Atodiad E: asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Sut mae'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn dangos cysylltiad clir gyda strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cymraeg 2050 yw ein strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i'r strategaeth newydd, gyda tharged o filiwn o siaradwyr wedi'i gynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, ac yn Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol. Mae sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu hefyd wedi’i nodi fel un o 7 nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Yn ogystal, mae rhwymedigaeth statudol arnom i ystyried yn llawn effeithiau ein gwaith ar y Gymraeg. Mae hyn yn golygu ystyried sut mae unrhyw un o bolisïau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar yr iaith a'r rheini sy'n ei siarad.
Mae tair thema i strategaeth Cymraeg 2050:
Mae'r penawdau o dan bob thema yn amlinellu’r gweithgareddau sy’n gallu effeithio ar yr iaith.
Yn gyffredinol, os oes potensial i’ch polisi effeithio ar bobl, bydd yn effeithio mewn rhyw ffordd ar siaradwyr Cymraeg, ac felly ar y Gymraeg ei hun.
1. Rhif cyfeirnod yr Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg
2. A yw’r cynnig yn dangos cysylltiad clir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg? – Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr a’r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2017-2021?
Nac ydy – Heblaw y bydd yr holl ddeddfwriaeth, gohebiaeth a chyhoeddusrwydd yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 does dim effaith ar y Gymraeg. Ni wnaeth ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion yn 2020 arwain at unrhyw ymgynghorai yn amlinellu ffordd y gallai'r cynigion hyn niweidio'r Gymraeg. Bydd yr holl waith cyfathrebu sy'n ymwneud â'r Bil a'i weithredu yn ddwyieithog.
3. Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar y Gymraeg, ac esboniwch sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r effeithiau hyn er mwyn gwella’r sefyllfa o ran y Gymraeg.
Sut fydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (yn effeithiau positif a/neu andwyol)? Dylech nodi eich ymatebion i’r cwestiynau canlynol yn eich ateb, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall:
Sut fydd y cynnig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau sy’n siarad Cymraeg [1] (yn effeithiau positif a/neu andwyol)?
Dim effaith heblaw na fyddant yn gallu cael mynediad at eitemau sydd wedi eu gwahardd o dan y ddeddfwriaeth. Bydd yr holl waith cyfathrebu sy'n ymwneud â'r Bil a'i weithredu yn ddwyieithog.
Sut fydd y cynnig yn effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (yn effeithiau positif a/neu andwyol)?
Dim effaith heblaw na fyddant yn gallu cael mynediad at eitemau sydd wedi eu gwahardd o dan y ddeddfwriaeth. Bydd yr holl waith cyfathrebu sy'n ymwneud â'r Bil a'i weithredu yn ddwyieithog.
Sut fydd y cynnig yn effeithio ar wasanaethau [2] sydd ar gael yn Gymraeg (yn effeithiau positif a/neu andwyol)? (e.e. iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, amgylchedd, llywodraeth leol ac ati.)
Dim effaith heblaw na fyddant yn gallu cael mynediad at eitemau sydd wedi eu gwahardd o dan y ddeddfwriaeth. Bydd yr holl waith cyfathrebu sy'n ymwneud â'r Bil a'i weithredu yn ddwyieithog.
Sut y byddwch chi’n sicrhau bod pobl yn gwybod am y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg ac yn gallu cael mynediad iddynt a’u defnyddio mor rhwydd ag y gallent yn Saesneg? Pa dystiolaeth / data ydych chi wedi’i ddefnyddio i lywio’ch asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg neu grwpiau sydd â diddordeb yn y Gymraeg?
Heblaw y bydd yr holl ddeddfwriaeth, gohebiaeth a chyhoeddusrwydd yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 does dim effaith ar y Gymraeg. Ni wnaeth ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion yn 2020 arwain at unrhyw ymgynghorai yn amlinellu ffordd y gallai'r cynigion hyn niweidio'r Gymraeg.
Pa dystiolaeth arall fyddai’n eich helpu i gynnal asesiad gwell?
Amherthnasol.
Sut y byddwch yn gwybod os yw eich polisi yn llwyddiant?
Drwy ostyngiad o ran taflu sbwriel a faint o wastraff plastig untro sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
[1] Gall y rhain fod yn gymunedau clos yng nghefn gwlad, mewn rhwydweithiau cymdeithasol gwasgaredig mewn trefi ac mewn rhith-gymunedau nad ydynt yn cael eu cyfyngu gan ddaearyddiaeth.
[2] Nod Strategaeth y Gymraeg yw cynyddu'r ystod o wasanaethau a gaiff eu cynnig i siaradwyr Cymraeg, a gweld cynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.