Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Twristiaeth yn cael cyfle i weld atyniadau Zip World

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

A hithau’n wythnos olaf gwyliau’r Pasg, cafodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Twristiaeth, gyfle i weld y cyfleusterau o safon fyd-eang sydd wedi’u datblygu gan dîm Zip World dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae’r atyniadau wedi denu sylw helaeth yn y cyfryngau ac wedi chwarae rhan yn nhwf enw da’r Gogledd fel prifddinas Antur Ewrop. 

Gwnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas gwrdd â pherchennog Zip World – Sean Taylor a gweld y tri safle yn y Gogledd – Zip World Fforest ym Metws y Coed; Zip World y Ceudyllau Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog a Zip World Chwarel y Penrhyn ym Methesda. Mae’r cwmni hefyd wedi sefydlu Pencadlys yn Llanrwst a rhwng pob safle, mae’n cyflogi 350 o bobl ar adegau prysur.

Cafodd Zip World ei enwi fel yr Atyniad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018 a gynhaliwyd fis diwethaf. Yn ystod y gwobrau, enillodd y Gogledd wobr arbennig Croeso Cymru am Gyfraniad Rhyngwladol hefyd. 

Yn ystod ei daith o amgylch y safleoedd, clywodd y Gweinidog sut mae tîm Zip World wedi cael Pasg prysur iawn ac yn edrych ymlaen yn hyderus at dymor yr haf. 

Dywedodd Sean Taylor: 

“Fel bachgen lleol fy hun, roeddwn i wrth fy modd i ddangos i’r Arglwydd Elis-Thomas y datblygiadau cyffrous rydyn ni wedi’u cyflwyno yn y 5 mlynedd diwethaf ar ein 3 safle. Roedd yn braf hefyd gael tynnu sylw a’r effaith bositif maen nhw wedi’i chael ar y gymuned leol cafodd ei fagu ynddi.

“Er bod y Pasg yn gynnar eleni, roedden ni wrth ein boddau yn croesawu bron i 30,000 o bobl a oedd yn chwilio am antur i’n safleoedd. Mae’n dangos bod y datblygiadau arloesol rydyn ni wedi’u cyflwyno wir wedi dal dychymyg pobl. Mae gennym fwy o brosiectau ar y gweill felly rydyn ni’n edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous arall i’r cwmni.”

Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth: 

“Dwi wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi twf Zip World, mae hon yn enghraifft wych o arloesi gan y sector preifat a chefnogaeth y sector cyhoeddus yn cael effaith wirioneddol yn y farchnad fyd-eang. Mae’r tîm wedi ailddyfeisio ac ail greu yr hen dirwedd ddiwydiannol a chreu  cyfres o atyniadau o safon wirioneddol fyd-eang – sydd wedi cael sylw rhygwladol y Lonely Planet yn un enghraifft – ac wedi cyfrannu at dwf enw da gogledd Cymru fel cyrchfan Antur. Dwi’n dymuno’n dda i Sean a’r tîm gyda’u cynlluniau yn y dyfodol a fydd yn parhau i roi rhesymau cryf i bobl ymweld â Chymru.”