Neidio i'r prif gynnwy

Addasrwydd y buddsoddiad

Cwestiwn 1

Rhowch ddisgrifiad o'ch busnes fferm, dylai hyn gynnwys manylion y busnes a manylion yr ardal (ha) a daliadaeth y tir a ffermir gan y busnes. 

Cwestiwn 2

Rhowch fanylion am yr holl fentrau, gan gynnwys niferoedd da byw, a manylion am eich trefniadau gaeafu dan do presennol ar gyfer da byw – mathau o adeiladau (ciwbiclau, unedau rhydd gwellt) a'r niferoedd sydd ynddynt. 

Cwestiwn 3

Rhowch fanylion am eich storfa slyri a tail gyfredol. 

Cwestiwn 4 

Rhowch yr wybodaeth ganlynol i ddangos eich bod yn cydymffurfio ar hyn o bryd â gofynion storio slyri Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. 

  • Cyfanswm cyfaint, mewn metrau ciwbig, o slyri a gynhyrchir ar y daliad (gan gynnwys golchiadau parlwr a dŵr ffo claddfeydd silwair os yw'n mynd i'r storfa slyri).
  • Cyfanswm glawiad blynyddol, mewn milimetrau, yn ystod y cyfnod gwaharddedig  5 neu 6 mis ar gyfer eich lleoliad? Gellir dod o hyd i lawiad ar gyfer eich lleoliad yn Ffigurau glawiad cyfartalog (1 Hydref hyd 31 Mawrth) | MapDataCymru (llyw.cymru).
  • Cyfanswm yr arwynebedd, mewn metrau sgwâr, o fuarthau budr ac ardaloedd storio tail heb do, lle mae dŵr glaw yn cymysgu â slyri neu'n mynd i'r storfa.
  • Cyfanswm gofyniad capasiti storio slyri presennol ar gyfer eich daliad, mewn metrau ciwbig, er mwyn cydymffurfio.
  • Gan ystyried yr uchod, beth yw cyfanswm y capasiti storio sydd ei angen ar gyfer eich daliad? (Slyri + dŵr glaw + bwrdd rhydd).

Cyflwyno tystiolaeth o gyfrifiadau capasiti storio slyri fel dogfennau ategol.

Gellir defnyddio'r gweithlyfr canlynol i'ch cynorthwyo i ddangos gofynion capasiti storio slyri: https://www.llyw.cymru/rheoliadau-adnoddau-dwr-rheoli-llygredd-amaethyddol-cymru-2021-gweithlyfr-fferm

Mae canllawiau i gwblhau'r gweithlyfr ar gael yn:  https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2023-02/rheoliadau-adnoddau-dwr-rheoli-llygredd-amaethyddol-cymru-2021-canllawiau-gweithlyfr-fferm.pdf

Cwestiwn 5

Os nad ydych yn cydymffurfio ar hyn o bryd, rhowch esboniad o sut y bydd y buddsoddiad yn cefnogi'r fferm i gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Esboniwch pa gapasiti storio slyri a/neu tail ychwanegol y mae ei angen. 

Os ydych yn cydymffurfio ar hyn o bryd, rhowch esboniad o sut y bydd y buddsoddiad yn cefnogi'r fferm i wella ei phrosesau rheoli maethynnau a gwella ansawdd dŵr, aer a phridd. 

Cwestiwn 6

Disgrifiwch y prosiect. Dylid cyflwyno diagramau, delweddau neu ffotograffau o'r lleoliad, er mwyn helpu i esbonio lleoliad y prosiect. Dylech gynnwys rhif y cae a rhif cyfeirnod cynllunio, os yw ar gael. 

Cyflawni: Cyflawni'r prosiect

Darparwch gynllun prosiect/amserlen ar gyfer y prif weithgareddau a buddsoddiadau. Rhaid cynnwys cyfeiriadau at aelodau'r busnes a chontractwyr a fydd â chyfrifoldeb neu a fydd yn ymgymryd â'r gweithgaredd. 

Cyflawni: Risgiau a rheoli risgiau

Gan gydnabod y bydd rhai risgiau i brosiect, ni waeth pa mor annhebygol ydynt, mae'n bwysig nodi risgiau posibl i'ch helpu i reoli'r prosiect.

Rhowch fanylion y 5 risg uchaf o leiaf, a allai effeithio ar gyflawni'r prosiect a chyflawni allbynnau ac amcanion y prosiect.

Cynaliadwyedd hirdymor

Pa effaith fydd y buddsoddiad yn ei gael ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes?

Gwerth am arian

Dangoswch sut y cyrhaeddwyd cyfanswm costau'r prosiect drwy ddarparu dadansoddiad manwl o'r gwariant arfaethedig.

Esboniwch sut rydych wedi ystyried bod costau’r prosiect yn rhesymol, gan gynnwys cwmpas, maint ac amserlen y prosiect.

Themâu trawsbynciol

Rhowch dystiolaeth o sut bydd eich prosiect yn cyfrannu at y themâu trawsbynciol canlynol:

  1. Cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd
  2. Trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol
  3. Y Gymraeg

Dangosyddion a chanlyniadau

Mae'n ofynnol i bob prosiect a gynorthwyir lunio adroddiad ar gynnydd i'r Llywodraeth yn unol â sawl Dangosydd Perfformiad y cytunwyd arnynt. Dylai’r rhain ystyried pa gyfraniad mesuradwy y bydd eich prosiect yn ei wneud at unrhyw un, neu bob un, o’r canlynol:

  • nifer y swyddi a grëwyd neu 
  • nifer y swyddi a ddiogelwyd
  • cyfaint y storfa slyri newydd a osodwyd
  • arwynebedd y to a osodwyd.
  • nifer o eitemau taenu maethynnau manwl gywir a gefnogir

Ariannol a chydymffurfio

Mae'r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion yn cynnig uchafswm grant o 40% neu 50%, yn dibynnu ar eitemau a ddewiswyd, gyda grant tuag at gost y buddsoddiad hyd at uchafswm o £50,000. Disgrifiwch sut rydych yn bwriadu ariannu’r buddsoddiad, yn ychwanegol at y grant.  Cyflwynwch dystiolaeth i ategu eich ymateb. Gallai hyn gynnwys:

  • llythyr gan fanc neu fenthyciwr yn cadarnhau bod arian ar gael i gwblhau'r buddsoddiad
  • tystiolaeth bod cyfleuster gorddrafft ar gael i ariannu'r buddsoddiad
  • copi o gyfriflen banc fel tystiolaeth bod arian ar gael ar gyfer y buddsoddiad.

Rhestr wirio o’r dogfennau atodol

  • tystiolaeth o gyfrifiadau i ddangos gofynion storio slyri y fferm mewn perthynas â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021
  • y cyfrifon ardystiedig diweddaraf ar gyfer y busnes. (Y flwyddyn ddiweddaraf sydd ar gael)
  • 3 dyfynbris ar gyfer pob eitem a ddewisir ar y datganiadau o ddiddordeb
  • tystiolaeth bod arian ar gael
  • caniatâd cynllunio, os yw'n briodol ac ar gael
  • cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo (SAB) Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) os yw'n briodol ac ar gael 
  • ffotograffau o leoliad os yn gwneud cais am sianeli o dan y llawr, toeon dros iardiau presennol a gwella iardiau da byw

Eitemau i'w cofnodi fel eitemau taenu maethynnau manwl gywir

NM12 Tancer gwactod a thaenwr band neu ‘trailing shoe'

NM13 Tancer gwactod a chwistrellwr (Slyri)

NM14 Tancer pwmp a thaenwr band neu 'trailing shoe'.

NM15 Tancer pwmp a chwistrellwr (Slyri)

NM16 Taenwr Band neu 'trailing shoe’

NM17 Piben llinyn y bogail a thaenwr band neu 'trailing shoe'

NM18 Pibell llinyn y bogail a chwistrellwr (Slyri)

NM21 Chwistrellwr (Slyri)

NM22 Rheolydd cyfradd amrywiol ar gyfer chwistrellwyr a pheiriannau gwasgaru gwrtaith

NM31 GPS ar gyfer ffermio manwl

NM32 Systemau GPS a systemau llif ar gyfer gwasgaru slyri