costau staff5,5285,157
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff163113 
Costau gweithredu eraill2,0491,574 
Dibrisiant3.1 5945 
Amorteiddiad3.2 5556 
Gwariant gweithredu net 7,8546,945 
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn 7,854 6,945 
Datganiad o sefyllfa ariannol
 Nodyn2023-24
£000
2022-23
£000
Asedau anghyfredol   
Peiriannau ac offer3.1 201164 
Asedau anniriaethol3.2 21027 
Cyfanswm asedau anghyfredol 411191 
Asedau cyfredol   
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall148104 
Arian parod a chyfwerth ag arian parod1,118966 
Cyfanswm asedau cyfredol 1,2661,070 
Rhwymedigaethau cyfredol   
Symiau masnach a symiau taladwy eraill(947)(894) 
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol (947)(894) 
Cyfanswm yr asedau ar ôl tynnu’r rhwymedigaethau cyfredol 730 367 
Ecwiti trethdalwyr   
Cronfa gyffredinol 730 367 

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
18 Medi 2024

Datganiad o lifau arian parod
 Nodyn2023-24
£000
2022-23
£000
Llifau arian parod o weithgareddau gweithredol   
Gwariant gweithredu net (7,854)(6,945)
Addasiadau ar gyfer trafodiadau nad ydynt yn rhai arian parod
Gostyngiad/(cynnydd) mewn symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill (44)12 
(Gostyngiad)/cynnydd mewn symiau masnach a symiau taladwy eraill 53(15) 
Dibrisiant ac amorteiddiad3.1, 3.2 114101 
Arian parod net (all-lif) sy'n deillio o weithgareddau gweithredu (7,731(6,847)
Llifau arian parod o weithgareddau buddsoddi
Ychwanegiadau peiriannau ac offer3.1 (96)(115) 
Ychwanegu asedau anniriaethol3.2 (238)
Arian parod net (all-lif) sy’n deillio o weithgareddau buddsoddi(334) (115)
Llifau arian parod o weithgareddau cyllido
Cyllid gan Lywodraeth Cymru 8,2177,060 
Cynnydd/(lleihad) net mewn arian parod a chyfwerth ag arian parod15298 
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddechrau'r cyfnod966868 
Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod1,118966 
Datganiad o newidiadau yn ecwiti trethdalwyr
 Cronfa gyffredinol
£000
Balans ar 31 Mawrth 2022252
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2022-23
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru6,941 
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru119 
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn(6,945) 
Balans ar 31 Mawrth 2023367 
Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2023-24
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru7,867
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru350
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn(7,854)
Balans ar 31 Mawrth 2024730 

Nodiadau i'r cyfrifon adnoddau

1.Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag Adran 29(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) a gyhoeddir gan Drysorlys EF
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus
  • y polisïau cyfrifyddu y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt eto wedi dod i rym. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £1,000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, wedi'i addasu yn ôl gofynion y safonau cyfrifyddu perthnasol ac yn amodol ar ddehongliadau ac addasiadau safonau’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol. Cyfrifyddwyd gwariant ar sail groniadol. Mae’r cyfrifyddu ar gyfer cyllid wedi'i nodi yn y polisi cyfrifyddu 1.7. 

1.3 Busnes gweithredol

Paratowyd y cyfrifon hyn ar sail ‘busnes gweithredol’ gan fod ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru ac yn derbyn ei gyllid refeniw ganddynt er mwyn bodloni ei rwymedigaethau.  Mae ACC yn disgwyl y bydd yn parhau i fodoli hyd y gellir ei ragweld.

1.4 Defnyddio dyfarniadau 

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad y polisïau cyfrifyddu a'r symiau o asedau, atebolrwydd a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol:

Nid oes unrhyw asedau ‘hawl i ddefnyddio’ yn bodoli o fewn ACC. Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet yn unig sy'n cyfarwyddo'r gofod swyddfa a ddyrennir i ACC i'w ddefnyddio.

1.5 Croniad gwyliau blynyddol

Cyfrifir am groniad gwyliau blynyddol staff o fewn costau staff eraill. Dim ond y symudiad yn ystod y flwyddyn a godir amdano. Mae'r croniad yn gyfrifiad sy’n adlewyrchu'r gwyliau blynyddol sy'n ddyledus neu sy'n ddyledus i staff ar ddiwedd y flwyddyn.

1.6 Treth ar werth (TAW)

Mae ACC wedi'i gofrestru ar gyfer TAW ac mae'n adennill rhai elfennau o TAW ar gyfer gwasanaethau busnes a gwasanaethau sy'n cael eu contractio allan. Caiff gwariant ar nwyddau a gwasanaethau eraill ei gofnodi yn cynnwys TAW yn unol â llawlyfr TAW llywodraeth fewnol Cyllid a Thollau EF (CThEF).

1.7 Cyllid

Mae ACC yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn ‘ddyraniad grant’) i ariannu ei wariant refeniw a chyfalaf. Yn unol â'r FReM, cofnodir y symiau hyn fel cyllid yn hytrach nag incwm ac fe'u credydir i'r gronfa gyffredinol. Mae'r FReM hefyd yn cadarnhau y dylid cyfrif am y cyllid hwn ar sail arian parod ac rydym wedi cydymffurfio â hyn.

1.8 Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Dim ond arian parod a chyfwerth ag arian parod a gynhwysir yn y balansau sydd gan ACC gyda Gwasanaeth Bancio'r Llywodraeth.

1.9 Adrodd ar segmentau

Mae Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 8 yn ei gwneud yn ofynnol i endidau ddatgelu gwybodaeth am eu segmentau gweithredu a'u hardaloedd daearyddol. Mae'r Awdurdod yn gweithredu mewn un segment ac yng Nghymru yn unig. Felly, ni ystyrir bod angen unrhyw adrodd ychwanegol.

1.10 Lesau

Ar gyfer 2023-2024, nid yw ACC yn rhan o unrhyw drefniadau les (naill ai fel y lesydd na’r lesddeiliad) o dan IFRS 16.

1.11 Offerynnau ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7 yn ei gwneud yn ofynnol datgelu rôl offerynnau ariannol yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Gan fod ACC yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol, ar ffurf symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill, a rhwymedigaethau ariannol, ar ffurf symiau masnach a symiau taladwy eraill. Ni ystyrir bod ACC yn agored i unrhyw lefel sylweddol o risg o ran credyd, hylifedd na chyfraddau llog. 

1.12 Asedau anghyfredol

Cyfarpar

Caiff cyfarpar ei ddal ar werth teg. Defnyddir cost hanesyddol wedi'i dibrisio fel procsi ar gyfer gwerth teg yr asedau hyn.

Mae’r holl gyfarpar a brynwyd yn uniongyrchol gan ACC ac a oedd yn costio £5,000 neu fwy wedi’i gyfalafu. 

Darperir ar gyfer dibrisiant yn y mis ar ôl caffael ac fe'i cyfrifir er mwyn dileu’r gwerth ar ôl tynnu’r gwerth gweddilliol amcangyfrifedig, mewn rhannau cyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig, fel y dangosir isod.

Oes ddefnyddiol disgwyliedig yr offer
Categori cyfarparOes ddefnyddiol ddisgwyliedig
Gosodiadau a ffitiadau10 mlynedd
Cyfarpar TGCh3 i 5 blynedd
Cyfarpar arall5 mlynedd
Asedau anniriaethol

Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli oherwydd natur benodol asedau anniriaethol, cânt eu datgan ar gostau hanesyddol a'u hamorteiddio ar sail llinell syth dros yr oes ddefnyddiol amcangyfrifedig neu dymor y drwydded. Darperir ar gyfer amorteiddio yn y mis ar ôl caffael yr ased.

Mae asedau anniriaethol sy'n cael eu datblygu yn ymwneud â datblygiadau system ar gyfer diogelwch cyfrifon defnyddwyr. Mae'r costau ar gyfer y rhain yn cael eu hadrodd ar wahân yn nodyn 3.2. Mae costau'n cael eu cronni nes bod yr ased ar gael i'w ddefnyddio, ac wedi hynny caiff ei drosglwyddo i'r categori asedau perthnasol a bydd tâl amorteiddio yn cael ei godi.

Oes ddefnyddiol disgwyliedig asedau anniriaethol
Categori o Ased AnniriaetholOes ddefnyddiol amcangyfrifedig
Trwyddedau a meddalwedd3 blynedd

2. Gwariant

Gwariant yn ystod y cyfnod
 2023-24
£000
2022-23
£000
Staff a chostau cysylltiedig  
Cyflogau4,012 3,703 
Costau pensiynau1,072 1,026 
Costau nawdd cymdeithasol444 428 
Costau asiantaeth0
 5,528 5,157 
Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff  
Hyfforddi a datblygu111 89 
Teithio a chynhaliaeth27 18 
Treuliau eraill sy'n gysylltiedig â chyflogeion25
 163 113 
Costau gweithredu eraill  
Gweinyddu a chostau swyddfa eraill90 74 
Costau'r Bwrdd a chostau cysylltiedig81 69 
Ffi archwilio allanol36 34 
Costau sy'n gysylltiedig â TGCh1,523 1,111 
Ffi archwilio mewnol13 14 
Costau proffesiynol eraill306 272 
 2,049 1,574 
Amorteiddiad a dibrisiant114 101 
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr am y flwyddyn7,854 6,945 

Mae dadansoddiad pellach o gostau staff a chostau cysylltiedig i'w cael yn yr adroddiad cydnabyddiaeth ariannol a phobl.

3. Asedau anghyfredol

3.1 Cyfarpar
 Cyfarpar TGCh
£000

Peiriannau ac offer

£000

Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 202327071341
Ychwanegiadau96096
Gwarediadau0(11)(11)
Ar 31 Mawrth 202336660426
Dibrisiant
Dibrisiant ar 1 Ebrill 202316710177
Tâl am y flwyddyn53659
Gwarediadau0(11)(11)
Ar 31 Mawrth 20242205225
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202310361164
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202414655201
Cost neu brisiad
Cost ar 1 Ebrill 2022215 11 226 
Ychwanegiadau55 60 115 
Ar 31 Mawrth 2023 270 71 341 
Dibrisiant 
Ar 1 Ebrill 2022124 132 
Tâl am y flwyddyn43 45 
Ar 31 Mawrth 2023167 10 177 
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 202291 94 
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2023103 61 164 
3.2 Asedau anniriaethol 
 Trwyddedau
£000
Meddalwedd
£000
Ased sy’n cael ei ddatblygu
£000
Cyfanswm
£000
Cost neu brisiad 
Cost ar 1 Ebrill 2023 642,54002,604
Ychwanegiadau1370101238
Gwarediadau (64)00(64)
Ar 31 Mawrth 2024 1372,5401012,778
Amorteiddiad  
Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2023 572,52002,577
Tâl am y flwyddyn 3817055
Gwarediadau (64)00(64)
Ar 31 Mawrth 2024 312,53702,568
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2023 720027
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2024 1063101210
Cost neu brisiad 
Cost ar 1 Ebrill 2022 64 2,54002,604 
Ychwanegiadau 00
Gwarediadau 0
Ar 31 Mawrth 202364 2,540 02,604 
Amorteiddiad 
Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2022 34 2,48702,521 
Tâl am y flwyddyn 23 33056 
Gwarediadau 0
Ar 31 Mawrth 2023 57 2,52002,577 
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2022 30 53083 
Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2023 20027 

4. Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall

Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall ar ddiwedd y cyfnod 
 2023-24
£000
2022-23
£000
Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall 148104
Balans ar 31 Mawrth 148104

5. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod 
 2023-24
£000
2022-23
£000
Balans ar ddechrau'r cyfnod 966868 
Newid net mewn balansau arian parod a chyfwerth ag arian parod 152 98 
Balans ar 31 Mawrth  1,118 966 

Mae'r holl falansau'n cael eu cadw gan Wasanaeth Bancio'r Llywodraeth.

6. Symiau masnach a symiau taladwy eraill

Symiau masnach a symiau taladwy eraill ar ddiwedd y cyfnod
 2023-24
£000
2022-23
£000
Symiau masnach taladwy (792) (746) 
Symiau taladwy eraill (155) (148) 
Balans ar 31 Mawrth (947) (894) 

Mae'r rhan fwyaf o'r symiau o fewn symiau taladwy eraill yn ymwneud â’r croniadau gwyliau blynyddol.  

7. Trafodiadau partïon cysylltiedig

Mae ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn barti cysylltiedig. Roedd trafodiadau materol yn ystod y flwyddyn gyda Llywodraeth Cymru fel a ganlyn: 

  • derbyniwyd cyllid refeniw o £7.87 miliwn yn ystod y flwyddyn (2022 i 2023: £6.94 miliwn). 
  • derbyniwyd cyllid cyfalaf o £350,000 yn ystod y flwyddyn (2022 i 2023: £119,000).  
  • gwnaed taliadau o £5.60 miliwn i Lywodraeth Cymru yn ystod 2023 i 2024, yn bennaf mewn perthynas â chostau cyflogres (2022 i 2023: £5.31 miliwn).  

Ni ymgymerodd unrhyw aelodau o'r Bwrdd, uwch swyddogion na phartïon cysylltiedig, ag unrhyw drafodiadau materol gydag ACC. 

8. Ymrwymiadau cyfalaf

Nid oedd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf ar 31 Mawrth 2024. 

9. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Nid oedd unrhyw asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol ar 31 Mawrth 2024. 

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd. 

Adroddiad archwilio – datganiad treth

Tystysgrif ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Senedd 

Barn ar y datganiadau ariannol

Rwy’n tystio fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024 dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, Datganiad o 

Sefyllfa Ariannol, Datganiad Llif Arian, Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr

 a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu perthnasedd arwyddocaol. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw'r gyfraith berthnasol a’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r datganiadau ariannol: 

  • yn rhoi darlun gwir a theg o sefyllfa materion Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2024 ac o’i gostau gweithredu net, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; 
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â’r safonau cyfrifyddu rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU fel y’u dehonglwyd ac y’u haddaswyd gan Lawlyfr Adrodd Ariannol Trysorlys EF.
  • wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 .

Barn ar reoleidd-dra 

Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y barnau

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (Y DU)) a Nodyn Ymarfer 10 ‘Archwilio Datganiadau Ariannol Endidau’r Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig’. Caiff fy nghyfrifoldebau dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yn yr adran o’m tystysgrif sy’n nodi cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol. 

Mae fy staff a minnau’n annibynnol ar y corff yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barnau.

Casgliadau sy’n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnyddio’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol i baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i gyflawni, nid wyf wedi adnabod unrhyw ansicrwydd perthnasol mewn perthynas â digwyddiadau neu amodau a all, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r corff i barhau i fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r dyddiad pan awdurdodir cyhoeddi'r datganiadau ariannol.

Caiff fy nghyfrifoldebau i a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol eu disgrifio yn yr adrannau perthnasol o’r dystysgrif hon.

Caiff y sail gyfrifyddu busnes gweithredol ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru ei mabwysiadu gan ystyried y gofynion yn Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF, sy’n ei gwneud yn ofynnol i endidau fabwysiadu’r sail gyfrifyddu busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle disgwylir y bydd y gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a rhannau eraill o’r adroddiad a archwilir a'm hadroddiad i fel archwilydd ar y rhain. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn am y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall a, heblaw i'r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar yr wybodaeth arall honno. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn berthnasol anghyson â’r datganiadau ariannol neu wybodaeth a gafwyd wrth gyflawni'r archwiliad, neu'n ymddangos fel arall fel pe bai wedi cael ei chamddatgan yn berthnasol. Os wyf yn canfod anghysonderau perthnasol o’r fath neu wybodaeth berthnasol o’r fath sy’n ymddangos fel pe bai wedi cael ei chamddatgan, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn achosi camddatganiad perthnasol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi’i wneud, os wyf yn dod i’r casgliad bod yr wybodaeth arall hon wedi’i chamddatgan yn berthnasol, mae’n ofynnol i mi nodi’r ffaith honno.

Nid oes unrhyw beth gennyf i’w nodi yn hyn o beth.

Barn ar faterion eraill 

Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio wedi cael ei pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 . 

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad:

  • mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff eu harchwilio wedi cael eu paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a wnaed dan Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 ; ac
  • mae’r wybodaeth a roddir yn y Adroddiad Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth am y corff a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau perthnasol yn yr Adroddiad Perfformiad neu’r Datganiad Llywodraethu.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol, y cyflwynaf adroddiad i chi arnynt os bydd yr amgylchiadau canlynol yn berthnasol, yn fy marn i:

  • nid wyf wedi cael yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.
  • ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu priodol neu ni chafwyd ffurflenni sy’n ddigonol ar gyfer fy archwiliad o ganghennau nad ymwelodd fy nhîm â hwy;
  • nid yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Atebolrwydd a gaiff ei harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu;
  • nid yw gwybodaeth a nodir gan Weinidogion Cymru ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a thrafodion eraill wedi cael ei datgelu; 
  • nid yw datgeliadau penodol ynghylch cydnabyddiaeth ariannol a nodir gan Lawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad ar Gydnabyddiaeth Ariannol a Staff sydd i’w harchwilio yn gyson â’r cofnodion a’r ffurflenni cyfrifyddu; neu
  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel a esbonnir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am: 

  • gadw cofnodion cyfrifyddu priodol;
  • paratoi datganiadau ariannol ac Adroddiad Blynyddol yn unol â’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol ac am fod wedi’i argyhoeddi eu bod yn rhoi darlun gwir a theg; 
  • sicrhau bod yr Adroddiad Blynyddol a’r datganiadau ariannol yn ei cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy;
  • sicrhau rheoleidd-dra trafodion ariannol;
  • pa bynnag reolaethau mewnol sy'n angenrheidiol ym marn y Swyddog Cyfrifyddu i allu paratoi datganiadau ariannol heb unrhyw gamddatganiadau perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall; 
  • asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo'n gymwys, faterion sy'n ymwneud â'r busnes gweithredol a defnyddio sail gyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y corff yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

Cyfrifoldebau’r archwilydd am archwilio’r datganiadau ariannol

Fy nghyfrifoldeb yw archwilio’r datganiadau ariannol, eu hardystio ac adrodd arnynt yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch p'un a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhai heb unrhyw gamddatganiad perthnasol, boed hynny trwy dwyll neu wall, a chyhoeddi tystysgrif sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n gwarantu y bydd archwiliad a gynhelir yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU wastad yn canfod camddatganiad perthnasol pan fo'n bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall ac fe'u hystyrir yn berthnasol os, yn unigol neu gyda'i gilydd, gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn golygu achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â’m cyfrifoldebau, a nodir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll. 

Roedd fy ngweithdrefnau’n cynnwys y canlynol:

  • Holi’r rheolwyr, adran archwilio mewnol yr endid a archwilir a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennaeth ategol mewn perthynas â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy’n ymwneud ag: 
    • adnabod, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau a pha un a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio;
    • canfod ac ymateb i’r risgiau o dwyll a pha un a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; a hefyd
    • y rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau.
  • Ystyried fel tîm archwilio sut a ble allai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll. Fel rhan o’r drafodaeth hon, canfûm botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: adnabod refeniw, adnabod gwariant, cofnodi dyddlyfrau anarferol; a 
  • Cael dealltwriaeth am y fframwaith awdurdod sydd gan Awdurdod Cyllid Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru  yn gweithredu oddi mewn iddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru ;
  • Cael dealltwriaeth am berthnasoedd partïon cysylltiedig.
  • adolygu’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol a phrofi yn erbyn dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodir uchod;
  • holi’r rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio ac ymgynghorwyr cyfreithiol ynghylch ymgyfreithiad a hawliadau gwirioneddol a phosibl;
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu a’r Bwrdd;
  • wrth fynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy wrthwneud rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion dyddlyfr ac addasiadau eraill; asesu a yw’r dyfarniadau a wnaed wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu’n rhoi arwydd o wyrduedd bosibl; a gwerthuso’r rhesymeg fusnes dros unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes; a

Yn ychwanegol at yr uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a ganfuwyd yn cynnwys y canlynol:

Fe wnes i hefyd gyfleu deddfau a rheoliadau dynodedig perthnasol a risgiau posibl o dwyll i holl aelodau’r tîm archwilio ac aros yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau trwy gydol yr archwiliad.

Effeithir ar y graddau y mae fy ngweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, gan yr anhawster cynhenid o ran canfod afreolaidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru , a natur, amseriad a hyd a lled y gweithdrefnau archwilio a gyflawnwyd. 

Ceir disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'm hadroddiad archwilio.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Rwy’n gorfod ateb gofynion o ran cael tystiolaeth sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol wedi cael eu cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodion ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwy’n cyfathrebu gyda’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymhlith pethau eraill, cwmpas ac amseriad arfaethedig yr archwiliad a chanfyddiadau archwilio arwyddocaol, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol yr wyf yn eu hadnabod yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes unrhyw sylwadau gennyf i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn. 

Adrian Crompton 
Archwilydd Cyffredinol Cymru     

1 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ 

18 Medi 2024

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio'n wreiddiol. Cyfieithiad o'r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw'r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Datganiad treth

Datganiad o refeniw, incwm arall, a gwariant 
 Nodyn 2023-24
£000
2022-23
£000
Refeniw 
Trethi a thollau 
Treth Trafodiadau Tir (TTT) 2.1269,893372,106
Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) 2.229,71842,014
Cyfanswm trethi a thollau  299,611

414,120

 

Incwm arall    
Cosbau 2.3417420
Llog 2.3263107
Cyfanswm cosbau a llog  680527
Cyfanswm y refeniw  300,291

414,647

 

Gwariant 
Llog a dalwyd  3.1(719)(218)
Colledion refeniw 3.2119(546)
Cyfanswm y gwariant  (600)(764)
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru  299,691413,883

Ni chafwyd unrhyw enillion na cholledion cydnabyddedig a gyfrifwyd amdanynt y tu hwnt i’r datganiad refeniw, incwm arall a gwariant.

Datganiad o sefyllfa ariannol 
 Nodyn 2023-24
£000
2022-23
£000
Asedau cyfredol 
Symiau derbyniadwy 4.12,8742,280
Trethi cronedig derbyniadwy 4.115,40516,572
Arian parod 511,8059,535
Cyfanswm asedau cyfredol  30,08428,387
Rhwymedigaethau cyfredol 
Symiau taladwy a balansau ar gyfrif 6(304)(536)
Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys 7(1,789)(1,551)
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol  (2,093)(2,087)
Cyfanswm yr asedau net  27,99126,300
Cynrychiolir gan    
Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru 927,99126,300

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
18 Medi 2024

Datganiad o lifau arian parod 
 Nodyn 2023-24
£000
2022-23
£000
Llif arian net o weithgareddau gweithredol A300,270418,600
Arian parod a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru  (298,000)(422,000)
Arian parod a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru B2,270(3,400)

Nodiadau ar y datganiad o lifau arian parod 

A: Cysoniad llif arian newydd â symudiad mewn cronfeydd net 
 2023-24
£000
2022-23
£000
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru 299,691413,883
Gostyngiad/(cynnydd) mewn asedau nad ydynt yn arian parod 5733,854
(Gostyngiad)/cynnydd mewn rhwymedigaethau  (232) 426
(Gostyngiad)/cynnydd mewn darpariaeth ar gyfer rhwymedigaethau 238 437
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 300,270418,600
B Dadansoddiad o'r newidiadau yn y gronfa arian net 
 2023-24
£000
2022-23
£000
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn 2,270(3,400)
Arian net ar 1 Ebrill (balans agoriadol y banc) 9,53512,935
Arian net ar 31 Mawrth (balans banc terfynol) 11,8059,535

Nodiadau i'r datganiad treth

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu 

  1. Sail y cyfrifyddu 

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â: 

  • y cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 30 (1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 
  • Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) a gyhoeddir gan Drysorlys EF 
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus 
  • y polisïau cyfrifo y manylir arnynt yn y nodiadau diweddarach 

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt eto wedi dod i rym. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.  

Yr incwm ac unrhyw wariant cysylltiedig a gynhwysir yn y datganiadau hyn yw'r llif arian hwnnw y mae ACC yn ei drin ar ran Cronfa Gyfunol Cymru, a phan fo’n gweithredu fel asiant yn hytrach nag fel pennaeth. 

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £1,000 agosaf. 

1.2 Confensiwn cyfrifyddu 

Paratowyd y datganiad treth yn unol â'r confensiwn cost hanesyddol. Cyfrifir am drethi, gan gynnwys ad-daliadau, ar sail croniadau. 

1.3 Cydnabod refeniw 

Trethiant 

Caiff trethi eu mesur yn unol ag IFRS 15. Cânt eu mesur ar werth teg y symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy, net o ad-daliadau. Cydnabyddir refeniw pan: 

  • mae digwyddiad trethadwy wedi digwydd, y gellir mesur y refeniw yn ddibynadwy, a’i bod yn debygol y bydd y buddion economaidd o'r digwyddiad trethadwy yn llifo i Gronfa Gyfunol Cymru. 
  • mae digwyddiad trethadwy yn digwydd pan fydd atebolrwydd i dalu treth 

Caiff unrhyw ddiwygiadau, gan gynnwys ad-daliadau cyfradd uwch, eu cydnabod hyd at 30 Ebrill yn y flwyddyn ariannol ddilynol os ydynt yn berthnasol i flwyddyn ariannol flaenorol. 

Cosbau a llog 

Caiff cosbau a llog eu mesur yn unol ag IFRS 15. Cânt eu mesur ar werth teg symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy. 

Cydnabyddir refeniw pan: 

  • gaiff y gosb neu dâl llog ei osod yn ddilys a daw’n dderbyniadwy gan ACC 

Mae refeniw cosbau cydnabyddedig yn cael ei wrthdroi yn y cyfrifiad: 

  • pan fo cosb yn cael ei chanslo yn sgil cywiro mân wall gan y trethdalwr neu'r asiant ar y ffurflen dreth. 
  • pan fo cosb yn cael ei chanslo yn dilyn adolygiad gan ACC 
  • pan fo apêl, neu resymau cyfreithiol eraill, yn diddymu’r gosb 

Lle ystyrir yn ddiweddarach bod refeniw cosb neu log a gydnabyddwyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol yn anghasgladwy am resymau heblaw'r hyn a nodir yma, cofnodir hyn fel traul ar y dyddiad yr ystyrir ei fod yn anghasgladwy. 

Nid yw ACC yn cydnabod y bwlch treth yn y datganiad treth. Dyma'r gwahaniaeth rhwng swm y dreth a ddylai, mewn theori, gael ei chasglu gan ACC (yr atebolrwydd damcaniaethol), a’r hyn a gesglir. Y dreth a fyddai'n cael ei thalu pe byddai pob trethdalwr yn cydymffurfio â llythyren y ddeddf a dehongliad ACC o fwriad Senedd Cymru wrth ddeddfu (y cyfeirir ati fel ysbryd y gyfraith) yw’r rhwymedigaeth dreth ddamcaniaethol hon. 

Gohiriadau 

Mae gohiriad yn digwydd pan fydd gan drafodiad tir sawl cam o bennu pris prynu a phan fo un neu fwy o'r camau hyn yn ddyledus yn y dyfodol ac yn amodol ar ddigwyddiad. Nid yw ACC yn cydnabod y refeniw treth ar y taliadau hyn yn y dyfodol hyd nes bod y digwyddiad hwnnw'n digwydd a bod y pris prynu ychwanegol yn daladwy. Enghraifft o ohirio yw pan fo tir yn cael ei brynu a bod swm ychwanegol yn daladwy ar ôl cael caniatâd cynllunio. Yn yr achos hwn, cydnabyddir refeniw treth ar y taliad ychwanegol ar yr adeg pan roddir y caniatâd cynllunio. 

Ymholiadau a thribiwnlysoedd 

Yn unol â’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol, nid yw refeniw treth ynghyd ag ad-daliadau treth neu gosb sy'n deillio o ymholiadau neu achosion tribiwnlys yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon nes bydd y penderfyniad neu'r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi. Gwneir datgeliadau sy'n ymwneud ag ymholiadau neu dribiwnlysoedd yn y cyfrifon dim ond os ydynt yn arwain at effaith ariannol faterol. 

1.4 Defnyddio dyfarniadau  

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad polisïau cyfrifyddu a'r symiau o refeniw, asedau, atebolrwydd, a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol. 

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol: 

  • mae datgelu rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer ad-dalu cyfraddau uwch TTT yn y cyfrifon yn seiliedig ar fodelu'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a'i dyfarniadau. Nid oes gennym ddata digonol ar gael eto er mwyn modelu prisiad cywir o rwymedigaeth ad-dalu yn y dyfodol. 

1.5 Offerynnau ariannol 

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7 Offerynnau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol datgelu rôl offerynnau ariannol yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau derbyniadwy a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau taladwy. O ganlyniad, nid oes unrhyw amlygiad i hylifedd sylweddol, risg cyfradd llog, nac ychwaith risg arian cyfred tramor. 

1.6 Cyfrinachedd trethdalwyr 

Mae ACC yn cymryd cyfrinachedd trethdalwyr o ddifrif ac ni fydd yn dangos unrhyw fanylion cyfrinachol trethdalwyr yn y datganiadau ariannol a waherddir o dan Adran 17 DCRhT 2016 oni bai bod gofyniad cyfreithiol sy’n ei gwneud yn hanfodol i wneud hynny.  

1.7 Symiau Derbyniadwy 

Nid yw'r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol yn ei gwneud yn ofynnol i ACC benderfynu ar amhariadau yn unol ag IFRS 9 Offerynnau Ariannol, gan fod y safon yn ymwneud ag offerynnau ariannol. Daw trethi o statud yn hytrach na chontract, ond, mae amhariadau wedi'u mesur gan ddefnyddio'r model colli credyd a nodir yn IFRS 9. Mae'r model amhariad yn IFRS 9 yn seiliedig ar y cynsail o ddarparu ar gyfer colledion disgwyliedig gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael a chan ystyried y tebygolrwydd o’u casglu.   

Caiff gwerth symiau derbyniadwy ACC eu hadolygu'n unigol ar ddyddiad pob cyfnod adrodd i benderfynu a oes unrhyw arwydd o amhariad. Os oes arwydd o'r fath yn bodoli, adroddir ar y gwerthoedd yn y Datganiad o Sefyllfa Ariannol ar ôl yr amhariad er mwyn adlewyrchu'r swm sy'n debygol o gael ei gasglu. 

Mae colledion refeniw yn digwydd pan fydd ACC yn rhoi'r gorau’n ffurfiol i weithgarwch casglu. Mae mwyafrif llethol yr achosion hyn yn cael eu hachosi gan ansolfedd unigolion a busnesau. Daw colledion refeniw o ollwng a dileu dyledion. Mae gollyngdodau’n ddyledion y gellir eu hadennill ond fod ACC wedi penderfynu peidio â mynd ar drywydd y ddyled ar sail gwerth am arian. Bydd ACC ond yn dileu dyledion y mae'n eu hystyried yn rhai na ellir eu hadennill pan nad oes modd ymarferol mynd ar drywydd y ddyled. 

Caiff polisïau cyfrifyddu pellach eu hegluro yn y nodiadau perthnasol. 

2. Refeniw ac incwm arall 

2.1 Treth Trafodiadau Tir 
 2023-24
£000
2022-23
£000
Preswyl 202,595277,938
Amhreswyl [1]67,29894,168
Cyfanswm Treth Trafodiadau Tir 269,893372,106

[1] Mae hyn yn cynnwys trafodiadau defnydd cymysg o £10.61 miliwn yn 2023 i 2024 a £11.38 miliwn yn 2022 i 2023.  

Mae'r ffigur hwn wedi'i ostwng er mwyn cyfrif am ad-daliadau cyfradd uwch o £18.80 miliwn (2022 i 2023: £20.33 miliwn) sydd bellach yn cael eu trin fel prif gyfraddau preswyl lle mae trethdalwyr wedi gwneud cais llwyddiannus am ad-daliad. 

Y digwyddiad trethadwy ar gyfer TTT yw prynu tir neu eiddo. Mae cyfraddau preswyl uwch TTT yn daladwy ar brynu eiddo ychwanegol yng Nghymru. Mae'r gyfradd uwch yn ad-daladwy i'r trethdalwr pan werthir prif breswylfa'r trethdalwr o fewn tair blynedd i brynu'r eiddo ychwanegol. Cydnabyddir hyn pan fydd y trethdalwr neu’r asiant yn cyflwyno hawliad, sy’n creu’r rhwymedigaeth, a bod gwerthiant y breswylfa flaenorol yn digwydd o fewn y flwyddyn ariannol yr adroddir arni, neu’n gynharach.   

2.2 Treth Gwarediadau Tirlenwi
 2023-24
£000
2022-23
£000
Treth Gwarediadau Tirlenwi 29,71842,014
Cyfanswm Treth Gwarediadau Tirlenwi 29,71842,014

Telir TGT pan waredir gwastraff i safleoedd tirlenwi a chaiff ei gyfrifo yn ôl y pwysau a’r math o wastraff. 

2.3 Cosbau a llog 

 

 

2023-242022-23
Cosb
£000
Llog
£000
Cosb
£000
Llog
£000
Treth Trafodiadau Tir 415197420105
Treth Gwarediadau Tirlenwi 26602
Cyfanswm cosbau a llog 417263420107

Codir cosbau pan fydd ffurflenni treth yn cael eu derbyn yn hwyr, os bydd taliadau’n hwyr, neu am resymau eraill a ganiateir o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. 

Codir llog ar daliadau treth hwyr neu gosbau. 

3. Gwariant

3.1 Llog a dalwyd 
 2023-24
£000
2022-23
£000
Treth Trafodiadau Tir (719)(218)
Treth Gwarediadau Tirlenwi 00
Cyfanswm y llog a dalwyd (719)(218)

Mae llog yn daladwy gan ACC ar ad-daliad unrhyw rwymedigaethau treth neu gosbau. 

3.2 Colledion refeniw 

 

 

2023-242022-23
(Cynnydd)/ gostyngiad mewn amhariadau treth
£000
Dyled wedi'i dileu
£000
(Cynnydd)/ gostyngiad mewn amhariadau treth 
£000
Dyled wedi'i dileu
£000
Treth Trafodiadau Tir 159(40)(544)2
Treth Gwarediadau Tirlenwi 0000
Cyfanswm y colledion refeniw 159(40)(544)(2)

Mae colledion refeniw yn cynnwys dileu dyledion a'r symudiad yn y ddarpariaeth ar gyfer amhariad treth (gweler nodyn 4.2).  

Dilëir dyledion pan fydd pob cam rhesymol wedi’i gymryd ac ar ôl ystyriaeth yn ofalus, na ellir adennill y symiau hyn. 

4. Symiau derbyniadwy a refeniw cronedig derbyniadwy  

4.1 Symiau derbyniadwy sy'n ddyledus 

 

 

2023-242022-23
Symiau derbyniadwy
£000
Refeniw cronedig derbyniadwy
£000
Symiau derbyniadwy
£000
Refeniw cronedig derbyniadwy
£000
Treth Trafodiadau Tir 3,57910,2323,1739,560
Treth Gwarediadau Tirlenwi 05,17307,012
Cyfansymiau cyn amhariad 3,57915,4053,17316,572
Tynnu amhariad  
(nodyn 4.2) 
(705)0(893)0
Cyfanswm 2,87415,4052,28016,572

Rhwymedigaethau trethdalwyr yw’r symiau derbyniadwy, lle mae’r symiau sy'n ddyledus gan y trethdalwr, gan gynnwys cosbau ariannol a llog wedi eu hysgwyddo yn ystod y cyfnod adrodd, ond na dderbyniwyd y symiau erbyn dyddiad y fantolen. 

Symiau sy'n ddyledus mewn perthynas â ffurflenni treth yw refeniw cronedig derbyniadwy, lle mae'r rhwymedigaeth treth wedi'i phrofi ar ddyddiad y fantolen ond heb ei dychwelyd ar ddyddiad y fantolen. 

4.2 Darpariaeth amhariad 

 

 

2023-242022-23
Treth Trafodiadau Tir
£000
Treth Gwarediadau Tirlenwi
£000
Treth Trafodiadau Tir
£000
Treth Gwarediadau Tirlenwi
£000
Ar 1 Ebrill89303530
Cynnydd/(gostyngiad) mewn amhariad(160)05430
Defnydd o amhariad(28)0(3)0
Balans ar 31 Mawrth70508930

Gwneir darpariaeth amhariad pan fo'n debygol na dderbynnir y dreth neu’r cosbau sy'n ddyledus yn llawn. Amhariad yw gwerth dyled sydd, yn ein barn ni, yn debygol o fod yn anadenilladwy yn y tymor hwy. Adroddir ar symiau derbyniadwy yn y datganiad o sefyllfa ariannol ar ôl didynnu gwerth amcangyfrifedig amhariadau. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer amhariad yn seiliedig ar lawer o ffactorau, megis sefyllfaoedd pan, yn anffodus, mae trethdalwr ar fin mynd i ddwylo'r gweinyddwyr neu pan fydd camau cyfreithiol wedi'u cymryd.

5. Arian parod

Balans arian parod ar ddiwedd y cyfnod
 2023-24
£000
2022-23
£000
Gwasanaeth Bancio'r Llywodraeth 11,8059,535
Balans ar 31 Mawrth11,8059,535

Mae ACC yn talu arian i Gronfa Gyfunol Cymru yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae'r balans uchod yn cynrychioli cyllid a gafwyd o drethi na ofynnwyd amdanynt cyn 31 Mawrth.

6. Symiau taladwy a balansau ar gyfrif

Symiau taladwy a balansau ar gyfrif ar ddiwedd y cyfnod 
 2023-24
£000
2022-23
£000
Treth Trafodiadau Tir 304536
Treth Gwarediadau Tirlenwi 00
Total304536

Mae symiau taladwy a balansau ar gyfrif yn symiau sydd wedi’u cofnodi fel rhai sy’n ddyledus gan ACC a lle nad yw'r taliad wedi'i wneud hyd yn hyn. Gellir diwygio ffurflenni treth hyd at ddeuddeg mis o’r dyddiad ffeilio. Mewn rhai amgylchiadau bydd hyn yn arwain at ad-daliad. Mae'r balansau hyn yn cynnwys ad-daliadau treth, cosbau neu log sydd heb eu talu, gan gynnwys hawliadau ad-daliad cyfradd uwch.

7. Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys

Darpariaeth ar gyfer treth mewn tribiwnlys ar ddiwedd y cyfnod 
 2023-24
£000
2022-23
£000
Treth Trafodiadau Tir 1191
Treth Gwarediadau Tirlenwi 1,6701,550
Cyfanswm 1,7891,551

Fel y nodwyd ym mholisi cyfrifyddu 1.3, nid yw refeniw sy'n ymwneud ag achosion tribiwnlys yn cael ei gydnabod yn y cyfrifon hyd nes y cyhoeddir y penderfyniad neu'r dyfarniad. Sefydlwyd y ddarpariaeth i gydnabod bod ACC wedi derbyn taliadau pan fo'r trethdalwr wedi apelio i dribiwnlys mewn perthynas â'r dreth sy'n ddyledus. 

8. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol

8.1 Asedau digwyddiadol  

Mae gennym y pŵer i agor ymholiad i unrhyw beth sydd wedi'i gynnwys, neu y mae'n ofynnol ei gynnwys, mewn ffurflen dreth, sy'n ymwneud ag:    

  • a yw'r trethdalwr yn atebol am dalu treth 
  • faint o dreth sy'n daladwy 
  • a oes gan y person a wnaeth y ffurflen dreth hawl i gredyd treth a hawlir yn y ffurflen dreth  

Ar ddiwedd yr ymholiad bydd ACC yn hysbysu'r trethdalwr o'r canlyniad ac a yw’r ffurflen dreth a/neu'r dreth sy'n ddyledus yn cael ei diwygio. Pan fydd yr ymholiad wedi'i gwblhau a hysbysiad cau yn cael ei gyflwyno, dangosir unrhyw dreth ychwanegol neu ostyngiad mewn treth yn y datganiadau ariannol ar y dyddiad cau.   

Mae gennym nifer o ymholiadau i TTT a TGT ar agor ond ein barn ni yw:  

  • bod rhai ohonynt yn eu camau dechreuol ac nad yw'n bosibl eto asesu gyda sicrwydd faint o dreth sy'n destun ymholiad 
  • y gall datgelu unrhyw wybodaeth am eu natur a’u gwerth arwain at ddatgelu gwybodaeth am drethdalwyr gwarchodedig    

Am y rhesymau hyn, ni ddatgelir gwerth asedau digwyddiadol sy'n ymwneud ag ymholiadau yn y datganiadau ariannol hyn. 

8.2 Rhwymedigaethau digwyddiadol 

Mae gan drethdalwyr sydd wedi talu cyfraddau uwch ar eu trafodiad preswyl yr hawl i hawlio prif gyfraddau preswyl ar eu prif breswylfa newydd os byddant wedi gwaredu eu prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd i ddyddiad prynu’r eiddo newydd. Mae'n rhaid i'r trethdalwr anfon cais er mwyn derbyn yr ad-daliad. 

Dangosir yr ad-daliad posibl hwn o gyfraddau uwch y dreth fel rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer y datganiad treth oherwydd ansicrwydd yr adhawliadau a'u hamseriadau. Ar gyfer 2023 i 2024, y swm a amcangyfrifir yw £20.0 miliwn (2022 i 2023: £24.2 miliwn) a gyfrifiwyd ar sail canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. 

9. Balans sy'n ddyledus i Gyfrif Cronfa Gyfunol Cymru 

 2023-24
£000
2022-23
£000
Balans ar Gronfa Gyfunol Cymru ar 1 Ebrill 26,30034,417
Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru 299,691413,883
Tynnu’r swm a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru (298,000)(422,000)
Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru 27,99126,300

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd. 

Geirfa

Amorteiddiad 

Dosraniad cost ased anniriaethol dros ei oes ddefnyddiol. 

Asedau anghyfredol (a elwir yn asedau sefydlog hefyd) 

Ased sydd ym meddiant y sefydliad. Gall y rhain fod yn asedau diriaethol ag iddynt sylwedd ffisegol neu’n asedau annirweddol – ased adnabyddadwy nad yw'n ariannol ac sydd heb sylwedd ffisegol iddo, er enghraifft trwyddedau a meddalwedd. 

Cronfa Gyfunol Cymru 

Y gronfa a ddefnyddir gan y Senedd i ddal symiau y pleidleisiwyd arnynt gan Senedd Cymru ac a ddyrennir wedyn drwy Gynnig Cyllidebol. 

Defnydd cymysg

Mae gan eiddo 'cymysg' (a elwir hefyd yn eiddo defnydd cymysg) elfennau preswyl ac amhreswyl. 

Dibrisiant

Dosraniad cost ased anghyfredol ddiriaethol. 

Ecwiti trethdalwyr

Asedion net y sefydliad. 

Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM)

Canllawiau cyfrifyddu technegol Trysorlys EF ar baratoi’r datganiadau ariannol. 

Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)

Cyhoeddir y rhain gan y Bwrdd Safonau Cyfrifo Rhyngwladol ac mae datganiadau ariannol y llywodraeth yn defnyddio'r rhain fel sail eu paratoadau ar gyfer eu cyfrifon. 

Symiau derbyniadwy

Symiau sy'n ddyledus i ACC ar ddiwedd y cyfnod adrodd. 

Symiau taladwy

Symiau sydd angen eu talu i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar ddiwedd y cyfnod adrodd.